Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DRYSORFA. lÌHIF. LXXXVII.] M&WRTH, 183ü. [Llyfr VIII. COFIANT AM Y DIWEDDAR FRAWD, MR. TIMOTHY DAVIES, DANYCERIG, Plwyf Llanpnmsaint, Swydd Gaerfyrddin; yr hwn a fuyn Bregethwr llafurus a defnyddiol yn mhlith y Trelhyddion Calfinaidd, aui bum mlynedd ar hugain, ac a fu farw Hydref y 24, 1837, yn 53 oêd. TiMOTHr Davies oedd fab i D. Thomas, Gwniedydd, o Blwyf Pencarreg. Ganwyd ef Mehefin y 6ed, 1784 Panjyn ieuanc cymmerwyd ef oddiwrth ei Rieni at ewythr iddo, sef William David Lewis, i Pantllyn. Cafodd ei ddwyn i fynu mewn ysgoL, nes yr oedd yn medru darllen^ac ysgrifenu yn Ued dda. Yr oedd yn blentyn hardd iawn, o ran ei ymarweddiad allanol. Bu yn gwasanaethu am flwyddyn; a chafodd ei fiino yn fawr gan annuwioldeb y teulu lle yr oedd, fel y dywedodd lawer gwaith na feddyliodd cyn hyny fod y fath yn y byd. Byddai yn ei ieuenctyd yn arfer myned i wrando pregethau i gapel perthynol i'r Brodyr yr Anymddibynwyr; ac yno hefyd y dechreuodd ei yrfa grefyddol, pan oedd ynghylch un arhugain oed. \'t oedd y pryd hyn yn hynod o lafurus gyda chrefydd. Byddai yn rhoi i lawr y testynau, ynghyd u phenau y pregethau yr oedd yn wrandaw. Wrth sylwi ar ei lafur a'i symledd gyda chrefydd, sef pan oedd o gylch tair ar hnguiu oed, annogwyd ef i waith y weinidogaeth; a bu yn pregethu gyda'r Brodyr a enwyd, am bedair blynedd. Byddai yn aml y blynyddoedd hyn, yn ar- fer gwrando Gweinidogion a Phregethwyr y Trefuyddion Calvinaidd. Yn y flwyddyn 1811, priododd âg Ann, merch John Davies, Gilfaén-goch, plwyf Brechfa, a chartrefodd yn Pantllyn ddeng mlynedd. Yn y flwyddyn 1812, ymadaw- odd a'r Anyinddibynwyr, ac ymunodd á'r Trefnyddion, yn Brechfa. Yr aclios o hyn oedd, ei gariad at ddysgybliaeth, &c. y corph o bobl a enwyd olaf. Cafodd gan- iatad i bregethu yn eu plith, mewn cyfarfod Misol a gynnaliwyd yn Brechfa y 4vdd dydd o Dachwedd, yr uu flwyddyn, Preg- ethodd y Sabbath canlynol yn Brechfa, oddiwrth Ioshua 13. 1. 'A thir lawer iawn sydd etto i'w feddiannu,' a bu yn pregethu yn Brechfa agos unwaith bob mis am bum mlynedd ar hugain, sef hyd ddiwedd ei oes. Fel dyn, yr oedd yn feddiannol ar dymer siriol, serchiadol a charuaidd iawn, yn hawdd i bob gradd o ddynion gyfeillachu âg ef. Yr oedd ynddo lawer o bethau neillduol i enill sylw ei wrandawyr. Yr oedd ei agwedd yn serchiadol o ran ei ber- son, a'i ddawn yn felus bob amser, Yr oedd, fel y dywedir am gariad, heb feddwl drwg am ei frodyr, ond yn gobeithio pob dim, yr oedd jn awyddus am ddilyn hedd- wch â phawb, yn ei deulu, yn y gymmydog- aeth, ac yn enwedig yn yr Eglwys. Fel crefyddwr, yr oedd yn rhodio yn holl orchymynion, a deddfau yr Arglwydd, yn ddiargyhoedd. Fel Pregethwr, yr oedd yn neillduol o feius a chymmwys ; ac ni flinai neb un amser á meithder. Ei bregethau oeddynt fynychaf am Grist, yn ei berson, ei ddarostyngiad, ei ufudd-dod, ei wyrthiau, ei ddyoddefiadau, ei aberth a'i iawn; an- chwiliadwy olud ei ras, a'i barodrwydd i ddcrbyn y penaf o bechaduriaid. Yr oedd yn hoff iawn ganddo bregethu ar wyrthiau ein Hiachawdwr, fel y dywedodd wrth frawd oedd yn gofyn iddo ryw dro, ' Beth yw'r achos eich bod yn pregethu am wyrthiau ein Hiachawdwr roor aml ?' ' (),' medd efe, ' y mae yn hyfryd genyf feddwl bob amser ei fod yn iachau, a bywhau y marw, dim ond dywedyd.' Nid oedd wrth draddodi yn dynwared neb; ond yr çedd yn arfer ei ddawn naturiol ei hun; a'i àgwedd a'i ys- tum yn gyrnmwys iawn i'r trwaith yr oedd gydag ef. Nid oedd yn chwenychu y blaen, ond yr oedd wrtli draed ei frodyfymhob man.