Skip to main content

Y DRYSORFA. Rhif. xcix.] M4WRTH, 1839. [Llyfr ix. COFIANT AM Mr. EVAN DANIEL, Un o Henuriaìd JEglwys y Trefnyddion Calfinaidd, yn Llansamlet, Swydd Forganwg ; yr hwn a ymadawodd â'r byd hwn Hydref 15, 1838. Ganwyd Mr. Evan Daniel ym mhlwyf Llansamlet, ynyfl. 1777. Mabydoedd i Tbomas ac Ann Daniel o'r plwyf uch- ocl. Nid oedd ei ri'eni yn grefyddol, ac felly treuliodd y rhan foreuol o'i fywyd yn ol helynt y byd hwn, a than lywodr- aeth duw y byd hwn; er byny, efe a gafodd y fraint o adnabod Crist yr Ar- glwydd, a chafodd le yn ei dŷ, ac "enw tragywyddol yr hwn ni thorir ymaith.'" Pan ydoedd oddeutu 27ain oed daeth y Parch. John Elias trwy y wlad, ac aeth yntau i'w wrando i fan gyfagos. Testyn ei bregeth ydoedd Ioan 10. 16. " A defaid ereill sydd genyf," <fcc. Mae yn debyg mai y pryd hwnw yr oedd yn rhaid ei gyrchu yntau. Ctybu lais y bugail da, a dygwyd ef i'w gorlan, ac ni bu dim cerydd eglwysig arno yn ys- tod ei fywyd crefyddol, sef 34ain o flyn- yddoedd; ac fe fu ddeng mlynedd o hyny yn henuriad eglwysig. Yr oedd yn arweinydd flỳddlon, yn tywys at y bugail da i gael porfa dda, yr hon hef- yd fyddai efe ei hun yn ei fwynhau. Ymaflodd y darfodedigaeth yn ei natur, yr hwn a'i cystuddiodd yn hir. Dioddefodd y cystudd yn amyneddgar, hyd nes y darfu ei boenau ar y dydd a enwyd uchod. Ar y dydd Mercher canlynol heb- ryngwyd ei gorph i'r capel gan dyrfa luosog, lle pregethodd y Parch. D. Ro- berts, Abertawy, oddiar y rhan flaenaf o'r wythfed aSnod o'r 25ain bennod o Esaiah. Weai hyny hebryngwyd ei rau farwol i'r Llan gyda galar cyffred- inol, Ue y gorwedd hyd ganiad yr ud- gorn, pryd y cyfyd ar ddelw y Pen bu- gail, yr hwn a'i cyrchodd i'w gorlan. Yr oedd yn aj^iawdd canfod un mor sobr ei a^ẃeiä-a'r gwr duwiol hwn, ac etto byddai yn sirìol ym mhob cyf- eillach. Llaẁ-nododd yr ardystiad dirwestol, a phleidiodd ef gydajsel a ffyddlondeb mawr, er fod ei gymmedrol- deb uwcb cyffredin o'r blaen, a gobeith- iwn y dilyna yr ardalwyr ei esampl yn hyn yn fuán iawn. Yn y gymdeithas neillduol, ychydig cyn ei farwolaeth, dywedai, wedi i un ddarllen y bedwerydd bennod o'r Heb- reaid, " Ỳ mae gorphwysfa etto yn ol," " Oes, y mae gorphwysfa i minnau. Yr wyf wedi cyfarfod â llawer storom; nid yw cystudd ond anhyfryd ; ond y mae tangnefedd Duw yn fy lloni yn fy nghys- tudd." * * Gofynodd un brawd iddo, pa fodd yr ydoedd? atebodd yntau, "y mae 'n bur dda arnaf, y mae y bywyd wedi ei gudd- io." Dro arall, pan ofynodd un iddo, atebodd, " Y mae fy nghystudd corph- orol yn ormod i fy meddwl i weithredu nemawr. Ond mi wn am y man (O! fan anwyl) tawel, i bechadur orphwys, sef ar yr Iawn mawr. Yrwyfwedi hiraethu llawer am gael gweled y bor- eu y caf lwyr waredigaeth, O ! na bawn yno." Fel yr oedd ei gorph yn adfeilio yr oedd ei enaid yn cael ei adnewyddu trwy rinwedd bendithion ycyfemmod gras. Y dydd y bu farw dywçdai, " Yr awr hon, A rglwydd,ÿgollyngi dy was mewTi tangnefedd." Methwyd ei ddeall y tro hwn gan ei floesgni.; eîthr adfywiodd ychydig, a gofynwyd iddò, pa beth a ddywedodd? Aíebodd, "yr oeddwn yn mwynhau y tangnefedd oedd Sime- on yn ei fwynhau. Yr wyf yn teimlo fy hun yn nghol fy Arglwydd, ac yntau yn fy nghol innau." Ÿchydig wedi hyn efe a fu farw. Priodol ydyw geiriau y Bardd am dano. " Ymdrechodd hardd ymdrech y ffydd Er uffern fawr beunydd a'r byd; öorphenodd ei yr&, mae 'n rhydd, Gadawodd ẁ gystudd i gyd. Mae bellach yn holhach mewn hedd, O gyrhaedd èl lygredd yn lân; Dim tristwch i'w feddwl ni fydd, Hosanna 'n dragywydd a gân." JU-ns-m-í. E—l T—s.