Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DRYSORFA. Rhif. xcvii.] IONAWR, 1839. [Llyfr IX. COFIANT Y PAPCH. ARTHÜR EYANS, CYNWIL, SIR GAERFYRDDIN, Yr hwn a fu farw, Ebrill 20, 1837, yn 82 mlwydd oed; wedi bod yn Weinidog ffyddlon a llafurus yn mhliih y Trefnyddion Calfuiaidd am öô ojìynyddoedd. Y Parch. Arthur Evans a anwyd Medi 2, 1755, mewn lle a elwir Felin- dre, plwyf Pemboyr, Sir Gaerfyrdd- in. Bu ei rieni farw pan oedd efe yn ieuangc. Dysgodd y gelfyddyd o We- yddiaeth, yn ei ieuengctid, gyd á'i ewythr, brawd ei dad, yr hon a ddilyn- odd am oddeutu wyth mlynedd. Mewn perthynas i'r gweithrediaJau a fu ar ei feddwl am ei gyflwr, yn ei ieuengctid, nid oes dim ar gael i'w hys- bysu ond iddo roddi ei hun yn aelod, yn y 18fed flwyddyn o'i oedran, gyd â'r Trefnyddion Calfinaidd, pa rai oeddynt yn ymgynnuli y pryd hyny mewn tý annedcl o'r enw Wàun-yr-hafod. Ÿ gymdeithas hono sydd yuymgynnull yn awr yn y Capel yn Mhentref Cynwil. Yn mhen rhai blynyddau wedi hyn, pan yr oedd rhyw un yn sylwi mewn pregeth ar gyflwr truenus y byd wrth natur, ac yn coffàu y geiriau hyny yn Esaiah (Pen. vi.) " Pwy a anfonaf ? a phwy a â trosom ni?" teimlodd beth yn ei feddwl yn ateb yn gryf, " Wele fi, anfon fi." Wedi byn aeth i'r Athro- fa i Gaerfyrddin, gyda golwg ar rag- barotoi at y Weinidogaeth; a bu yn yr ysgol am rai blynydda.u yn gwbl ar ei draul ei hun. Yr oedd ei olwg y pryd hyny ar y Weinidogaeth yn yr Eglwys Sefydledig. Bu yn debyg o gael ei ur.ddo yn y flwyddyn 1780, sef pan yr oedd yn 25ain oed; oud tybiwyd fod rhyw ddfffyg yn y titl y tro hwnw: a dywedir i'r Esgob sylwi ei fod yn darllen fel y Methodistiaid; ac felly yr oedd ei " leferydd yn ei gyhuddo.'* Y mae yn debyg na fynai yr Arglwycld rddo lafurio yn y cylch hwnw, gan fod ganddo gylch arall iddo. Yn mhen blwyddyn neu áàwy wedi hyn priododd Margaret, merch Davìd a Susannah Williams, Penrhiwgwiail, plwyf Cynwil, yr hon sydd etto yn fyw, ytt galaru ar ei ol, ac yn egwan iawn. Cawsant bedwar o blant, sef un mab a thair merch, pa rai a fuont feirwoll o'i flaen ef, ond un ferch, sef Mary, am yr hon y soniwn ychydig cyn diwedd yr hanes hwn. Yn yr un flẁyddyn hefyd, sef 1782 neu 1783, y dechreuodd breg- ethu ar anogaeth yr Eglwys yn Cynwil. Bu amrai flynyddoedd weài hyn yn cadw yr Ysgol Rydd yn Cynwil, ac yn ymdrechu ar yr un pryd yn ngwàith y Weinidogaeth. Clywais ef yn adrodd am ei waith yn cadw ysgol' y byddai y plant, pan y byddai efe yn cael cym- morth ar ei Liniau, y nos cyn eu goll- wng adref, yn ymadael yn sobr a dis- taw; ond pan na byddai dim yn neill- duol y byddent yu ymadael gan waeddi Good night yn uehel ac yn anystyriol. Clywais un a fu gyd ág ef yn yr ysgol yn dywedyd y byddai yn cynghori lia- wer cyn ceryddu. WTedi hyny gadaw- odd yr ysgol o herwydd ei iechyd, a symudodd i fyw i dyddyn bychan o'r enw Waunlwyd, yn agos i bentref Cyn>- wil, a phreswyliodd yno saith nilynedd ar hugain. Fel dyn, yr oedd yn ddistaw7, tawel, pwyllog, sobr, a diysgog iawn. " Ni chlywai neb ei lais ef yn yr.heol." Os gyd á'r pwyllog y mae doethineb yr oedd gyd ág ef. Fel gwr a thad ni ragorai neb arno mewn cariad, tìrion- deb, a ffyddlondeb: dysgai a llywodr- aethai ei deulu yn ofn Daw. Fel Crist- ion yr oedd ef ari wraig fel y, dywedir am Zacharias ac Elizabeth " ill dau yn gyfiawn ger bron Dipv, yn rhodio yn holl orchymynion a detìdfau yr Ar- glwydd yn ddiargj'hoedd." Yr oedd yn gyfailì hoffiawn i'r diweddar Barch. D. Charles, o Gaerfyrddin; a dywedai Mr. Charles amdano, mewn rhywym- ddiddan a fu yn ei gylch, « Mae cym- maint o ras yn Arttíur ag mewn saith o honom.,, Yr oedd yn ddiau yn un o'r rhai hynod yn mhlith y saint. Dy- wedodd rhyw ddyn apnuwiol am dano ei fod fel Lot yn Sodom.