Skip to main content

Y DRYSORFA. Rhif. lxxxix."1 MAI, 1838. C^ LYFR VIII. COFIANT AM WILLIAM EVANS, Henuriad Eglwysig, ymhlith y Trefnyddion Calânaidd, yn Dinorwie, Swydd Gaernarfon. Mab oedd William Evans i Evan Jones, a Jane Jones, o'r Tyddyn raavrr, Plwyf Llan- dwrog, swydd Gaêrnarfon. Fe'i ganwyd Awst 17, yn y íi. 1773. Yr oedd ei rieni yn yn rhai hynod mewn duwioldeb; ac felly cafodd yntau ei ddwyn i fynu dan addysg grefyddol, (er heb fod yn yr eglwys). Pan ydoedd tu a 10 oed aeth i gymdeithas (Society) y plant i llanüÿfni, dilynodd hono am tu a 2 flynedd; ond wedi hyny aeth yn hynod o wyllt ac anystyriol; cafodd ei adael feily hyd nes ydoedd rhwng 14 a 15 oed. Ond tu a'r amser hwnw aeth i Fryn'rodyn i wrando pregeth; cafodd hono y fath argraffiadau ar ei feddwl fel na ddilëwyd hwy byth oddiarno. Y noson hono aeth i'w wely fel arferol; ond yn y nos fe freuddwydiai weled ei holl bechodau wedi eu hargraffu yn fras o'i fláen : dychrynodd hyu ef gymaint nes y deffrodd ac y gwaedd- odd; cyfododd o'i wely gyd a'r brys mwyaf; ond ni wybu neb yn y tŷ pa beth oedd yr achos. Bu dda iawn ganddo dranoeth gael lle i fyned ar ei liniuu i lefain am ei fywyd, ac hefyd i ddiolch am ei fod yn rhywle tu yma i uffem. Bu felly am tu a blwyddyn, mewn tra- fferth ddwys ynghylch ei gyflwr, heb hys- bysy i neb, er bwriadu dweud i'w dad bob wythnos : ond ar ryw noswaith pan ydoedd ci dad yn parotoi i fyned i Fryn'rodyn i'r Society; gofynodd W. E. iddo a gai ef ddy- fod gyd ag ef i'r Capel y noson hono. * C'ai /y machgen' (eb yr hen wr) ; ac felly aeth- ant; ac wrth fyned fe fynegodd i'w dad pa fodd y treuliodd y tair blynedd diweddaf. Yr ydoedd hyn yn y gwanwyn pan ydoedd W. E. rhwng lö ac 16 oed. Treuliodd yr 20ain mlynedd o'i oes gre- fyddol heb golli cymmaint ag un Societý na dydd nanos, Ymhen tu a blwyddyn ar ei ol ymunodd Mr. John Parry, (Cyhoeddwr y Drysorfa) â'r Society yn y Bryn'rodyn, a bu'r ddau yn gyfeillion mawr tra bu'r di- weddaf yn y Gymydogaeth. Yr oedd tad pob un o'r ddau ynghyd a John Griffiths Tỳ 'r Capel yn arfer cadw ysgol nos yn y Brynrodyn, a W. E. a J. Parry yn eu cyn- orthwyo ; ond ni byddai yr ysgol hon ond yn y gauaf. Ond wrth edrych ar eu cyf- oedion ieuangc yn halogi dydd yr Arglwydd mor benuchel fe gynhyrfodd" ysbryd y ddau ddyn ieuaingc hyn, a dechreuasant ymddiddan â'u gilydd am gael ysgol ar y Sabbath i Fryn'rodyn, i edrych a ellid dim dysgu i rai o'r lluaws ieuengctid i ddarllen gair Duw, er na chlywodd yr un o honynt erioed son am y fath beth. Ond rhag ofn eu bod yn gwneuthur peth heb fod yn iawn, penderfynasant ofyn i'r hen bobl pa beth oedd eu barn hwy am y fath gyfarfodydd; ac erbyn gofyn i'r rhai hyny nis gwyddent pa atteb i roddi iddynt; ond barnasant fod dysgu y Bibl yn waith da. A rhoddwyd cenad i'r ddau i gynyg ar y gorchwyl, ac felly bu. Ymhen ychydig Sabbathau, daeth y Parch. John Roberts o Lanllyfni (wedi hyny o Langwm) i Bryn'rodyn i bregethu, ac annogodd hwy i fyned ymlaen; ac felly dechreuodd y ddau hyu yr Ysgol Sabbath- awl yn y Bryn'rodyn yn y fl. 1791, hon mae'n debyg oedd yr Ysgol Sabbathawl gyntaf yn Swydd Gaernarfon. Yn lled fuan ar ol hyn gadawodd J. Parry yr ardal, a gadawyd W. E. yno i lafurio ei hmnan pan nad ydoedd ond tu ag 19eg oed. Bu felly am flynyddoedd yn Uafurio gyd a'r Ysgol ei hunan, heb neb yn ei gynorth- wvo • vr oedd wadi enill v fath awdurdod