Skip to main content

Y DRYSORFA. Ehif. CXLIX.] MAI, 1859. [Lltfr xm. ẅûrfjinta. Yít EGLWYS A'R WEINIDOGAETH. GAN Y PARCH. EDWARD MORGAN, DYFFRYN. Y mae holl sefydliadau crefydd o dan bob goruchwyliaeth wedi eu bwriadu i ddwyn dyn i ystad gydnaws o ran ei deimlad â'r pethau mawrion a gyf- lwynir i'w sylw. Trwy bortrëadau ac arluniau yn apelio at ei synwyrau corff- orol yr amcenid gwneuthur hyn yn yr Eglwys Iuddewig, ond trwy oleuo ei ddeall am y pethau y gwneir hyn yn yr Eglwys Gristionogol. üffeiriad oedd prif swyddog y naill, a phregethwr yd- yw prif swyddog y líall. Dechreu gyd a'r allanol yr oedd yr eglwys Iuddewig, a thrwy hwnw amcanu cyrhaedd y mewnol; gofalu yn gyntaf am daber- nacl, seremoniau neu ddefodau gwasan- aeth i'w chysegr bydol; ond ail beth oedd hyn yn yr eglwys Gristionogol. "Ni ddaw teyrnas Dduw wrth ddys^ gwyl—teyrnas Dduw o'ch mewn chwi y mae.rt Yr oedd yr ail canrif ar der- fynu cyn i Gristionogion gael yr un lle Îienodol i addoli. Yr oedd yr eglwys uddewig mor glymedig wrth leoedd, ac â phethau, a phersonau, fel nad allai Sod, fel eglwys weledig, yn annibynol arnynt. Nid ydyw yr eglwys Gristion- ogol felly, am nyny ceisir gwadu gan rai yrahob oes nad oes a fyno hi â lle- oedd, â phethau, nac â phersonau. Temtia hyn eraill i fyned i'r eithafion gwrthwyneb, i ddywedyd ei bod hi mor Hollol gysylltiecUg â lleoedd a phethau «} âj&ersonau ag ydoedd yr Iúddewig. Ond rhwng yp eithafion hyn y mae y $wiru»edcL Y mae yn perthyni'r eglwys Grist- ionogol rai pethau mor hanfodol i'w bodolaeth ag ydoedd sefydliadau yr eg- lwys Iuddewig i'w bod hi; ac amcan hyn o ysgrif a fydd chwilio ai nid ydyw y weinidogaetn yn sefyll yn yr un berthynas â'r eglwys Gristionogol ag ydoedd yr offeiriadaeth â'r eglwys Iuddewig. Os ydyw, dylai yr eglwys ofalu yn benaf, a blaenaf, ar iddi gael y lle y bwriadwyd hi iddo gan y Pen, oblegid yn hwnw, ac nid mewn un ar- all, yr etyb hi holl ddybenion ei gosod- iad. Ond beth ydyw lle y weinidogae th yn yr eglwys? I wybod hyn rhaid apelio at y gyfraith, ac at y dystiol- aeth—at ddeddflyfr Sîon; oblegid er fod rhyddid gan yr eglwys i gyfaddasu ei hun at amgylchiadau amrywiol y ddaear, nid oes rhyddid ganddi-i gyf- newid dim ar sefydliadau pendanFei Brenin; ac er y gall llawer dybio y gellid gwneuthur yn well heb rai gosod- iadau a all fod ynddi, nid tybiau neu fympwyau neb o'r doethion nyn ydyw ei rheol hi, ond ewyllys ddadguddiedig ei Brenin. "Pa beth sydd ysgrifenedig yn y gyfraith ì pa fodd y darlleni! * Darparodd Pen yr eglwys fel Brenin S'ion bob moddion anghenrbeidiol, i barhâd a ffyniant ei deyrnas hyd dáiw- edd y byd, a*r penaf ymysg y rhai hyn ydyw ý weinìdogaetìi. Enwir hi yn gyntaf ymysg y rhoddion a dderbyn- ìoddîdaynìon ar ei dyrchafiad i*t ucb- elder. "Pan ddyrchafodd i'r uchelder efe a gaethiwodd gaethiwed, ac a rodd-