Skip to main content

Y DRYSORFA. Rhif CXLV.] IONAWR, 1859. [Llyfr XIII. fetjiuto. SYNIADAU IAELL SHAFTESBURY AK WELLIANT CYMDEITHASOL. Cyfieithiedig, gyda Sylwadau Arweiniol, GAN Y PARCH. HENRY REES, LIYERPOOL. Mae Iarll Shaftesbury, o ran ei enw, yn ddigon adnabyddus i'r Cymry bellach. Er nad y w, mewn cymhariaeth, ond gŵr lled ieuanc, mae wedi hynodi ei hunan er ys blynyddau gyda phob sefydliadau daionus, ac yn enwedig yn ei egni i geisio gwellâu cyflwr moesol a naturiol tlodion y wlad. Clywsanthefyd, ond od- id, am gyfarfod y Social Science Associa- tion yr hwn à gynnaliwyd yn Liverpool yn ddiweddar. Os yw enw y Gymdeithas nono yn ddyeithr i rai o'm darllenwyr, bydd yn dda gan bob un dyngaroí ddeall mai ei hamcan ydyw dyrchafu y werin ymhob modd. Yr hyn a ganlyn yma sydd ddarnau o'r areithiau a dra- ddodoäd Iarll Shaftesbury mewn rhai o'i chyfarfodydd hi. Bydd llawer o'm cydwladwyr, ar ol eu darllen, yn ymffrostio, ond odid, ac yn barod i ddywedyd nad oes un dos- Jbarth o gymdeithas yn Nghymru wedi suddo mor druenus â'r rhai yn Lloegr a nodir ganddo ef. Mae hyny yn wir- ionedd, a gobeithiwn hefyd ei fod, i iyw fesur, vn brawf o effeithiau crefydd «x y genedl. Ond dylid cofio, ar yr un pryd, fod llawer o'r gwahaniaeth i'w briodoli i amçylohiadau allanol. Mae ein trefydd m yn llai, a'r trigolion yn Uawer anamlach, nag ydynt yn ngweith- f äoedd a threfydd mawrion Lloegr. A gadael pob ystyriaeth o'r natur yma o'r neilldu, nid ydym yn gwybod pa feint a ennillem trwy gydstedlu ein hunain â'n cymydogion y Saeson, o ran trefn a chysuron teuluaidd ein tlodion, ac au- sawdd crefydd a moesau yn gyffredinol yn ein mysg. Hyn sydd sicr, os yw'r hanesion a geir yn wirionedd,—bod llawer o'r Cymry, ar ol myned i fyw i Loegr, wedi eu llwyr golli i grefydd a chymdeithas; wedi ymollwng i'r fath syrthni, anwybodaeth, a drygfoesau, fel ag y maent i'w gweíed heddyw mor soddedig â neb yn y golygfëydd hyny o anfadrwydd a thrueni ag a ddarluuir gan Iarll Shaftesbury yn y sylwadau canlynol. Dyma a barodd sefydlu y Genadaeth Gymreig yn Llundain yn ddiweddar. Ac nid oes dim dadl nad da ydyw ceisio y rhai cyfrgolledig hyn ar hyd trefydd Lloegr; a da hefyd a fyddai edrych rhag bod ì'hai cyffelyb iädynt mewn llawer tref a chymydog- aeth yn Nghymru, ac heb neb yn ym- ofyn am eu henaid. Ond i'm tyb i, gwell na'r ddau a fyddai bwrw yr halen i ffynnonell y dyfroedd; rhagflaenu yn hytrach na gwaredu. Hyny yw, cael mwy o grefydd i deuluoedd y wlad; cael mwy a gwell addysg i'r oes sydd yn codi, cael chwaneg o rieni yn Nghymru yn dechreu deall bellach, a deall yn ymarferol ac i bwrpas, pa beth yw dwyn plant i fyny, fel y byddo eu niliogaeth, pan yn troi allan o'u han- neddau, yn fwy cymhwys i orchwylion y byd, ac yn fwy arfog yn erbyn ei demtasiynau. Ein perygl ni ydyw, i'n