Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DRYSORFA. Rhif. xlv.] MEDI, 1834. Pris 6c. SYLWEDD BREGETH, A draddodwyd yn Addoldy y Trefnyddion Calfinaidd, yn Nghaerlleon, gan J. Davies, Nerquis, Sabbath Tach. 24, 1833. Rhuf. iv. 5. ' Eithr i'r neb nid yw yn gweithio, ond yn credu yn yr hwn sydd yn cyfiawnhau yr annuwiol, ei ffydd ef a gyfrifir yn gyfiawnder.' Mae dau wirionedd pwysig yn cael eu hegluro yn yr Ysgrythyrau Sanctaidd ; ac fe ddylai pawh eu deall yn gywir, a'u credu yn ddiysgog, Sefl.—Cwymp dynolryw yn yr Adda cyntaf. Yu II.—Trefn rasol Duwiachubpech- aduriaid trwy yr ail Adda, yr Arglwydd îesu Grist Trwy y cwymp daeth dan beth ì bob dyn: 1. Condemniad personol. 2. Llyg- redigaeth natur. Mae hefyd yn yr iachawdwriaeth ddau beth. 1. Codi y dyn o ran ei berson i gymeradwyaeth gyda Duw yn y cyfiawn- had. 2. Adferu ei natur ar ddelw Duw yn y sancteiddhad, Y cyntaf o'r ddau a welir yn y testun, sef cyfiawnhad pechad- ur ger bron Duw. Sylwer yn 1. Ar y gwrthrych a gyfiawnheir, sef yr ' annuwiol.' Ystyr y gair yw an Nuw,— croes i Dduw—gwrthwyneb i Dduw. Ni fyn fod Duw yn bod, Salm xiv. 1. ' Nid yw Duw yn ei holl feddyliau ef,' Salm x. 4. Mae yn dirmygu Duw, Salm x. 13. Mae ef heb ofu Duw o flaen ei lygaid— mae ef wedi ymddieithrio oddiwrth fuch- edd Duw,' Eph. iv. 18. Mae ef fel Cain, wedi ymbellhau oddiwrth Dduw—wedi myned o'i wydd Ef, sef o'r lle yr oedd presenoldeb Duw—y lle yr oedd addoli Duw; aeth i dir Nod—nfti oedd addoli Duw yno—yr oedd yu esmwythach arno ef yno; felly yr annuwiol etto, Esaiah xxxiii. lô, 16. Un yn ymryson a'i luniwr, Esa. xlv. 9. Mae yn gosod ei enau yn erbyn y nefoedd, Salm. lxxiii. 9 2. Y fendith —sef cyfianmhad. Nid gwneuthur yr annuwiol yn dduwiol ac wedi hyny ei gyfiawnhau. Nid yw Duw yn aileni cyn cyfiawnhau, nac yn cyfiawn- hau cyn aileni, ond mae yn gwneud y ddau ar yr un pryd. 3. Ymddygiad yr hwn a gyfiawnheir ; ' Nid yw yn gweithio, ond yn credu,' &c. Nid yw yn gweithio i gael ei gyfiawnhau am ei gyflawniadau ei hun: nid yw yn gweithio er enill iachawdwriaeth, oblegid annuwiol yw efe cyn i Dduw ei gyfnewid, ond wedi hyny mae yn gweithio oddi ar egwyddor o gariad at Dduw. 4, Y canlyniad o hyn, ' Ei ffydd ef a gyfrifir yn gyfiawnder.' Nid y gras o ffydd, na'r weithred o gredu, onid ê ffydd fuasai yn dyoddef a. marw ar y groes; ond gwrthrych ffydd, yr Arglwydd Iesu Grist, fel y gellir gweled yn eglur oddi wrth Ier. xxiii. 6, lle y dywedir Yr Ae- glwydd ein cyfiawnder; nid ffydd a olygir. Mae Crist a'r athrawiaeth am dano yn cael eu galw yn ffydd, gwel Gal. iii. 25. Yn awr ymdrechaf sylwi ychydig ar y matter pwysig hwn, cyfiawnhad. I.—Yr angenrheidrwydd syddarbech- adur am gael ei gyfiawnhau. II.—Y drefn sydd gan Dduw i gyfiawn- hau pechadur. III.—Yr hyn sydd gynnwysedig mewn cyfiawnhau. IV.—Y canlyniad, neu y pethau sydd yn cydfyned â chyfiawnhad. I.—Yr angenrheidrwydd sydd ar bech- adur am gael ei gyfiawnhau, 1. Gwelwn hyn wrth gymeryd golwg ar Dduw fel gosodwr cyfraith i ddyn; cyf- raith ei natur a roddodd Ef i ddyn, am hyny mae Duw yn rhwym o angenrheid- rwydd ei natur i amddiffyn ei gyfraith. Buasai gwarth ar natur Duw adael ei gyfraith dan draed ei throseddwyr, Iago iv. 12, Pa fodd y diangwn rhagcosb heb gyfiawnder ? 2 L