Skip to main content

Y DRYSORFA. «hif. CXLVIL] MAWRTH, 1859. [Llyfb XIII. ŵnrfjjnìiatt. PETtYGLON IEUENCTYD, A MODDION DIOGELWCH. GANY PARCH. RICHARD JONES, LLANFAIR. Y mae blynyddau ieuenctyd yn rhai pwysig iawn. Dyma y cyfnod y mae dyn yn ffurfio ei gymeriad, ac arferion ei oes. Maent yn adeg o beryglon neill- duol a mawrion. Mae dedwyddwch a defnyddioldeb yr oes yn ymddibynu i raddau mawr ar iawn ymddwyn pan yn ieuanc. Mae gobaith yr eglwys a'r wladwriaeth am aelodau defnyddiol yn sylfaenedig ar yr oes sydd yn codi. Fe ddylai pawb gan hyny wneyd yr hyn a allont er galw eu meddyliau i ystyried peryglon pobt ieuainc, a'u cyfarwyddo i'w gochelyd. Y mae yr Ysgrythyrau yn arbenig ar hyn, yn enwedig Llyfr y Diarebion. Ac yn nechreu hyn o gyf- archiad, dymunwn annog yr ieuenctyd a ddarllenant y nodiadau canlynol, i ddysgu Llyfr y Diarebion. Ei ddysgu, a'i ymarfer, a'u gwna yn brydferth, hapus, a defnyddiol. Dyma y llyfr goreu ar foesau yn eu hiaith, a da fydd os gosodant ef yn eu côf. Gall yr ystyriaethau canlynol, ymysg eraill, ddangos pwysigrwydd tymmor ieuenctyd, a'r peryglon cysylltiedig ág ef: 1. Mae yr ieuanc yn sefyll megys ymhen dwy ffordd, ac y mae ei dynged mewn amser ac i dragywyddoldeb yn ymddibynu i fesur mawr ar ba un o'r ddwy a ddewisa. Mae y fíbrdd lydan yn ei holl ddên- iadau yn Éynu ei sylw. Mae llîosog- rwydd y tçithwyr, eu llawenydd, eu digrifwjcp, a-'u rhyddid ymddangosiad- oL yn dra dêniadol i'r ieuanc. Y mae rhai o'r hen deithwyr yn gwnejd eu goreu dros Satan i ddênu yr ieuanc anwyliadwrus i'r ffordd ddrwg. Maent mewn ymddygiad a gair yn dywed- yd, " Tyred gyda ni." Ond y mae effaith addysg tad a mam grefydi- ol, ac ofn y diwedd, yn cloffi llawei' am dalm o amser. Eto trwy swyn hjidol- iaeth a grym chwant, y mae amryw yn anturio rhoi ychydig gamrau ar y ffordd sydd yn arwain i bob dystryw ; ond ar yr un pryd, maent yn pender- fynu peidio myned ymhell. Eu pen- derfyniad, dybygent, yw troi yn ôl yn brydlawn. Nid oes yr un bwriad yn- ddynt i dreulio eu hoes^ ar y ffbrdd lydan. Nid wyf yn meddwl i'r un ieu- anc erioed fwriadu myned i eithafion drygioni a llygredigaeth, pan yn dech- reu gŵyro at ffordd ddrwg. Yr oedd eu calonau yn dychrynu rhag yr eithaf- ion, a'u meddyüau yn ffieiddio y ffos- ydd yr oeddynt yn gweled eraill yn- ddynt. Pe buasai rhywun yn dywedyd wrth y llanc, Fe'th welir ryw ddydd yn feddwyn truenus heb garictor; ao wrth y ferch, Y mae yn ymddangos y byddi yn fuan heb dy goron, a'th gyfeillesau rhinweddol yn gochel dy gwmni,— buasai digofaint yn ennyn yn eu myn- wesau, a'r gwrîd yn codi yn eu gwyn- ebau. "Pa beth, ai cŵn ydym?" fu- asai eu hateb. Ond er fiieiddio yr eithafion, ac er cyffröi yn erbyn eu rhy- buddwyr, y maent yn mentro gosod eu traed ymhen y ffordd sydd yn arwain i bellafoedd drygioni a thrueni. Mae