Skip to main content

Y DRYSORFA. Rhif. ci.] MAI, 1839. [Llyfr ix. COFIANT Y DIWEDDAR MR. ROBERT ROBERTS, Blaen y Cae, Llanddeiniolen, Swydd Gaernarfon. Gwrthrych y cofi.int hwn, ydoedd fab i Robert a Mary Roberts, Blaen y cae. Ganed ef Mawrth 14, 1777. yn y Fachwen, gerllaw Dinorwig. Yr oedd rhieni R. Roberts yn grefyddol; a bu- ont ymdrechgar i gychwyn, a dwyn ymlaen, bregethiad yr Efengyl yn eu hardal. Cafodd R. Roberts yr hyn na chadd ond ychydig yn y dyddiau hyny, sef ei fagu yn addysg ac athrawiaeth yr Ar- glwydd. Ond bu yr alwedigaeth a gymerodd, yn acblysur iddo i gyfeill- achu â chymdeithion o duedd ac arch- waeth waeth nag ef; yr hyn a'i llygr- odd yn fuan, i'r fath raddau, fel y daeth ei ymddygiadau yn ofid i"w rieni. Etto yr oedd y ddisgyblaeth deuluaidd, a thynnerwch ei gydwybod, yn attalfa arno rhag rhedeg mor bell mewn dryg- ioni, a llawer o'i gyfoedion. Yn y flwyddyn 1801, priododd âg Ann, raerch Thomas Owen, Tyddyn bach, Llanfair ís Gaer, rhinweddau yr hon a*i gwnaeth yn "ymgeledd gym- wys " iddo, hyd ddiwedd ei oes: aco'r hon y bu iddo naw o blant. Ni allodd R. Roberts, i'e,yn ei wÿllt- irteb mwyaf, ymysgwyd yn hoìlol oddi- wrth y meddwi tyner at grefydd, yr hwn a dderbyniasai yn ei ddyddiau boreuol. Gwelwn yma werlh " Hy- fforddi pientyn ymhen ei ffordd," obleg- id rhaid i ddyn fyned yn mhell iavín mewn caledwch, cyn y gwisga yr ar- graffiadau hyn ymaith yn lìwyr. Ar ol priodi, gwasgwyd ei feddwl at ei fater tragywyddol gyd â mwy o ddwys- der. Ac wrth wrando pregeth gan Hugh Williams, Drws y ddeugoed, "dwys-bigwyd ef yn ei galon," fel y daeth, "bodyn gadwedig,"yn bethsobr ar ei feddwl; ac ymunodd ä'r Tref- nyddion Calfinaidd yn Llanrug. Yr oedd yn meddu ar athryiith gref; a'i awydd am wybod^aeth Ysgrylhyroí ydoedd gymaint, fei y llafuriai am dani " megys am drysorau cuddiedig." Ei ddeall bywiog a threiddgar a ymweith- iai ymlaen, mewn darllen a myfyrio, fel y daeth "ei gyunydd yn eglnr i bawb.'" Pan y craffai ar unrhyw fater, ni thynai ei sylw oddi arno, hyd nes yr enillai wybodaeth drwyadi o hono. Cyrhaeddodd y fath stor o wybodaeth Ysgrytbyrol, fel y byddai megys gar- tref yn mhob cangen o honi, a hi a gost- iodd iddo yn ddrud. Nid gwybodaeth yn y pen yn unig ydoedd un R. R. nid yr un hono, " sydd yn ymchwyddo," ond y cyfryw a effeithiai ar y meddwl i'w ddarostwng, a'i sancteiddio; yr oedd yr hyn a wyddai, y peth hefyd a deimlai. Fel pen teulu, gellir dweyd am dano, y byddai "yn llywodraethu ei dỳ ei hun yn dda," ac ymdrechai " i ddai ei blant mewn ufudd-dod," arferodd ddi- wydrwydd i'w " hytforddi yn mhen y ffordd;" a sicr ei fod " wedi marw, yn llefaru etto," drwy ei gynghorion gwerthfawr, a'i rybuddion dwysion. Yn y flwyddyn 1813, galwyd ef i fod yn fiaenor yn Eglwys yr Ysgoldy. Ac yr oedd yn hynod o lafurus a flyddlawn, yu holl ranau ei swyddbwysig. Bu yn golygu adeiladu Capel yr Ysgoldy ddwywaith; ac mae'r adeilad bresen- nol, yn gofadail ardderchog o'i fedrus- rwydd. Yr oedd yn enwog mewn haelioni at achosion crefyddol. Ym- drechai hefyd, hyd y bycldai ynddo ef, i wneud y pregethYi'yr a yruwelent á'r Ysgoldy, yn gysurus ; gofalai yn fawr am eu tcimladau, yr hyn nid yw yn werth gan rai ofalu dim yn eu cylch. A diameu fod ei enw yn glodfawr a pharchus, gan liaws mawr o Weinidog- ion yr Efengyl. Ei farn ar faterion pwysig mewn cymdeithasau neillduol, a misol, òedd bob amser yn werthfawr; ni fyddai yr hyn a ddywedai ef byth yn pasio megys*i gwagnod, nid sŵn heb sylwedd fyddai, ond ffrwy th synwyr cryf.