Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DRYSORFA. Rhif. xciv.] HYDREF, 1838. [Lltfr VIII. COFFADWRIAETH AM MR. JOHN WILLIAMS, Un o Henuriaid Eglwvs y Trefnvddion Calfinaidd vn Nghaerlleon, yrbwn a fu farw Awst9, 1838. Ganwyd Mr. John Williams yn mhlwyf Llanllyfni, Swydd Gaernarfon, yn y flwyddyn 1771. Mab ydoedd i Mr. William Dafydd, pregethwr ffyddlawn a diwyd yn Llanllyfni, adnabyddus i lawer o'r hen bobl sydd yn awr yn fyw. Ni fyddai yn anweddus, nac yn an- nerbyniol, dywedyd gair ymhellach am ei dad ef yn y Ue hwn, gan nad oes dim oi hanes ef yn argraffedig, ar a wj'ddom ni am dano. Yr oedd Mr. William Dafydd yn wr duwiol a dichlynaidd iawn; ac yn nod- edig o barchus yn ei gymmydogaefh a"i wlad, fel y cyfryw; ac hefyd yn dderbyniol a pharchus iawn fel preg- ethwr. Dull ei bregethau oeddynt fyr a melus iawn ; eu cynnwysiad oeddynt efengylaidd, profiadol, ennillLrar, ac ymarferol. Yr oedd yn wr tirion, a bynaws yn ei gyfeillach, a nodedig o hoff o blaiit. Yroeddyr Ysgrifenydd yn gydnabyddus iawn ag ef, ac yn hoffus iawn o hono. Ac mae yn credu iddo gael bendithion ysbrydol wrth ei wrando lawer tro. Ni chlywodd efe neb erioed yn dyweyd dim drwg am dano : yr oedd ei galon aM gwbl wedi ymroddi at grefydd Crist, ac i wneuth- ur lles i ddynion. Am rai blynyddoedd cyn gorphen ei daith, yr oedd yn afiach a llesg. Mae aml un yn cofio, y byddai mor lesgach o ran ei gorph, fel y byddai raid- cael cadair wrth ei geffyl i'w gynnorthwyo i fyned ar ei gefn. Ac ymhell cyn ei ddiwedd, byddid yn ei gario ot naill fan i'r lla.ll, a'i gynnorthwyo i fyned i fynu i'r Pulpud. O'r diwedd, aeth ei lesgedd a*i wen- did gymmaint, fel nad allai fyued allan o'i dy, eithr efe a bregethai i'r bobl ymgynnulledig yn ei dy ei hun, gan eistedd ar y bwrdd i lefaru, am nad allai, oherwydd ei wendid, sefyll dim ar ei draed. Er holl lesgedd a gwaeledd corphor- | ol Mr. William Dafydd, braiddygwel- j id un dyn mwy sirioleiysbrydathirion j ei dymher nag oedd eí Dywedai yn j flasus iawn am y Duw trugarog a ! graslawn, ac am ei fawr a'i aml dru- I garowgrwydd ef tuag at ddynion ; ac yn enwedigol am ei raslonrwj'dd yn nhrefn iechydwriaeth pechaduriaid drwy Grist Iesu. Felly wedi gwasanaethu ei genedl ei hun* nes pallu o'i nerth, efe a fu farw mewn heddwch, a bydcí ei goffadwr- iaeth yn fendigedig. * Mae un amgylchiad go nodedig yn djfod i feddwl yr Ysgrifenydd wrth wneuth- | ur coffa am Mr. William Dafydd, yr hyn ! hefyd sydd yn wirionedd difeth. Efe a ragddywedodd ambedwar o bobl ieuainc yn ei wlad ei hun, Sîr Gaernarfon, y byddai iddynt gael eu galw i waith y weinidogaeth ; ac felly y bu. Y pedwar hyn oeddynt, Mr. John Elias, Mr. Richard Jones y Wern, Mr. Evan Evans, mab Mr. Thomas Evans, Pregethwryny Waen fawr, gerllaw Caernarfon, a John Parry, Ysgrifenydd hyn o hanes. Efe a ragddywedodd hyn cjTn i'r un o honynt ddechreu, ac am rai blynyddoedd cyn i'r rhai olaf o honynt ddechreu piegethu. ' Y cyntaf o'r rhai hyn a ddechreuodd ar y gwaith oedd Mr. John Elias, yr ail, Mr. Richard Jones, y trydydd, Mr. Evan Evans, yr hwn a fu farw yn ieuanc, ac y bu galar mawr iawn ar ei ol. A'r olaf oedd yr Ys- grifenydd: gwyddai efe flvnyddoedd cyn iddo ddechreu, fod Mr. William Da/ydd wedi rhagddywedyd hyn am danynt ill pedwar. Nid wyf o'r farn mai drwy ryw ysbryd prophwydoliaeth nodedig y rhagddywedodd efe y peth hyn; ond yn hytrach, gan ei fod yn wr mor nodedig o dduwiol, ac agos at yr Arglwydd, ac mor lafurus yn ei win- Uan ef, ei fod yn canfod drwy brofiad, ei fod ef ei hun i roi ei swydd i fynu yn fuan, ac yn barnu drwy arwyddion, ac yn go- beithio yn gadarn y gallai fod y gwyr ieu- ainc hyn yn cael eu parottoi i fod yn ddef- nyddiol yn llaw yr Arglwydd i wasanaethu eu cenhedlaeth, drwv eu haddvsgu, a phreg- 2P