Skip to main content

Y DRYSORFA. Rhif. xliv;] AWST, 1834. [Llyfr IV. CRYNODEB O BREGETH A bregethwyd gan y diweddar Barch. David Jones, Llangan, MehefnÖ, 1798. Canysmeirw ydycb, a'ch bywyd a guddiwyd gyda Christ yn Nuw.'—Col. iii. 3. 'MEiRwydych.' Gwirionedd yw hyn am bob gwir gristion; y maent yn feirw i bedwar peth. I.—Meirw i bechod. 1. Yn feirw i gariad atto; y mae pawb sydd yn caru pechod yn elynion i Dduw. 2. Meirw i'w gynhyrfiadau; y maent yn ddarostynged- ig i demtasiwnau, ond maent yn cael nerth i'w gwrthwynebu. Fel y mae y pysgotwr weithiau yn gosod un pysgodyn yn abwyd yn ei fach i ddal y llall, felly y mae Satan yn abwydo ei facb âg un proffeswr i ddal un araii; eithr ni ddilyn y gwir gristion un dyn yn mhellach nag y byddo ef yn dilyn Crist. 3, Meirw i'r hyfrydwch sydd mewn pechod. Y mae y gwir gristion yn 'dewis yn hytrach ddyoddef adfyd gyda phobl Dduw, na chael mwyniant pechod dros amser.' II.—Meirw i'r ddeddf. Y mae gwir gristion mor farw i'r ddeddf, o ran dysg- wyl iechydwriaeth trwyddi, ag ydyw i bechod. Yn farw i'r ddeddf seremoniol, ac i'r ddeddf foesol. Y mae Crist wedi diddymu'r gyntaf, a boddloni a dystewi'r olaf. Pa beth bynnag mae'r ddeddf yn ei ofyn, y mae'r cristion yn dywedyd, ' Nid oes genyf fi ddim i dalu ; ni's gallaf ond yn unig appelio at Grist, fy Machn'i- ydd.' III,—Meirw i'rbyd. Ymae'n anmhos- ibl bod yn wir gristion, a pheidio bod yn farw i'r byd. Y mae pob gwir gristion yn ddyn wedi ei groeshoelio; wedi ei groeshoelio i'r byd, (feldywedyr Apostol) i wên y byd, yn gystal ag i'w ŵg ; i'w bethau goreu yn gystal ag i'w bethau gwaethaf. Marwigyfoethybyd. Ymae tri peth yn blino meddwl dyn cyfoethog^ l. Y mae arno eisiau ychwaneg. 2. Y mae yn ofni cael llai, ac, yn t wy n a dim yn 3. Yfmae yn arswydo gadael y cwbl dros byth. IV.—Marw i'r hunan. Er mor galed yw y wers hon, sef, dysgu marw i'r hun- an ; y mae y cristion yn cael ei ddysgu gan yr Ysbryd Glan. Hunan yw gelyn mwyaf y cristion ; hyd yn nod pan fyddo gelynion eraill yn gorwedd yn lladdedig ar y maes, y mae'r anghenfil hwn, sef hunan, yn dyfod i mewn, ac yn honni hawl i'r fuddugoliaeth. Y mae rhai dynion yn hoff o gadw gwas du yn mysg eu gosgordd, ond y mae'r cristion yn teimlo llawer o drallod oblegyd y dy- hiryn du hwn, sef hunan, yr hwn sydd yn ei ddilyn mor agos ac mor gyson : y mae yn dra niynych yn esgyn i'r areithfa, ac yn andwyo'r bregeth! Ond ffyddlon yw Duw, yr hwn a addawodd ddwyn ei bobl yn ddiogel trwy eu holl gyfyngderau, a'u gwaredu oddiwrth eu holl elynion. Sylwch yn mhellach, y mae y dynion meirw hyn yn fyw! Beth y w bywyd y cristion ? 1. Crist yw yr awdwr o hono; ac (er mor ddieithr y dichon ymddangos) y mae'r bywyd hwn yn gwneud dyn yn farw i bob peth ond Crist. 2. Crist yw cynhaliwr y bywyd hwn, yn gystal a'r awdwr o hono. Tybia rhai, yn ol iddynt gael gras, y rhaid iddynt gymmeryd gofal i'w gadw; ond yr wyf fi yn gweled y rhaid i ras fy nghadw i, neu na bydd i mi gadw fy hun. Yr ydym weithiau yn siarad am gynnal achos Duw, eithr yr achos sydd yn ein cynnal ni. 3. Crist yw gwrthddrych a dyben y bywydhwn. Yr ydym yn byw arno ef yma, ac yn gobeithio cael byw gydag ef drosfyth yn ol hyn. Ond y mae'r bywyd 2 G