Skip to main content

Y DRYSORFA. Rhif. XXXVII.] IONAWR, 1834. [Llyfr IV. COPIANT Y PARCH. HOWEL DAVIES. Gynt Gweinidog yr Efengyl yn Egkvys Prengast, Hwlffordd. »e« Mab enw y Gweinidog duwiol a llafurus bwn i'w weled yn hanesion dechreuad y Trefnyddion Calvinaidd yn Nghymru; ond mae yn debyg nad oes, hyd yn hyn, ddim coffadwriaeth am ei fywyd a'i lafur gwedi ei gyboeddi yn y Gymraeg. Y cofíant canlynul am dano a ymddangosodd yn yr Eurgrawn Efengylaidd Seisonig, am Medi, 1814, ac a gyflwynir yma i'r Cymry yn eu hiaith eu hunain; ac, yn niffyg Bywgrafliad helaethach, diammeu genyf y bydd er dywenydd ac adeilaclaeth i'r darllenwyr. " M. D—. Yr ydwyf bob amser yn ei ystyried yn beth gwarth i'r Trefnyddion Calvinaidd, bod cynnifer o'r pregethwyr bureuaf yn eu plith gwedi myned heibio yn ddisylw i'r bedd. Mae pob amgylchiad bron yn eu hanes o bwys mawr, yn gymmaint a'u bod yn dadau a sylfaenwyr llawer o'n cymdeithasau. Os hyn a esgeulusir lawer yn hwy, bydd yn rhy anhawdd cadw ar gofla ddim o bwys am eu profiad, llafur, a'u defnyddioldeb, gan fod eu cyfeillion a'u plant yn yr efengyl, gyda threigliad amser, yn symud i ffordd yn glau ar eu hol i'r byd tragywyddol. Gwyddom eu henwau, ac ychydig o leoedd eu gweith- rediadau, ac yr ydym yn gweled ffrwytb- au eu lîafur; ond mae arnom eisiau hys- bysrwydd mwy pennodol ymherthynas i ddynion, i y rhai, dan Dduw, yr ydym mewn cymmaint dyled. Yr ydym yn gweled dynion beunydd yn cofrestru eu gwarth eu hunain, ac yn bytholi troseddau ereill trwy eu cyhoeddi; ac oni fyddwn ni yr un mor eiddgar* i achub o'r iselder annheilwng lle buant yn rhy hir ynghudd, goffadwriaethau y dynion rhagorol hyny y rbai nld oedd werthfawr ganddynt eu * Eiddigeddus, zelog. heinioes eu hun os gallent dystiolaethu efengyl gras Duw i bawb o'u hamgyleh i Gyda golwg ar hyn y casglid ynghyd yr hanes anmherffaith a ganlyn am weinid- og hewydus* a fiyddlawn i Grist, tra theilwng o efelychiad. Yn amser ei fywyd yn ddiau safai yn uchel yn marn y cyffred- in am ddifrifwch neillduol a dianwadal- wch diymmod, ac iawn y perchid ef am ddyhewydf helaeth a chariad gwresog yn ngwasanaeth ei Feistr Nefsl ac eglwys Duw, hyd oni wisgai amser ef â pheu- Uwydni anrhydeddus, ac y suddai natur i'r bedd. Y gweinidog tra defnyddiol, Howel Daries, ydoedd briodor o Ddeheubarth Cymru, hanedig o deulu parchus a chref- yddol. Syched am ddysgeidiaeth, yn gyssylltiedig ag athrylith fywiog, a'i rhwymai mewn ymröad cynnar a llwydd- iannus i astndiaeth. Gwedi treulio eünyd o amser mewn ysgol yn y wlad, rhoddid ef tan ofal yr Apostol Cymreig, fel y gelwid weithiau y Parch. Griflìth Jones, gynt periglor Llanddowror, yn swydd Caer- fyrddin : gwr ag y mae ei gofladwriaeth gwedi ei gerfio yn ddwfn ar galonau mil- oedd, yn fwy parhäus nag ar ddaienau o brès. Tan ei addysg ef, cynnyddai Mr. Davies yn fawr yn yr ieithoedd Lladin a Groeg, ac mewn cangenau ereill o ddysg- eidiaeth, er ei fod yn llafurio, y pryd h wnw, tan yr anfantais o feddu cyfansodd- iad corfforol tra egwan. O'i ieuenctyd i fynuyr ydoedd o duedd- fryd tra difrifol; a than weinidogaeth Mr. Jones arweinid ef i adnabyddiaeth * Eiddigeddus, zelog. + Brwd-frydedd. zêl, %c.