Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DRYSORFA. Rhif. xcvi.] RHAGFYR, 1638. TLlyir VIII. COFIANT Mr. THOMAS PARRY, O'r Rhewl, Llanrhaiadr Dyffryn Clwyd, Sir Ddinbych, Yt hwn a fu yn Henurìad defnyddiol gyd a'r Trefnyddion Calfinaidd am lawer o jlynyddoedd, m ei ysgrifenu gan mwyaf allan o'i enau cf ci hun. Wele yrna yn cael ei gynnyg i sylw y Cymry hanes gyrfa un o feibion Duw trwy anialwch y byd tua bro ei dragy- wyddol etifeddiaeth. Un enwog yn ei ddydd, ac yn ei gylch, oedd Thomas Parry, ond nid enwog yn ngolwg y byd hwn, canys nid oedd efe yn wr o gyf- oeth mawr, nac yn uchel yn nghym- deithas y bobl a elwir yn foneddigion. Ond er hyny, un enwog oedd efe, sef enwog mewn gras, mewn agosrwydd at Dduw, mewn cydffurfiad bucheddol á Gair yr Arglwydd, mewn zel a llafur diflino dros achos crefydd, ac rnewn dwysder profiad o fendithion yr iach- awdwriaeth. Y mae y Cofiant hwn yn cael ei gyhoeddi i'r byd ar daer ddymuniad y rhai mwyaf adnabyddus o"i wrthddrych ef, gan obeithio y bydd iddo leshau Uaweroedd. Y mae rhan helaeth o hono wedi ei ysgrifenu o'i enau ef, mor agos ag y gellid yn ei eir- iau ef ei hun. " Myfi a auwyd yn y flwyddyn 174.5, mewn lle a elwir y Groesffordd, yn mhlwyf Llanrhaiadr Dyffryn Clwyd. Yr oeddwn yn moreu fy nyddiau a'm tuedd yn gryf a< bob llygredigaeth, Dilynwn fy ngbyfoedion i bob mafh o gampau a chwareyddiaethau, a hyny ar y Sabbathau. Nid oedd un Ysgol Sabbathol, nac un moddion arall o ras, yn yr ardal 11 e yr oeddwn yn byw onci yn unig yn y Llan. Ar amserau bydd- ai rhyw aflonyddwch yn fy meddyliau, a gofid yn fy nghydwybod, nes y bydd- ai yn dcìifias genyf fyned gyd á'm cym- deithión i'r cbwareyddiaetbau ar y Sabbath; etto llwyddo y byddent i fy nghael gyda hwynt: ac wrth ymarfer á phechod caledodd íÿ nghalon, a chyn- nyddodd fy rhyfyg, nes o'r dìwedd yr aethym i ddilyn yr arfer felldigecüg o ymlacld ceiliogod. Wedi dilyn yr arfer hon am gryn dymhor, cefais, o drugar- edd, fy niddyfnu oddi wrthi yn y modd canlynol:—Yr oedd genyf dctau ffeiliojr ieuangc yn cael eu porthr gyda bwfiad i'w hymladd. Yn y cyfamser dygwydd- odd iddi wlawio am dri diwrnod olyn- ol, a gwneuthur yr ystorm fwyaf dy- chiynllyd o fellt a tharanau ag a wel- ais erioed. Yr oedclynt mor ofnadwy fel y meddyliais fod diwedd y bydwecîi dyfod; ac yn y cyfryw amgylchiad aethum i, a dyn arall o'r irymmydog- aetb, i ddarllen a gweddio fel y gallem. Ond yr oedd y dymhestl yn trymhau o hyd, a'r olaf oedd yn fwy nodedig nag un—tywyllodd ganol dycìd fel nas gall- em weled darilen—yr oeddy gwartheg yn beicbio—a ninnau yn mron llewygu gan ofn. Ar ol i'r ystorm fyned heibio aethum at fy adar, a thorais ben un o lionynt yn cldiattroir; a buaswn wedi dienyddio y llaìl oni buasai i'r dyn grefu arnaf' beidio. Pan oedd yn fy meio dywedais, ' Yr wyf, wrth gadw y rhai hyn yn fyw, yn penderfynu pechu rha^llaw, ar ol ein gwared fel hyn." Bu y tro hwn yn foddion i'm tynu oddi- wrth \v arfer hon byth mwy. Pan oeddwn tu ag ugain oed dechreuodd fy meddyUau fod yn drallodedig a thra- fferthus am grefydd a duwioldeb; a dechreuais fod yn ddiwyd iawn yn cyrchu i wasanaeth yr Eglwys Sefydl- edig. Prynais Lyfr Gweddi Gyffredin, a dysgais y rhan fwyaf o*r ffurfiau ar dafod leferydd, a chyrchwn yn ddiwyd i'r Llan, gan feddwl y gallwn fod yn grefyddol ond dilyn traddodiadau fy hynaflaid. Ond er y cwbl byddai fy meddyliau yn drallodedig am fy nghyf- h\r ysprydol, yn euwedig am ailenedig aeth. Yr oeddwn wedi darllen4 Oddi- eithr geni dyn drachefn na ddichon efe weled íeyrnas Dduw: etto yr oedd fy meddwl yn dywyll, fel yr eiddo Nico- demus, am y cyfnewidiad iirasol hwn; a mynyeh ddysgwyliwn glywed yr Off- eiriad yn y Llan yn sfin rhywbeth yn ei gylçh, ond cefais fy siomi. A wn weith - ìau i gapel yr Annibynwvr i Ddinbých, 2 y