Skip to main content

Y DRYSORFA. Rhif. CLIV.] HYDREF, 1859. [Llypr xni. ẅwfynta. TREM ETO AR YR ADFYWIAD YN SIR ABERTEIFI. GAN Y PARCH. JOHN JONES, CASTELLNEWYDD. Nid oes neb o ddarllenwyr y Drysorfa nad ydyw wedi clywed am yr adfywiad sydd wedi bod eleni yn Sir Aberteifi, ac am y miloedd lawer sydd wedi cael eu hychwanegu at yr eglwysi. Yn ol y cyfrif a ddarllenwyd yn Nghymdeith- asfa Llangeitho, yr oedd nifery rhai a dderbyniwyd i'r eglwysi, o ddechreu y flwyddyn hyd ddechreu Gorphenaf, gyda y rhai oedd newydd ddyfod i mewn ac heb eu cyflawn dderbyn, yn 7,674. Yr amcan yn yr ysgrif hon ydyw rhbddi ychydig o hanes yr ad- fywiad, ynghyd a gwneuthur rhai sylw- wadau arno. Fe allai mai yn Llangeitho, yn enw- edig ei chymydogaethau, y teimlir yr adfywiad yn fwyaf nerthol; o leiaf yn y cymydogaethau hyn yr arddangosir y teimladau dwysaf. Mae cymaint, yn ol nifer y boblogaeth a'r gwrandawyr, wedi cael eu hychwanegu at yr eglwysi yn y cymydogaethau hyn ag sydd mewn un man yn y Sîr. Mae rhyw swyn hyd yn nôd yn enw Llangẁtho i lawer o ddarllenwyr y Drysorfa, am y gellir dyweyd bron mai yno y dechreuodd Methodistiaeth Cymru. Mae yr enw yn dwyn ar gôf yr enwog aV anferwol Daniel Rowlands; ei bregethau nerthol agrymus, y cyrchu mawr oedd o bob parth o Gymru i wrandp arno am yspaid hanner cant o flynyddoedd, y tywalltiadau a fyddai ar amserau dan ei weinidogaeth, a'r efíaith a gynnyrchid trwy hyny ar Gymru yn gyffredinol, trwy fod y lli- aws a ddeuai i wrando arno o bob parth o'r Dywysogaeth yn dychwelyd adref â'u meddyliau yn llawn o'r tân nefol a ennynasid ynddynt wrth ei wrando ef, nes y byddent yn ngrym y gwres hwnw yn troi i gynghori eu cym- ydogion "i flbi rhag y llid a fydd." Mae bellach tua naw mlynedd a thri- ugain er pan fu farw y gwas flyddlawn hwn i Dduw. Bu yr achos crefyddol ymhlith y Methodistiaid yn Llangeitho, o hyny hyd yn awr, â gwahanol ag- weddau arno, fel y gellid dysgwyl; ond y mae yn flaith, a bydd yn dda gan lawer darllenydd ei gwybod, nad ydyw yr achos trwy y blynyddoedd wedx colli tir yno o ran rhif yr aelodau, nac, gob- eithiwn, o ran ysbrydolrwydd crefydd. Ac mae mor dda â hyny y gellir dy- wedyd ddarfod i'r Arglwydd yn ei ras ymweled â'r hen eglwys hon eleni, a'i gwneyd " yn Uawen fam plant." Crybwyllwyd o'r blaen, mai yn y cymydogaethau hyn, ar ryw gyfrifon, yr arddangosir y teimladau cryîaf yn yr adfywiad hwn. Mynych y torir allan i orfoleddu, moliannu, a chanmawl) yn y cyfarfodydd cyhoeddus, ond yn enw- edig yn y oyfarfodydd gweddîau. Un o'r golygfêydd hyfrydaf a welwyd er- ioed oeld yn Nghymdeithasfa Llan- geitho, yr hon a gynnaliwyd ddechreu Awst diẁeddaf. Gwelwyd yno ugein- iau, os nadcannoedd, yn enwedig obobl ieuaincj yn tori allan i orfoleádaygaa a e