Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DRYSORFA. Rhif. CXLVI.] CHWEFROR, 1859. [Llyfr XIII. Ŵítrfljílto. OYDGYNNORTHWYO Y GWIRIONEDD. GAN Y PARCH. DANIEL JENEINS. Gwirionedd yr efengyl yw y moddion ordeiniedig gan Dduw i adferu y byd. Nid oes, ac ni fu ganddo un cyfrwng ar- all tuag at hyn. Cynnwysa ddarpariaeth hollddigonol ar gyfer anghenion dyn colledig, fel y mae yn berffaith gyfaddas i gyrhaedd y dyben gogoneddus. Meth- odd holl ddoethineb y philosophyddion gael allan un moddion effeithiol i feddyg- iniaethu y byd. Yr oedd y byd yn myned rhagddo i ddyfnach trueni dan eu cynlluniau. Gau oedd eu holl gyfun- draethau hwy. Yr efengyl yn unig yw y "gwirionëdd." Ond nis gall y gwirionedd gyfranu ei hun, na gweithredu er cyrhaedd ei ddy- benion gogoneddus tuag at y byd, heb gynnorthwy. Y mae yn sefyll mewn anghen am offerynoldeb cymhwys i'w ddal i fyny a'i ledanu. Rhaid wrth bleidwyr neu gynnorthwywyr. A phwy a all fod mor briodol i'r gwaith â'r cyf- ryw sydd wedi ei dderbyn ef eu hunain, ac wedi profi ei rinwedd a'i allu ach- ubol ì Mae yr Arglwydd wedi gosod y gorchwyl hwn i orphwys ar y saint fel cyfangorff. Y mae yn ddyledswydd arbenig arnynt oll ymroddi yn eg- m'ol iddo. Mae llawer o honynt yn rhy dueddol i feddwl fod pwys y gwirionedd, gyda golwg ar ei ddybenion tuag at y byd, yn gorphwys ar weinidogion y gair yn unig, ao nad ydynt hwy eu huuain i amcanu at ddim ond eu hachubiaeth eu hunain. Dyma holl swm eu perthynas hwy â gwirionedd yr efengyl—cael eu hachub eu hunain drwyddo. Pwy sydd i amcanu a gweithredu tuag at achub- iaeth eraill ] Dosbarth o'r eglwys, yu eu tyb hwy. Onid oes llawer o Gris^- iouogion y rhai ni chymerasant yn ddwys erioad at eu hystyriaeth eu boJ hwy i gynnorthwyo yr efengyl yn ei dybenion achubol—fod yr efengyl yn dysgwyl wrthynt hwy am gymhorth i fyned yn y blaen ì Tra y mae miloedd yn auuuwiol o'u hamgylch, ac o fiaen eu llygaid, ni wnânt un ymgais i'w de- ffroi i ystyriaeth o'u cyflwr. Ni wnânt hwy gynnorthwyo y gwirionedd i gyr- haedd ei ddybenion gyda golwg ar y byd annychweledig. Y maent yn ymddir- ied hyny yn gwbl i'r cenadau. Y mae llawer yn tybied y dylai swyddogion yr eglwys, a gweinidogion yr efengyl, fod yn llafurus ac ymdrechgar yn inhlaid y gwirionedd, a phrin y mae neb o hon- ynt yn gweithio yn ddigon egniol i'w boddloni; a meddyliant eu bod hwy eu hunain i aros yn dawel a diofal, oddieithr i edrych, barnu, a be'io. Gwir mai gweinidogion yr efengyî, yn ol eu swydd a'u sefyllfa yn yr eg- lwys, sydd i fod yn flaenaf ac yn benaf yn y gorchwyl pwysig o gynnorthwyo y gwirionedd. Ond y mae rhwymed- igaeth ar bawb cristionogion anghy- hoeddus i fod yn ^ytfgynnorthwywyr yn ol eu gallu a'u manteision ; ac nid oes un o honynt nad yw wedi ei gyn- nysgaethu i ryw fesur â gallu a man- teision i hyny. Nid yw pawb yn allu- og i roddi i'r gwirionedd yr un cyn-