Skip to main content

Y DRYSORFA. Rhif. cyi.] HYDREF, 1839. [Llyfr IX. COFIANT AM Y DIWB|>DAR JOHN MORGAN, YSW. MEDDTG ; YR HWN A Fü MEHEFIN 25, 1839, YN Y 60 FLWYDDYN O'l OEDRAN. FARW Barchedig FRAWD,--Yrwyffi,gyda llawer ereill, yn ddiolchgar iawn i chwi am argraffu CofiantaMarwnad y diw- eddar George Williarns, o Dý Ddewi, yn y Drysorfa am y mis Gorpbenaf. Trwy law y gwr uchod, Mr. Morgan, yr hwn oedd gyfaill anwyl iawn i Mr. G. Williams,y derbyniais beth o'rdefn- yddiau at y Cofiant hwnw, i'w talfyru a'utrefnu i'r Drysorfa; yr oedd hyny ddydd Llun y Pasc diweddaf, yn ein Cyfarfod Blynyddawl; ac ychydig a feddyliai Mr. Morgan a minnau, na neb arall yn wir, mai y dydd hwnw oedd yr olaf iddo ef allu myned allan i fwynhau moddion grasmwyach, canys yr oedd mor iach ag arferol y dydd hwnw. Y dynion a garasant Dduw a'i bobl, ac awnaethantddaioni i achos Duw a'i bobl yn eu hoes, dylai bod rhyw sylw coffhaol am danynt mewn argraff ar ol eu marw, er na buont bregethwyr cyhoeddus na blaenoriaid Eglwysig: am hyny deisyfaf am i'r crybwylliad byri^anlyn gael IIe etío yn eich Trys- orfaj er côf am ŵr teilwng iawn, a chyfaill anwyl iawn i mi o'i febyd ef a minoau. . Yr oeddym bron yr un oed, wedi ein magu yn yr un plwyf, yn ys- golheigioc yn yr un ysgol; ac wedi hir a phell absenoldeb oddiwrth ein gilydd, daetbom yn gymmydogion drachefn yn Llundain am y 17 mlynedd diweddaf. Ganed Mr. Morgan ryw bryd yn Mawrth, 1780, (pan oeddwn i yn wyth ^tnis oed) mewn pentref bychan a elwir Talysarn, ar lan Aeron, yn Nghered- igion. Efe oedd yr hynaf o chwech o blant i'w r'íeni, ac er nad oedd ei dad ond SaerCoed cyffredin, etto ymdrech- odd yn ganmoladwy iawn i roddi dysg- eidiaeth dda i'w feibion oll, (tri o bon ynt) fel yr aeth dau yn feddygon, a'r llall yn offeiriad. John, gwrthddrych y Cofiant hwn a ddysgodd yr alwedigaeth feddygol gyda'r diweddar Mr. Edwrards, o Aber- meyrig; lle hefyd yr ymunodd efe â'r Eglwys, dan ofal y diweddar enwog, a'r Parch. Thomas Gray, yr hwn mae ei glod yn yr holl Eglwysi, a'i goffad- wriaeth yn fendigedig byth ! Gwedi gorphen ei flynyddoedd dysgu, a myned trwy yr Ysbyttai, yn Llundain, yn ol y drefn i feddygon ieuaingc, ac yn anrhydeddusiddoei hun ; sefydlodd Mr. Morgan yn y Cästell Newydd yn Em- lun, fel cynnorthwywr i feddyg enwog yn y lle hwnw; un o'r enw Morgans hefyd, ac ŵyr o du ei fam i'r Parcb. Daniel Rowlands, gynt o Langeitho. Yno priodvr>rdMr. Mìm Morgan â Miss Morgans, chwaer ei íeistr, ac wyres yr un moddi'r hên Mr.Rowlands uchod. Yn fuan ar ol eu priòdi, symudodd Mr. Morgan a'i wraig i Dŷ Ddewi, yn Swydd Benfro ; ac mae yn bur amhvg mai symudiad yn ol meddwl Duw, a threfn ei ragluniaeth ef oedd hwn. Daeth Mr. Morgan yn fuan i barch ac enwogrwydd mawr drwy yr holl wiad hono, ac odid y bu feddyg erioed yn Nghymru yn uwch ei gymmeriad, nac yn hèlaethach ei ymarferiad. Yr oedd ef yn deilwng o hyn oll, nid yn unig am ei fedrusrwydd meddygol, ond hefyd o herwydd ei. ymddygiad Cristionogol, addfwyn a boneddigaidd, tuag at bob dyn, a phob graddau o ddynion; yn y bythod gwaelaf, ac yn y palasau gwych- af, nid oedd neb mor gymmeradwy a Mr. Morgan fel meddyg. Ctywais ef yn dywedyd y byddai yn dwyn 300 o fabanod i'r byd bob blw*> ddyn, y naill flwyddyn gyda'r llall, tra bu yn arosyn SwyddBenfro, yr hyn oeddlawer iama mewn gwlad felly. Afraid dywedyd bod ei amgylch- iadau yn gwellhau gyda chymmaìnt o 3 I