Skip to main content

Y DRYSORFA. Rhif. CLXXI.] MAWRTH, 1861. [Llyfr XV. ŵmtfyoìmiL CORFF MOSES. Nodiadau Egluriadol ar Judas 9. "Eithr Michael yr archangel, pan oedd efe, wrth ymddadleu â diafol, yn ymresym* ynghylch corff Moses, ni feiddiodd ddwyn barn gablaidd arno, eithr efe a ddywedödd, Cerydded yr Argiwydd dydi." Nis gallwn osod allan gysylltiad y geir- iau hyn â'r adnodau cylchynol, ac an- sawdd rhesymiad yr Apostol, yn well a chrynòach nag yn ngeiriau hen dad Methodistiaeth Gymreig, y Parch. Daniel Rowlands, Llangeitho, yn nechre preg- eth o'r eiddo ar yr adnod hon: " Wedi i'r Apostol achwyn ar yr hudolwyr, ÿn erbyn pa- rai y mae efe yn ysgrifenu, eu bod 'yn diystyru llywodraeth, ac yn cablu rhai mewn awdurdod,' sef y gol- euadau mawrion y mae yr Arglwydd wedi ei osod i fyny yn yr eglwys, mae efe yma yn helaethu ar eu haerllug- rwydd a'u digywilydd-dra, trwy osod allan ymddygiad Michael yr archangel tuas at y diafol. Gwelwch, os oedd Micnael, yr hwn oedd mor rhagorol o natur, ac mor uchel o swydd, wrth ym- resymu â diafol, yr hwn oedd ysbryd aflan ac anmhur, eisoes wedi ei farnu gan yT Arglwydd—os oedd hẁn, medd- af, yn arfer y fath weddeidd-dra, pa fodd y beiddiant hwy, grëaduriaid gwael a Balw, ddirmygu personau ag sydd wedi eu gwisgo mewn uchder o lywodraeth ? Ystyriwch-yr achos,—^pan oedd 'yn ym- ramnu ynghylch corff Moses:' achos cynawn a da, ac efe a wyddai pa beth oedd meddwl Duw am dano ef; a pha fodd y beiddiant hẃý 'gablu y pethau nìs gwyddant ?' Ystyriwch dymher yr archangel,—'ni feiddiodd ddwyn barn gablaidd arno.' Ni cha'i efe, gan ei sancteiddrwydd, ymddwyn tuag at y diafol mewn ffordd anweddaidd neu sarhâus ; eithr y rhai hyn a fytheiriant allan waradwyddiadau a melldithion yn erbyn penaethiaid yn ddiofn. Y mae yr archangel yn rhoddi yr holl farn a'r achos yn llaw yr Arglwydd: 'Cerydded yr Arglwydd dydi.' Swm y cwbl yw hyn: os ydoedd angel mor fawr mewn gallu heb feiddio dwyn cablaidd-farn yn erbyn y gwaethaf o grëaduriaid mewn jinrysonfa ynghylch mater da, diammeu fod y rhai hyn yn haerllug aruthr ag sydd yn diystyru y rhai a ddyrchafodd Duw yn yr eglwys a'r wlad." Y mae Judas, ni a welwn, yn adrodd yr hanes am y ddadl rhwng Michael a'r diafol ynghylch Moses, fel ffaith sicr yr hon yr oedd ei ddarllenwyr yn gydna- byddus â hi, er nad oes gyfeiriad ati mewn un ysgrifen ganonaidd arall—jn yr Hen Destament nac yn y Newydd. Oddiyma naturiol yw gofpy 0 ba le y cafodd Judas yr apostol yr nanes hwn ? Y mäe Clement o Aîexandria, ac Origen, yn crybwyll am lyfr apocryphaidd ẅ enw Esgyniad Moses, lle y cyfeirir at y ddadl hon rhwng Michael a Satan; a cheír fod rhai ysgrifenwyr boreuol yn am- mheu awdurdodganonaidd epistol Judas, oddiar y dyb ei fod yn dyfynodi y gwaith