Skip to main content

Y DRYSORFA. Rhif. civ.] AWST, 1839. [Llyfr IX. COFIANT Jm y Parch. Legh Richmçnd, A. M. Gweinidog yr Efengyl yn yr Eglwys Wladol,a Cluiplan i'w ddiweddar Uchelder Breninol t>vc Kent. Ganwyb Mr. Legh Richmond yn Liverpool, Ionawr 29, 1772. Ei dad, oedd Dr. Henry Richraond, Physygwr enwog yn y dref hono, ac wedi hyny yn Bath ; a'i fam oedd ferch i John Atherton, Ysw., o Walton Hall, ger- llaw Lirerpool. Cafodd Legh Rich- mond y fraint o gael mam dduwiol iawn, yr hon, megis Eunice a Lois gynt gyda Timotheus, a'i dysgai ef yn athrawiaeth bur yr Ysgrythyr Lân, yr hon oedd abl i'w wneuthur yn ddoeth i iachawdwriaeth. Pan oedd efe yn 13 oed, efe a anfon- wyd i'r ysgol dan ofal Mr. Breach o Reading. Wedi hyny symudwyd ef i Brandford, yn Dorsetsbire, yn yr ysgol gyda'r Parch. Mr. Jones, FicarLoders. Yno efe a ddysgodd yn rhagorol dda, hyd nes iddo fod yn gymmwys i fyned i'r Atbrofa i'w ddwyn i fynu i waith y weinidogaeth. A phan oedd yn 17 oed anfonwyd ef i Athrofa Cambridge. Tra y bu efe yno, yr oedd pawb ar a'i hadwaenai yn tystiolaethu ei fod ef yn ŵr ieuangc o alluoedd eneidiol cryf- ion, ac yn foesol a chrefyddolyn ei ym- ddygiadau yn mhlith ei gyd-ysgolheig- ion. Yr oedd efe yn hynod o hoff o Gerddoriaeth: yr oedd ganddo Pìano Forte yn ei ystafell, ar yr hon y chwarëai yn fynych. Fe ordeiniwyd Mr. Richmond yn Ddiacon yn mis Mehefin, 1797, ac yn y mis canlynol, efe a gymmerodd y raddoliaeth o Athraw y Celfyddydau, M.A. Ac ar yr 22ain o'r un mis, efe a briododd â Mary, merch J. W. Chambers, Ysw. o ddinas Bath, ac yn uniongyrchol efe aeth i Isle of Wìght, ac a ymaflodd yn ei orchwyl yny sef- yllfa o Gurad yn y ddau blwyf nesaf i'w gilydd, Brady a Yaverland. Ac efe a gwbl ordeiniwyd yn Offeiriad yn Chwefror, 1798. Yr oedd Mr. Richmond yn ŵr duw- iol iawn, Yii un o'i lytbyrau y mae efe yn ysgrifenu fel hyn: " Newydd ddechreu o honof ar waith y weinid- ogaeth, fe gyd-weithiodd amryw am- gylchiadau i argraffu yn ddwys ar fy meddyliau yr angenrheidrwydd o chwilio yn ddyfal i mewn i natur gwir grefydd y Bibl. Fe'm hargyhoeddwyd yn ddwys o'r possiblrwydd o fcd yn ddeallus yn holl byngciau y ffydd Gristionogol, bod yn fedrus yn holl wasanaeth ac addoliad Duw yn ol trefn yr Eglwys Sefydledig, a mwjmhau holl ragorfreintiau dygiad Cristionogol i fynu, yn nghyda phob mantais i gyn- nyddu mewn astudiaeth duwinyddawl, ac er hyny bod yr enaid yn amddifad o bob gradd o wir grefydd bersonol. Fe wasgodd hyn yn bwysig iawn ar fy meddylìau, fel yr ymroddais i lafurio am wir dduwioldeb, yr hyn sydd yn unig yn cyunwys ffynnonell gwir dang- nefêdd a 'dyddanwch." Mae barn Mr. Richmond ar drefn iachawdwriaeth pechadur i'w gweled yn amlwg yn yr ymadroddion canlynol o'i eiddo, y rhai a ysgrifenodd efe mewn ffordd o sylw ar y geiriau hyny yn Eph. 2. 8, 9,10. ' Canys trwy ras yr ydych yn gadwedig, trwy ffydd; a hyny nid o honoch eich hunain; rhodd Duw ydyw: nid o weithredoedd fel nad ymffrostiai neb; canys ei waith ef ydym, wedi ein creu yn Nghrîst Iesu i weithredoedd da, y rbai a rag-ddar- parodd Duw, fel y rhodiem ni yn- ddynt.' Ffordd a threfn iachawd- wriaeth dyn a ellir eu desgrifio yn fyr fel yma:—I. Cariad a thrugaredd Duw drwy Grist Iesu yw yr achos gwreidd- iol o iachawdwriaeth pechadur. II. Marwolaeth a haeddiant Crist yw yr achos haeddiannol o honi. III. Ffydd yw yr offeryn drwy ba un yr ymaflir ynddi. IV. Gweithredoedd da yw y 'ffrwyth angenrheidiolyn tarddu oddiar wir ffydd, a phrawfanhepgorol ein bod ni yn meddiaûnu yr iachawdwriaeth» 2E