Skip to main content

Y DRYSORFA. Reiif. OXLVin.] EBRILL, 1859. [Lltfr XIII. 'tetljuìiíra. YR ADFYWIAD CREFYDDOL YN SIR ABERTEIFI. GAN Y PARCH. THOMAS EDWARDS, PENLLWYN. Beth a feddyliet ti, hynaws ddarllen- ydd, am gael trem ar adfywiad cref- yddol Sir Aberteifi ? Gwelaf dy fod ar unwaith yn barod i hyny: nid oes dim a foddlonai dy gywreingarwch yn fwy na chael dyfod gyda mi i'r manau a hynodir fwyaf gan yr adfywiad hwn. Yr ydwyf finnau hefyd yn llawn mor awyddus â thithau am ry w daith fech- an fel hyn, oblegid y mae y peth y fath fel nad oes modd cy nnefino âg ef, na blino arno. Yn aẁr y mae pob peth yû bar- od i'r daith. Ond y mae arnaf eisieu dyweyd gair yn ddystaw yn dy glust cyn cychwyn. A wyddost ti beth ? Y mae yn bosibl i ti gael mwy na golwg ar yr adfywiad. Y mae yn bosibl i ti ei gael yn brofiadol i ti dy hun; ie, i ti dy hun. Mae arnat ti fel finnau ei fawr eisieu. Gobeithio dy fod yn hyderus ddysgwyl am dano. Os nad ydwyt, dos ar dy liniau am bum' mynyd o lei- af yn y gongl yna cyn dechreu; mi âf finnau i lawr i dreio, beth bynag, yn y gongl arall. 0 Dduw! a oes arnaf fi eisieu yr adfywiad hwn i mi fy hun ? A ydyw yn bosibl i mi ei gael ? A allaf fi fod o ryw ddefnydd tuag at achub fy nghyd-ddynion ? Ai mewn cwsg ys- brydol yr wyf wedi bod trwy y hlyn- yddau? A oes estroniaid yn bwyta fy nghryfder, a minnau heb wybod? A oes penwyni yn ymdaenu ar hydof, a minnau heb ddeall? A ydwyf wedi bod heb yr ua meddwL ac heb yr un dysgwyliad neillduoL am i ti achub? A ydwyf heb gymaint a chredu dy fod ti yn meddwl achub ? Cymer drugar- edd arnaf; dwg fi i deimlo fy anghen; a rho i mi fwy na hanes am adfywiad! Wel, i ba le y cyfeiriwn ein gwyneb- au i ddechreu ? Y mae son fod rhyw- beth er ys tro i fyny tua Treddôl yna; ond nid yw yr hanes yn cael llawer o efíaith arnom; yr ydym yn hynod o anghrediniol, ac i raddau yn rhagfarn- llyd. Ond nis gwyddom yn iawn beth. i wneyd o hono hefyd; y mae y peth, yn raddol, yn ennill tir newydd—y naiU fan ar ol y Uall, nes y mae wedi cyrhaedd Ysbytty Ystwyth. Gweinidog parchus perthynol i'r Wesleyaid sydd yn ofler- yn i wneyd y cynhwrf yna, yr hwn sydd wedi bod am dymmor yn yr Am- erica, yn cael prawf helaeth o'r adfy w- iad syäd yno, ac wedi dyfod yn ôl i'w hen wlad yn awyddus iawn i fod o fen- dith iddi. Hwyrach y buasit ti yn cael gwell blas ar y peth pe buasai ya dechreu gyda rhyw rai eraill, ac mewn rhyw le arall. Ond nid wyt yn annheb- yg o gael siomedigaeth, ac ni byddai yn ddrwg genyf i ti gael hyny. Y mae y gŵr wrthi o ddifrif. Ac, "nid fy meddyliau i yw eich meddyliau chwi, ac nid eich flyrdd chwi yw fy flyrdd i, medd yr Arglwydd." Heb golli mwy o amser, awn ar un- waith i Ysbytty Ystwyth, tua deuddeg neu dair milldir ar ddeg o Aberys- twyth. Yn nhý yr ysgolfeistr, heb fod ymhell oddiwrth y gwaith mŵn yna, ni a gawn afael ar Mr. H. Jones, y gweinidog Wesleyaidd y cyfeiriwyd