Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DEYSOEFA. Rhip. CLV.] TACHWEDD, 1859. [Lltfr XIIL ŵwtjiata. Y DAITH GENADOL GYNTAF. GAN Y PARCH. DAVID HOWELLS, ABERTAWB. Y mae bellach ar derfynu ddeunaw cant a thriugain o flwyddau er pan ym- adawodd Iachawdwr y byd â'r byd, ac yr aeth at y Tad. Un o'i orchymynion diweddaf i'w ddilynwyr oedd hwn,— " Ewch i'r holl fyd, a phregethwch yr efengyl i bob creadur." Mewn ufudd- dod i hyn, hwy a aethant allan, ac a bregethasant ymhob man, a'r Arglwydd yn cydweithio, yn ol ei addewid iddynt. Mae y gorchymyniad hwn, ac addewid- ion y prophwydi àm ledaeniad achos y Cyfryngwr mawr dros y byd, yn ber- ffaith gyson â'u gilydd. Mae y lle a roddir yn y Gair awyfol i'r gwirionedd hwn yn teilyngu sylw. Dywedir y bydd "mynydd tŷ yr Arglwydd wedi ei barotöi ymhen y mynyddoedd, ac yn ddyrchafedig goruwch y bryniau, a'r hoU genedloedd a ddylifant ata" " Y mae yr amser yn dyfod i gasglu'r holl genedloedd a'r ieithoedd; hwy a ddeu- ant, ac a welant fy ngogoniant." Wrth gymharu y lledáeniad â'r addewidion hyn a'r gorchymyniad hwn, gwelir anghyfartalwch mawr rhyngddynt. Mae y Pen Mawr gwedi ymddiried lledaeniad yr efengyl i'w eglwys, fel y prif offeryn yn ei íaw; ac y mae yn gymaint dyledswydd arnom i'w Iledu âg sydd i'w chredu. Mae y naill yn gíymedig wrth y llall. 0 Jerusalem y rhedodd y dyfroedd bywiol allan gyût. Oddiyno yr anfonwyd apostolion i efengyleiddio y byd. O'r Jerusalem jsbrydol, yr hon yw ein mam ni olL y mae yr efengyl i gael ei danfon i holl gýrau y ddaear. Ond nid yw y ddyledswydd hon yn cael cymaint sylw, nac yn cael ei chydnabod, fel y bydd pan y byddo'r credinwyr yn fwy ysbrydol a choethedig. Ymdrech yr eglwys o blaid y ffydd yn hyn a rydd olwg deg ar iachusrwydd ei chyfansodd- iad crefyddol. Mae mesur o'r ysbryd hwn yn beth hanfodol iddi ymhob oes; eithr ni bu yn gweitbio mor rymus mewn un oes ag yn yr un apostolaidd. Ac nis gall fod un moddion yn fwy effeithiol i gynnyrchu a meithrin yr ysbryd hwn na chymdeithasu llawer â diwydrwydd, hyfdra, a ze\ yr apostolion ac eraül, yn Llyfr yr Actau, y rhai dan ddylanwadau nefol a daenasant yr efengyl yn fuan dros lawer o wledydd Asia, Ewrop, a pharthau o Aflrica. Yr oedd agwedd yr eglwys y dyddiau hyny yn hynod ddysglaer a gogoneddus; yr athrawiaeth yn bur, ei gweinidogion yn ddonioh yn danllyd, ac yn sanctaìdd, a'i haelodau yn ymroddi yn gwbl i'r Arglwydd. " Lliaws y rhai a gredasant oedd o un galon, ac un enaid." "Yr oeddent yn parhâu yn athrawiaeth ac yn nghymdeithas yr apostolion, yn tori bara, ac mewn gweddlau." Wrth ddilyn yr hauesyddia-eth yn Llyfr yr Actau, yr ydym yn cael adrodd- iad manwl am y daith genadol gyntaf a wnaed, ac am y ddau genadwr a antur^ iodd âg efengyí y bendigedig Dduw i'r byd paganaidd. Gwnawn ychydig h h