Skip to main content

Y DRYSORFA. Rhif. xci. GORPHENAF, 1838. [Llyfr VIII. BUCHDRAETH Y PARCH. WILLIAM COOK, Un o'r Anghydffurfwyr, yr hwn oedd yn weinidog yr Eglwys St. Michael, Caerlleon, ac a fariwyd allan Awst 24, 1662. Ganwyd Mr. W. Cook o deulu crefyddol, a dygwyd ef i fynu dan olygiad yr enwog Mr. John Ball. Yr oedd yn wr o berchen cyn- neddfau naturiol cryfion iawn, o ddeall cyf- lym, a chof rhagorol o dda. Yr oedd yn ysgolhaig mawr. Ei fedrusrwydd yn Ieith- oedd y Dwyrain a ennillodd iddo fawr fri gan y dysgedig Esgob Walton. Syr John Burgoyne oedd yn gyfaill mawr ac yn Nawddwr caredig iddo, a thrwyddo ef y cafodd efe ei osod yn y Weinidogaeth yn yr Eglwys wladol: a'r man y dechreuodd efe ar wasanaethu y swydd sanctaidd, oedd yn Wroxal, yn Warwicfcshire ; ac oddiyno drwy gynghor y gweinidogion yn Llundain, efe a symmudodd i Ashby de la Zouch, yn Leicestershire. Yn y lle hwnw efe a gaf- odd ei fwrw allan o'r Eglwys wladol, am wrthod llawarwyddo yr Ymrwymiad. Wedi hyny efe a gafodd le yn St. Michael, yn ninas Caerlleon, lle y bu ef yn Weinidog Uafurus a defnyddiol hyd oni fwriwyd ef allan drachefn drwy gyfraith yr Unffurf- iaeth ar y 24ain o Awst, 1662. Yr oedd Mr. Cook yn hynod o ffyddlon i Lywodraeth y Brenin Charles, ac am ei fod ef felly, efe a farnodd fod yn ddyled- swydd arno i ymuno â Syr G. Booth (wedi hyuy Arglwydd Delamere,) pan wnaeth efe gynnygiad am adferu y Breniu i'r orsedd, yn y flwyddyn 1659 ; ac efe a berswadiodd ddinasyddion Caerlleon i roddi i fynu y ddinas i'r Boneddwr uchod. Oherwydd hyny efe a gymmerwyd i fynu yn garchar- or yn Llundain, ac felly y bu efe yn gaeth yn ngharchardy Llambeth am hir amser; ac oni buasai i'r amser gyfnewid yn adfer- iad Charles yr ail i'r Orsedd, diau y buasai efe yn cael ei brofi am ei fywyd. Ond er hyn oll,.ni ddarfu i'w ymddygiad ffyddlon i'r Brenin ennill un ffafr iddo i gael aros yn y Weinidogaeth heb Gydymffurfiad. Ond yn fuan wedi iddo gael ei fwrw allan o'r Eglwys, fe ddododd Maer y ddinas ef yn y carchar cyffredin yn Nghaerlleon am iddo bregethu yr Efengyl yn ei dŷ ei hun ! Eithr yr oedd efe yn llwyr lynu wrth ei egwyddorion yn wyneb holl gyfnewidiadau yr amseroedd; gan ddyoddef gydag amyn- edd ac addfwynder mawr. Ac efe a barha- odd hyd angau yn Weinidog i Gymdeithas o Gristionogion enwog mewn duwioldeb yn ninas Caerlleon.* Ond oddiwrth y rhai hyny hefyd, fe fu orfod arno gilio i Pud- dington yn Wirrall, Swydd Gaer, oherwydd yr erledigaethnewydd a godasid drwy offer- ynoliaeth Cyfraith y pum mittdir, (Five mile Act,) fel y gelwid hi. Yno hefyd, megis ag yn Nghaer, efe a âi yn gysson i addoli i Eglwys y plwyf, ac a bregethai i gynnulleidfa fechan rhwng amserau y gwasanaeth. Efe a ddywedai yn fynych wrth ei gyfeillion yn y fan hono, ' Ei fod ef yn meddwl nad oedd i bobl Dduw fawr o seibiant a llonyddwch yn y byd bwn, ond a gaent mewn comelau.' Yr oedd Mr. Cook yn gristion o'r hen * Bernir mai dyma yr amser y dechreu- odd yr Ymneillduwyr gynnal eu Cyfarfod - ydd yn Nghaerlleon ; ac mai Mr. Cook oedd eu Gweinidog cyutaf,. ac maent yn parhau i'w cynnal hyd y dydd hwn, ac wedi cynnyddu yn ddirfawr erbyn heddyw. Mae yma 15 o Gapelau Ymneillduwyr, a rhai miloedd o'r trigolion yn ymgrynhoi idd- ynt bob Sabbath ; pryd nad oes yma ond 11 o Eglwysydd plwyfau. Felly yspryd erlidgar yr Eglwys wladol fu yr achlysur o ddech- reuad yr Ymneillduaeth, drwy erlid o'uplith un o oreuon yr oes o Weinidogion Crist. Beth amgen a ddysgwylid oddiwrth y fath ymddygiad ? 2 C