Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DRYSORFA. Rhif. xcii.] AWST, 1838. [Llyfr VIII. BUCHDRAETH Y PARCH. STEPHEN HUGHES, Un o'r Anghydffurfwyr, yr hwn oedd yn Weinidog yn Mydrim, Swydd Gaerfyrddin, Dcheubarth Cvinru. Canwyd Mr. S. Hughesyn Nghaerfyr- ddin, oddeutu y flwyddyn 1622. Ryw bryd wedi iddo gael ei fwrw allan o'r Eglwys wladol am naccau cydymffurf- io yn y flwyddyn 1662, efe a ymbriod- odd á merch grefyddoí o Swansea ; a bu eynnysgaeth y wraig, ynghyd a'i chynuilwch, a'i diwydrwydd, o fawr gysur a chynnaliaeth iddo, er bod yn ddefnyddiol weddill ei oes, yngwinllan ei Arglwydd. Pregethwr syml, trefnus, aserchiad- ol oedd efe, ac arferai wasgu pethau mawrion a phwysig crefydd yn ddwys at feddyliau ei wrandawyr. Anfynych y pregéthai heb dywallt dagrau, ac aml y tynai ddwfr o lygaid ei wran- dawyr. Efe a ymroddai i fyned i breg- ethu i gonglau tywyll ei wlad, ac i"r plwyfau lle nad oedd gan y bobl neb ond anwybodus (hlarllenu-ifrpregethau, yn lle, a than rith, pregethwyr. Yr oedd ei ddull pwyllog a bywiog yn ennill iddo fawr barch gan y rhai sobr o fawrion y wlad, drwy ffafr pa rai y cafodd efe yn fynych gyfleusdra i bregethu yn yr Eglwysydd plwyfawl, y rhai a lenwid o wrandawyr o bell ac agos pryd bynag y cyhoeddid ef i breg- ethu. Efe a bregethai yn gyffredinol ddwy waith ar y Sabbath, a mynych y marchogai wyth neu ddeng milltir rhwng pob odfa. Mynych yr arferai, mewn modd amlwg iawn, ddangos natur bechadnrus a pheryglus anwy- bodaeth, ynghyd abuddioldeb, hawdd- garwch, ac angenrheidrwydd gwybod- aeth. Efe a daer gymhellai benau teuln- oedd i hyfforddi eu plant a"u gwasan- aethyddion, a'r naill gymmydog i hyfforddi y lla.ll; ac efe a fu yn aehlys- ur i amryw ddysgu darllen Cymraeg pan oeddynt yn ddeugain neu ddeg a deugain oed, ac ychwaneg. Yr oedd yn wladgarwr nodedig; ac er nad oedd ganddo nemawr yn dyfod i mewn, yr oedd yn hynod o haelionus ac elusen- gar. Efe a gyhoeddodd amryw lyfrau Cymraeg ar ei draul ei hun, ac ymysg ereill, ' Gwaith prydyddawl Mr. Rees Priícíiard, Ficcar Iilanymddyfri,'' yr hwn sydd yn cynnwys swm y dyled- swyddau cristionogol mewn cynghan- edd Gymraeg. Fe fu y llyfr hwn o'r hwn yr argraffodd amryw argraffiad- au, yn achìysur i lawer o gannoedd o Gymry anllythyrenog, ag oeddynt yn hoff o ganiadau, ddysgu darîlen yr iaith Gymraeg. Fe fu Mr. Hughes hefyd jm cyn- northwyo i ddiwygio argraffiad o'r Bibl Cymraeg, yr hwn a gyhoeddodd Mr. Gouge ; ac fe fu yn gynnorthwyol i gael llawer o danysgrifiadau at gael yr argraffiad hwnw o*r wasg, yr hwn oedd yr argraffiad mwyaf cywir yn yr iaith, pryd yr ysgrifenwyd hyn o hanes gan Mr. Palmer. Cyhoeddodd Mr. ílughes hefycì gyf- ieithiad Cymraeg o ' Ymarfer Duwiol- deb' —' (ìal wad i'r A nnychweledig, gan Baxter"—' Yn awr neu byth, gan Kaxter"—'Alleine ar Gywir Ddych- weliad"—' Llwybr Hyffordd i'r Nef- oedd." Ac yn niwedd y rhan fwyaf o houynt, efe a chwanecodd yr Egwydd- or Gymraeg, i fod yn g}TfarwjTddyd i'r Cymry i ddysgu darllen. Yr oedd efe yn annogaethol iawn i Bregethwyr a Christionogion ieuainc. Yr oedd yn wr didranigwydd a gos- tyngedig yn ei ymarweddiad, ac fe"i horiìd yn gyffredinol. Ond ei weinid- ogaeth, yr hon yn gyffredinol oedd yn deithiol, a"i wrandawyr yn lliosog, a barai iddo gael ei gasáu gan yr Offeir- iaid, y rhai oedd yn ystyried eu hunain yn ' geidwaid agoriadau gwybodaeth.' Hwy a'i condemniasant ef mewn llys- oedd Eglwysig, ac a'i traddodasant i ddwyla.w y Uys gwladol, yr hwn a'i dododd ef yngharchar yn Nghaerfyr- ddin, ac vn y caethiwed hwn efe a goll- . 2 G