Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DRYSORFA. Rhif. XXXIX.] MAWRTB, 1834. [Llyfr IV. BYWGRAFFIAD Y PARCH. DAFYDD PARRY. Mr. Dafydd Parry ydoedd fab i Dafydd Parry, Llwndiriaid, plwyf Cauo, Swydd Gaerfyrddin; a anwyd y 13eg o Chwef. yn y fl. 1760. Canfyddwyd fod ganddo dalentau helaeth at ddysgu, a chofio, pan yn ieuangc iawn ; ond y cwbl at wasan- aeth tuedd ei nattur lygredig ; hyd nes yn ddeuddeg oed, pryd yr ymwelodd Duw âg ef mewn modd grasol. Ac yn yr amser hwnw yr ymwusgodd efe â'r ychydig ganlynwyr yr Arglwydd lesu Grist oedd yn ymgynuli yn ei enw ef yn y gymydogaeth hono. Cafwyd arwyddion eglur ynddo o wir ddychwel- iad, sef casineb at bechod, ffydd, a chariad at Grist, ac hyfrydwch yn ei wasanaeth. Teithiodd lawer y'mhell ac yn agos i wrandaw pregethu Crist, Ceid- wad y colledig. Bu yn myned yn fisol i Langeitho, fel y byddai torfeydd o amryw wledydd yn myned yr amser hwnw. A'r baehgenhwn agynyddoddac agryfhaodd yn yr yspryd, mewn gras, dawn, a gwy- bodaeth. Dechreuodd ar waith y weinidogaeth yn 18 oed ; y flwyddyn ganlynol aeth i Athrofa Trefecca: bu yno dri mis. Yn yr amser hwnw, bu unwaith yn pregethu yn Saesoneg, pryd y teimlodd yr iaith Saes- soneg yn myned yn gadwynau tynion am ei draed, ac y dywedodd, fod yn well iddo roddi i fynu; nad oedd neb o hon- ynt yn ei ddeall: attebodd y Iarlles Hun- tington, ' Go on, go on, we do understand you very well.' A rhwng ofn suddo, ac ychydig notìo, fe gafwyd y lan: a da oedd y peth. Y'mhen tri mis, aeth adref i ymweled â'i berth'nasau a'i gyfeiliion, gyda llawn fwriad i dd>chwelyd yn ol i'r Athrofa; ond ei frodyr cartrefol, ac eraill, ni allent oddef iddo feddwl myned yn ol, o her. wydd fod y gwaithyn amlhau, a'r gweith- wyr yn anaml; a thrwy ry w bethau a ddywedodd y Parch. Wm. Lloyd o Gauo wrtho, fe arafwyd ei feddwl, ac fe roddodd ychydig o gyhoeddiad i fyned trwy y wlad. Ac yr oedd diwygiad grymus yn y wlad yr amser hwnwj ac fe gyfranogodd ei yspryd ef o hono yn helaeth, ac eraill trwy ei weinidugaeth; fel yr ofnodd fyn- ed yn ol i'r ysgol rhag i'r cynhauaf fyned heibio, tra y byddai efe yn hogi ei gryman yn Athrofa Trefecca. Bu yn llaíurus yn myned allan gyda gwaith y weinidogaeth wrtho ei hun, a ehyda ei frodyr; yn treulio, acynymdieulio gydag achos mawr yr efengyl. Pan oedd yn 24ain oed, efe a aeth dan rwymyn priodasol â Margaret, merch Mr. ReesEvans, Llofftwen, Plwyf Llanwrtyd, Swydd Frycheiniog. Wedi eu priodi, buont yn byw yn lle ei enedigaeth dair- blynedd-ar-ddeg; yna mudasant i Frych- eiuiog, i dyddyn a elwir y Gilfach, plwyf Llanwrtyd: bu yno yn byw 23ain o flynyddoedd, hydawrei farwolaeth. Ond i ba le bynnag y tywysai Dwyfol raglun- iaeth ef, yr oedd yn wr yn mynwes Eglwys Crist yn mhob lle ; 'ie, gallaf ddywedyd am dano, brawd anwyl, Gweinidog ffyddlon, priod caruaidd, tad serchog, a chymydog diniwaid oedd efe. Neillduwyd ef i waith cyflawn y weinid- ogaeth, yn y Gymanfa a gynhaliwyd yn Llan-deilo-fawr, Swydd Gaerfyrddin, Awst, 1811. Gwel Cyffes flydd, tu dal. 34ain. Ond i ddyfod yn fwy neillduol at barthau ei weinidogaeth. Yr oedd ei bregethau yn aml o duedd deffroi y gydwybod : efe a fanwl chwiliai hen Jv