Skip to main content

Y DRYSORFA. Rhif. cix.] IONAWR, 1840. [Llyfr x. COFIANT MR. WALTER MORRIS. Mr. Walter Morris. ydoedd fab i'r | diweddarBarcb. Ebenezer Morris, enw yr bwn fel gweinidog yr efengyl sydd yn eitbaf adnabyddus trwy íiymru oll. Gwrthddrych y Cofiant hwu a anwyd lonawr 24ain, 1803. Yr ydoedd pan yn blentyn yn dangos ei fod wedi ei gynnysgaeddu â cbynneddfau naturiol cryfion. Cafodd ei ddwyn i fynu o'i febyd yn Eglwys Dduw. Pan oedd oddeutu 14 oed, anfonwyd ef i'r ysgol i Hwlffordd: ac yn y flwyddyn 1819, aetli at y diweddar Mrs. Foulkes, Machynlleth, i'w ddysgu yn fasnach- ydd; ac arhosodd yno am 6 mlynedd yn was ffyddlon a defnyddiol. Yn yr amser hwnw bu yn dra gweitbgar a diwyd gyda'r Ysgol Sabbathol. Yn y flwyddyn 1825, symudodd i Mauchester, ac a arhosodd yno ddeu- ddeng mis. Wedi hyny, bu am dair blynedd yn teitbio dros dỳ Masnachol yn Barnsley, yn Swydd York. Yn y flwyddyn 1830, sefydlodd yu Liverpool, ac arbosodd yno cybyd ag y parhaodd ei iechyd, yn dilyn masnach helaetb a llwyddiannus. Fel masnachydd yr yd- oedd yn gywir, yn fanwl, yn ofalus, yn Hygeidiog, ac yn ddiwyd. Nid oedd yspryd y byd yn ei rwystro i fod yu baelionus gydag achosion crefyddol; canys byddai yn wastad gyda'r blaenaf gyda pbob math o gasgliadau a fyddai yn y gynnulleidfa yr oedd yn perthyu iddi; ond y mae i'w ofni fod gofalon niasnach helaeth wedi tynu gormod o'i s>'lw, fel yr ydoedd efe ei hun yn cyf- addef yn ei ddyddiau diweddaf. Vr oedd ei iechyd wedi dechreu adfeilio er ys íair blynedd. Treuliodd yr baf Jiweddaf yu Cheltenharu, Bath, a Llandriudod. Yn yr Hydref, ei gyng- liorwyr meddygol a'i hannogosant yn daer i fyned i ynys Madeira, mewn gobuith o adgyweirio ei iechyd; oud er iddo fyned, nid oedd dim yn tycio, yr hen ddarfodedigaeth a'i canlynai dros donau y Mòr Werydd, ac er ym- drechu i ymysgwyd oddiwrtho, ni oll- yugai y clefyd mo'ì afael, ond efe a'i * hamgylchai fel coler ei bais.' Job 30. 18. Pe buasai gwroldeb ysprydoedd yn gwasanaethu, efe a fuasai y dyn a orchfygasai, ymdrecbodd ymdrech deg âg angeu; dadleuodd bob modfedd o dir äg ef yn Liverpool, yu Cheltenham, yn Bath, yn Llandrindod, yn Madeira, yn Cadiz, yn Lisbon, ar (wrád ypachet, ac yn Falmouth, ond 'nid oes bwrw arfau yn y rhyfel hwnw.1 Wedi aros yn Madeira dios y gauaf, tua diwedd y gwanwyn cychwynodd tuag adief, a chyrhaeddodd borthladd Falmouth, ar du gorllewin Lloegr yn mis Mai, 1839. Wedi iddo lanio yno, aeth ei frawd, Mr. T. Morris, yr hwn ôedd mewn cyfranogaeth âg ef yn Liverpool, i ymweled àg ef yn ddioed. Erbyn byn yr oedd pob gobaith iacbau wedi darfod. Adroddodd wrth eifrawd lawer o hanes y tywydd a fu ar ei fedd- wl er pan welsant eu gilydd o'r blaen. Adroddodd, iddo ar ol mynediMadeira, gyflwyno ei amser i ddarllen y Bibl, a gweddio; darllenodd y Testament Newydd drosodd mewn ychydig amser. Dywedai i'r diafol lawer gwaith geisìo gwneyd nthrawiaelb etholedigaethgras yn fagl iddo, yu enwedig pan y clywai ryw ddull annoeth o'i pbregethu weith- iau yn ei yru i ddiofalwch, gan ddy- wedyd, Os etholwyd fi, cadwedig a fyddaf, pa nn bynag a wnelwyf ai g^ryl- ied ai cysgu; bryd arall, byddai yn ei lwfrhau, ac yn ei ddigaloni, gan feddwl oni etfiolwyd ef, nad ydoedd o un dyben iddo ymarfer â moddion gras, mai ofer oeddymdrechu á thyngedfen. Ond yn Madeira, cyfarfu yu ddamweiniol â Cbyfrol o Bregetbau, o wailh J. P.