Skip to main content

Y DRYSORFA. Rhif. xcv.] TACHWEDD, 1838. [Lltfr VIII. COFIANT MR. THOMAS GREEN O ABERAERON. Gan mai< tir anghof' ydyw y bedd, a bod y meirw yn.fuan yn cael eu hang- hofio allan o feddwl, a'u gweithredoedd yn cael eu hebargofi yn y ddinas lle y gwnaethant felly, dylem fod yn ofalus i gadw coffadwriaeth i'r oesoedd a ddeâant o'r rhai hyny 'a gawsant air da trwy ffydd,' y rhai a fuont hyn- od ymhlith yr apostolion, ac fel Iehoia- dah a wnaethant ddaioni yn Israel tu ag at Dduw a'i dy; fel pan fyddont hwy megis canwyll o dan lestr yngwely di-swn y bedd, y byddo y grasau a'r doniau a ddisgleiriasant ynddynt yn llewyrchu ger bron cenhedlaethau dy- fodawl, nid fel y gogonedder hwynt, nac fel y gweuhieithier i'w perthynas- au, ond ' fel y gogonèdder eu Tad yr hwn sydd yn y nefoedd ;' ac y byddo i'w hesiamplau effeithio yn ddaionus ar eu holynwyr, trwy fod yn annogaeíh i'r rhai a ddarllenant eu hanes i fyned rhagddynt ar hyd ol traed y praidd, a bod ' yu ddilynwyr i'r rhai trwy ffydd ac amynedd sydd yn etifeddu yr add- ewidion.'' Dywedodd Crist am y wraig a enneiniodd ei gorph, ' pa le bynag y pregethir yr efengyl yn yr holl fyd, mynegir yr hyn a wnaeth hi hefyd er coffa am dani hi? Testyn y Cofiant hwn ydoedd fab i Mr. W. Green, o Aberaeron, Swydd Ceredigion. Ganwyd ef ar y 2Üain dydd o Chwefror, 181.5. Cafodd ei cldwyn i fynu yn eglwys Dduw o'i febyd gyda'r Trcfnyddion Calfinaidd, i'r rhai y perthynai ei rieni: ac mor fuan ag y daeth y bachgen i fedru ymwrthod a'r drwg ac ethol y da, cafwyd ynddo beth daioni tu ag at Arglwydd Dduw Israel: a gallesid dweud am dano yn ienanc iawn, < ac efe ydoedd dlws i Dduw.' Cyn ei fod yn gytìawn dwy flwydd oed, ganwyd iddo frawd, a phan welodd ef y diwrnod cyntaf ar ol ei eni, dywedodd wrtho yn nhafodiaith I mabandod, < Abel, Abel, plant drwg l sydd yn chwarae ddydd Sul ?' yr hyn sydd yn dangos fod nodweddiad plen- tyn yn dechreu cael ei ffurfio yn gynt nag y mae ond ychydig yn ystyried, a bod parch i'r Sabbath yn arwydd go- beithiol iawn mewn plant, ac yr ydys Avedi sylwi yn fynych fod dinystr llawer o bobl ieuainc wedi dechreu mewn halogiad o ddydd yr Arglwydd. Am ei ufudd-dod i'w rieni yr oedd yn tebygoli i'r hwn a aeth gyda Joseph a Mair i Nazareth, ac afu ostyngedig iddynt. Pan oedd o ddeutu chwe blwydd oed, bu tywalltiad mawr o'r Yspryd Glan ar yr eglwys i ba un y perthynai, a bu effeithiau grymus iawn ar feddyliau Thomas ienanc ; byddai yn torri allan ac yn gorfoleddu fel y plant gynt yn y deml, y rhai a waedd- ant Hosannah i fab Dafydd; a phan ofynid iddo beth oedd yn ei gynhyrfu, attebai mai ofn myned fr tdn : a bydd- ai sobrwydd a difrifwch mawri'w gan- fod ynddo y dyddiau canlynol ar ol derbyn y cyfryw ddylanwadau. Pan oedd oddeutu sâith mlwydd oed, gof- ynodd un diwrnod gennad gan ei dad i gyflawni dyledsw}_dd grefyddol yn y teulu, ac wedi cael caniattad, darllen- odd bennod, aeth ar ei liniau, ac a ad- roddodd Salm, ac yr oedd golwg ddi- frifol iawn arno ef, er fod rhai o'r teulu mewn sirioldeb ag oedd yn terfynu ar ysgafnder: a diammau y gallesid dweud uwch ei ben y pryd hwnw, 4 Wele y mae yn gweddio.'' Pan yn yr ysgol ddyddiol ni byddai yn hoffi cyfeillachu a phlant annuwiol a fyddent yn arfer geiriau cas. Yr oedd yn dra awyddus yn blentyn am fyned i'r Ysgol Sabbathawl, ac i wrando'r efengyl, a dechreuodd yn ieuanc iawn i ysgrifenu y pregethau a glywai, o ba rai y mae llawer yn aros hyd heddyw ymysg ei bapnrau. Cafodd ei ddwyn i fynu i'r un alwedigaeth a'i dad, sef masnachydd: ac ni bu ddiog 2 T