Skip to main content

Y DRYSORFA. Rhif. CLXX.] CHWEFROR, 1861. [Llyfr XV. Wmttyioìmn. DYGIAD CRISTIONOGAETH I BRYDAIN. GAN Y PARCH. OWEN JONES, MANCHESTER. Y mae dygiad Cristionogaeth i Ynys Prydain, a'i ffyniant ymysg ein henafiaid yn ystod y canrifoedd cyntaf o'r cyfnod Cristionogol*, yn destunau ymchwiliad tra dyddoroí i ni fel cenedl; er, ar yr un pryd, y rhaid i ni addef ein bod yn am- ddifaid o dystiolaethau dilys am lawer o'r manylion cysylltiedig â'r cyfryw am- gylchiad pwysig, ag y buasai yn dda genym eu meddu. Nis gallwn sicrhâu yn ddiammheuol gan hwy y pregethwyd yr efengyl gyntaf o fewn yr ynys hon, nac ar ba lanerch o honi y safai traed yr efengylwr hwnw, tra yn traethu y "newyddion da, o la- wenydd mawr," gyntaf yn nghlyw cyn- nulleidfa synedig o Frythoniaid eilun- addolgar, nac ymha flwyddyn y bu hyny, fel y gelüd ei gofhodi yn y Calan- iadur â llythyrenau o aur dros byth. Ac nis gallwn gael allan i eglurdeb Ijoddhäol pa ryw ddylanwad a gafodd y fath genadwri ar gorff y genedl yn y fan, neu pa mor bybyr y gwrthsefid y gref- ydd newydd yma gan brif swyddwyr a chefnogwyr mwyaf aiddgar yr hen gref- ydd Dderwyddol, nac ychwaith pa gy- hyd y parhäodd yr ymrysonfa rhwng y däwy grefydd am yr arglwyddiaeth gy- frredinol ar feddyliau y genedL Er hyny cyfarfyddwn âg amryw grybwyll- iadau yn ngweithiau rhai o hen awduron y cannfoedd cyntaf, a roddant ryw le- wyrch gwan er cyfeirio ein camrau yn ein hymchwiliadau; ac, fe allai y cyfar- fyddwn â rhai traddodiadau ymhlith ein cofion cenedlaethol a'n cynnorthwyant yn ein dyfalion. Y,mae genym dystiolaethau amr\*Av hen ysgrifenwyr cyfrifol, yn ein sicrhâu fod Cristionogaeth wedi cael derbyniad tra boreu gan ein tadau. Tertullian, yr hwn oedd yn ei flodau tua chanol yr ail ganrif, yn ei lyfr a ysgrifenai efe yn er- byn yr Iuddewon (pen. VII.) gan draethu ar eiriau y Salmydd :—" Eu llinyn a aeth trwy yr holl ddaear, a'u geii-iau hyd eithafoedd byd," a ddywed fel hyn—" Yn mhwy y credodd holl genedloedd y ddaear, ond yn Nghrist ? Nid yn unig Parthiaid, a Mediaid, ac Elamitiaid, a» thrigolion Messopotamia, a Judea, a Chapadocia, Pontus, ac Asia, Phrygia, a Phamphylia, yr Aipht, a pharthau o Lybia, a Cyrene, a dyeithriaid o Rufein- wyr, Iuddewon a phroselytiaid; ond hefyd holl derfynau yr Hispaeniaid, holl genedloedd amryfal Gaul (sef Ffrainc), cìr rhanau hyny o Brydain oeddynt an- hygyrch i'r Rhufeiniaid." Y dysgedig a'r cywrain Origen, yr hwn oedd yn ei flodau yn y rhan flaenaf o'r drydedd gan- rif, yn ei bedwaredd homili ar Ezeciel, pan yn sylwi ar y prophwydoliaethau a gydnabyddid gan yr luddewon eu bod yn cyfeirio at ddyfodiad y Messiah, a ddywed:—"Mae yr Iuddewon druain yn cydnabod fod y geiriau hyn yn cyf- eirio at bresennoldeb Crist; ond" yn eu hurtrwydd y maent yn anadnabyddus o'r person, er gweled y brophwydoliaeth yn cael ei chynawnL Pa ì>ryd cyn dy- fodiad Crist y bu tir Prydain yn cyt- tuno yn addoliad un Duw ? Pa bryd y gwelwyd hyny yn ngwlad y Mŵriaid ? ra bryd y ou yr holl ddaear ar unwaith