Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DRYSORFA. Rhif c.] EBRILL, 1839. fc LYFR IX. BUCHDRAETH MR. DAVID NICOLS, O'R PILE, SWYDD FORGANWG, YR HWN A FU FARW TACHWUDD 6, 1838. Fel y cyflFredin o ddynion ymbleserodd Mr. David Nicols, yn ei ddyddiau bor- euaf, yn nghyflawniad y campau ofer- wag ag ydoedd mewn bri y pryd hyny. Ond nid ydoedd annuwioldeb ei galon, a chryfder ei zel chwareugar, yn gallu ei attal rhaggwneud mynych ymgyrch- fa i swn y weinidogaetb. Nid oedd cyfarfodydd crefyddol ond anaml iawn y pryd hyny wrth yr hyn ydynt yn awr. Yr oedd ardal y Pyle wedi ei breintio uwchlaw ardaloedd yn gyflredinol y dÿddiau hyn, drwy ymdrechiadau diball yr hen dad parch- us William Thomasisefydluordinhad- au crefyddol, a llafurio am gael preg- ethwyr i'r ardal, ynghyd â phregethu yn fynych ei hunan yn yr ardal bon, ac mewn ardaloedd ereill, a thrwy Swyddi Gogledd a Deheudir Cymru. Y mae ei dduwioldeb disglaer, ei weddi'au ami a thaerion, a'i garedigrwydd di- fesur, yn ddiareb hyd y dydd hwn. Y mae byr grybwylliad am Mr. W. Thomas yn Nghyfles Ffydd ein €orph, ym mhlith y rhai a fu yn offerynol i blanu yr achos gyntaf ym mhlith y Trefnyddion Calfinaidd; a byddai Da- vid Nicols yn arfer myned i wrando ar- no ef yn pregethu, ac ar amryw ereill yn y cyfundeb Trefnyddol; a dywed ei gyfoeswyr y byddai yn arferol o wrando ar un Mr. Powells, Gweinidog duwiol perthynol i'r Bedyddwyr, yn y Notace, pentref ger llaw, a dywedant mai dan ei weinidogaetb éf y dechreuwyd trin ei feddwl. Ond y pryd y teimlodd yr ef- engyl yn dyfod ato nid mewn gair yn unig, ond mewn nerth mawr, ydoedd dan weinidogaeth Mr. David Rees, Llanfynydd. Yn yr amser y gostyngwyd ei feddwl i dderbyn y Gwaredwr, ac i lwyr roddi ei galon i geisio yr Arglwydd, ymun- odd â'r eglwys ag ydoedd yn arfer ym- gynnull yn y lle hwnw, a bu mewn un- deb 4 bi hyd oni luddiwyd ef gan angeu i barhau, yr hyn a fu am ddeugain o flynyddau; a gorphenodd ei daiih pan oedd yn chwech a thriugain oed. Pan ymunodd efe gyntaf â chrefydd yr ydoedd diwygiad grymus iawn yn yr ardaly pryd hyny, yr hwn a gyflÿrddodd ychydig â'r eglwysi cymmydogaethol. Y pryd hwn chwythodd y gwynt nefol mor gryf nes bwrw i lawr ddernyn dir- fawr o fur dinas y tywyllwch, ac yn y chwalfa ogoneddus hon cafwyd hyd i amryw o feini disglaer, pa rai a ddar- ganfuwyd wrth ymuno á'r eglwys yn yr un dydd, ac yn yr un gymdeithas neillduol, pa rai a fuont, braidd oll, yn enwog yn eu dydd mewn rhyw beth neu gilydd ar ffyrdd crefydd a duwiol- deb. Y mae rhan fwyaf o honynt wedi rhoddi y tabernacl hwn heibio, ond y mae rhai yn aros hyd y dydd hwn. Yn y Gymdeithas neillduol hon yr ymunodd y diweddar anwyl Mr. Ed- ward Lovelock, yr hwn a fu yn henad- ur parchus, a thra defnyddiol, yn eg- lwys y Pyle, ac y mae ei goffadwriaeth hyd heddyw fel gwin Libanus. Ar y pryd hwn hefyd yr ymunodd Mr. Tho- mas Roberts, yr hwn sydd yn aros hyd y dydd hwn yn henadur yn eglwys y Dyffryn, ac yn anwyl yn ei swydd. Y pryd hyn hefyd yr ymunodd y chwaer barchus a chrefyddol, ag sydd yn dra adnabyddus yn llwybr ei charedig- rwydd a'i llettygarwch am flynydd- oedd lawer, gan ddegau o bregethwyr Cymru, sef Mrs. Llyẁelyn, Pyle: mae hithau yn aros yn ffyddlon ac yn anwyl hyd y dydd hwn. Ac ym mhlith y ni- fer o'r rhai a ymunodd y pryd hyn â'r eglwys o dan argyhoeddiadau dwysion fe ddaeth Mr. David Nicols i'r golwg, o dan drafferth enaid am noddfa cyn i ystormydd y nef ei ddal; a phrisiodd ei enw da o grefycfd yn well nag enaint gwerthfawr, ac nid rhyfedd ydoedd gweled dydd ei farwolaeth yn well na dydd ei enedigaeth.