Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

//^ Y DRYSORFA J*rHJtl\ ÊXXXV. IONAWR, 1838. Lltfr viii. MYFYRDOD AR Y FLWYDDYN NEWYDD. Wele flwyddyn arall wedi myned heibio! Y mae cylch amser fel ffrwd chwern yn parhaus-ddylifo; a Uanw dygwyddiadau yn chwyddo ei gamrau mawreddig, fel nad oes a luddias nac a ettyl ei ymdaith; un gen- hedlaeth a â heibio, un arall a ddaw yn ei lle; ac yn fuan, bydd y rhai sydd yn ym- symyd ar esgynlawr bywyd yn bresenol, wedi ymadael oll, ac eraill wodi eu cyfleu y.n eu llecedd. Gan hyn£, y gofyniad pwysig ydyw, a ydyraynìlif'n-ymddwyn yn ein dosparth- iadau, yn cyflawni dyben ein bodolaeth ar y ddaear, ac yn ddiwyd yn nghyich ein par- ottoad 1 e.sgyn î drigfan mwy cysurus yn y byd^yr ŷdym yn prysur-deithio iddo. Gall y daionus a'r drygionus, y crefyddol a'r anghrefyddol dreulio olyniad dyddiau mis- osdd a blynyddoedd gyd a chyffelyb deim- ladau mewn amrywiol ystyriaethau; ond y mae gan yr aughrefyddol achos cryf i ys- tyried eu sefyllfa gyda sobrwydd a difrif- wch dwys, oherwydd eu bod yn prysuro i wyddfod eu Barnwr, a'u cyflwr yn anmhar- od; ac oddieithr i gyfnewidiad buan gym- nieryd 11 e yn eu sefyllfa a'u cymmeriad hwy suddant cyn pen hir i golledigaeth dragywyddol! Ond gall y dosparth arall sydd yn cradu yn Nghrist, yn mwynhau uTWÌdiìiifinti ipecliodau trwy flydd yn ei aberth ef, sef y rhai a sancteiddiwyd gan -■ yr Yspryd Glan, ac ydynt yn byw bywyd o dduwioldeb a rhinwedd, fyfyrio ardreigliad amser nid yn unig heb arswyd, ond gyda thawelwch a chysur. Tra y byddo pob blwyddyn, mis, a diwrnod yn prysuro dod- fryd y pechadur anedifeiriol, y maent ar yr un pryd yn prysuro diwedd i holl helbulon y Cristion, ac yn ei ddwyn yn nes at ddech- reu y gogoniant tragywyddol hwnw, a add- awvd iddo vjj yr Efengyl. Ond wrth ddechreu bwyd yn arall, saf- wn am ychydig, i fyfyrio ar y rhan dreul- iedig, y rhan bresenawl, a' rhan ddyfodawl o'n hoes. 1. Adolygwn y gyfran hono o'n bywyd ag sydd eisoes wedi ei threulio. Wrth wneuthyr hyn, dylem ddefnyddio gostyng- eiddrwydd, edifeirwch, a dyolchgarwch. Ys- tyriwn yn ddyfal y ü'oseddiadau lliosog o omeddiad a chyflawniad, dirgel a chyhoedd, ybuom yn euog o honynt; dylem olrheinio y gyfres ffiaidd, a'r llechres ddu, eu chwilio yn ddyfal, cymmeryd cyfrif llawn o hon- ynt, galaru o'u henvydd, eu cyffesu ger bron gorsedd gras, gan weddio ani faddeuant o honynt a glanhad oddiwrthynt drwy- Iesu Grist. Galw i gof, ddarllenydd, yr amrrwicl freintiau a dderbyniaist, a'r cymmwynasau neillduol a chyffredinol a fwynheaist tn\y haeledd daioni Duw ; myfyria ar amynedd, cyd-ddygiad, a charedigrwydd yr Arglwytld. tu ag attat, nes y byddo dy galon yn ym- enynu gan gariad cydnabyddol, a mawl yn dylifo yn ewyllysgar oddiar dy wefusau. 2. Ond, beth fydd ein hystyriaethau ary flwyddyn bresennol ? Cofia mai hwn ydyw yr unig amser y gallwn ei alw yn eiddo i ni ein hunain ; y mae y treuliedig wedi myned heibio, ac ni ellir galw munudyn o hono. byth yn ol. Os darfu i ni ei gamddefnydd- io, nid oes genym ond edifarhau am ein ffolineb a'n drygweddau. Ac am yr ámser dyfodol, y raae yn eithaf ansicr, 'ie yn gym- maint felly, fel nas gwyddom pa mor fuan na thrwy ba ddigwyddiad, y terfynir ein trigiad ar y ddaear. Treuliwn y munud sydd mewn gafael yn well, gan ëangu a chryfliau ein diwydrwydd yn dyfal-geisio glanhad oddiwrth ein beiau^ . B •