Skip to main content

Y DRYSORFA. Rhif. CLXXII.] EBRILL, 1861. [Llyfr XV. WwúJgoìnm. CLODDFEYDD LLECHAU GOGLEDD CYMEÜ A'ü GWEFTHWYE. GAN Y PARCH. MORRIS HUGHES, FELINHELI. Weth ediych ar drefniacl y ddaear, "trefn natur," nid ymddengys dinî yii eglurach na bod y Grëawdwr wedi dar- paru digon o 'waith i ddyn—i'w feddwl a'i aelodau. Er esiampl, mor gwmpas- og ydyw y drefn i gael bara. Pan ä dyn i'r maes a rhwygo y ddaear â swch. a chwlltwr, mor annhebyg ydyw i gael torth. Ac wecli trîn a throi a gwr- teithio y pridd, a bwrw hâd iddo, beth a ddaw i'r golwg ond gwelltyn gwyrdd- las. Ac wedi i hwnw gael liir amser i dyfu ac addfedu, uid torthau fydd arno, ond gronynau mân ; a bydd cryn waith a thrafferth arno eto cyn y bydd yn barod i'r bwytäwr. Mae dosbarthiad pethau natur hefyd yn dangos yr un peth. Nid cyfartaledd o bob peth ymhob man ydyw y drefn, ond i'r gwrthwyneb, un peth fan yma, a'r llall fan draw, gwahanol grëaduriaid a phethau mewn gwahanol wledydd, a llawer o'r pethau gwerthfawrocaf yn ddwfn yn y ddaear. Ac mae hyn eto yn peri fod cyrchu ac anfon, newid a ffeirio, prynu a gwerthu, chwarelu a chloddio, yn anhebgorol. Dengys hyn fod masnach o drefniad y Crëawdwr yn gymaint ag o ddewisiad dyn. Fel y mae holl bethau Duw yn gydwasanaethgar i ddybenion uwch na'r rhai cyntaf a welwn ni, yr ymddengys hefyd fod masnach y byd. Nid oes eis- ieu rhyw graffder mawr bellach i ganfod dyben uwch i fasnach y byd na pnorthi blysiau plant dynion. Wedi y wasgarfa fawr ar "Wastadedd Sinar," ymwahan- odd plant Adda yn Uwythau, a chyn- nyddasant yn genedloedd lliosog ; ac yn raddol, wrth gilio y naill u fìbrdd y llall i gael digon o le, ymddyeithrasant, ac aethant o'r diwedd yn elynion mor chwerw, fel na welent y naill y llall ond i ymladd a rhyfela, er na fyddai ond afon neu grîb mynydd }ti eu gwahanu yn aml. A than y dylanwad melldith- lawn hwn, ynghyda gwahanol hinsodd- au ac amgylchiadau, Uiosognyd eu hieithoedd, eu harferion, a'u hymddan- gosiadau, i raddavi aruthrol. Ond erbyn hyn, ymddengys fod y wasgarfa fawr a'i chanl)-niadau wecli cyi'haedd eu heith- afnod, amser goiilanAY wedi dyfod, a'r ffrwd (tide) wedi troi, ac nad lhosogi a A\*na yr ieithoedd mw}-ach, ond llyncu eu gilydd fel gwartheg Pharaoh. Mae rhyw "ysbryd" wedi ni}-ned allan i blith y cenedloedd, sydd yn eu per- swadio i }migydnabyddu â'u gilydd ; ac y mae llawer o bethau ar gynnydd sydd yn bleidiol i hyn; ac y mae llawer o bethau yn erbyn hefyd, megj^s yr eilun- od a addolir dan yr enw nationalities, rhagfarnau crefyddol, a'r cyffelyb. Ond cüio o'r ffordd a raid i'r eilunod hyn, fel pob rhai eraill, "i'r wadd a'r ystlumod." Ysbryd masnach sydd wedi mjnied allan i'r byd, a than ei ddylanwad y mae cen- edloedd gelynol yn äyfod yn gyfeillion, paganiaid yn dysgu gwareiddiad, pobl- oedd yn anghofio eu gwahaniaethau, ie eu hieithoedd i raddau, ac yn awyddu dysgu iaith yr "ysbryd" hwn. Ac y mae y fath gynnydd arno, fel nad oes braidd gongl o'r ddaear heb ei holrhain gan ei anturiaethwyr llíosog; ac ni ryf-