Skip to main content

Y DRYSORFA. Rhif* XXXIV.] HYDREF, 1833. [Lt.tfh iii. BYWGRAFPIAD Y PARCH. THIiOPHILUS JONES, (Parhadtudal. 256) Nyni a gymmerwn oíwg ar Mr. Jones fel dyn,—fel cristion,—fel gweinidog yr efengyl, ac ychydig o'i eiriau olaf ef. I.—Fel dyn. Mewn geiriau byrion, yr oedd yn ddyn hynodol o'r trefnus (neat). Yr oedd trefn reolaidd ar bob peth per- thynoliddo; ar ei ddillad, &c: yr oedd harddwch yn argraffedig ar ei lyfrgell. Ewch i'w dŷ ef, a gwelwch ei holl ysgrif- enadau—dyrchefwch i'w ystafell wely, a chwi welwch harddwch rheolaidd ymhob man. Cyfarfyddwch ag ef oddicartref,—lle bynag y gweloch Jones ehwi a'i gwelwch ef yn gryno ac yn drefnus (neat). Myfi a arferwn ei weled ef yn Nghymru ; ac a arferwn wrando arno gyda mawr hyfryd- wch. Yr oedd yn ddyn cyfanddam ymhob man; yr oedd yn ymbyfrydu mewn tlysni; yr oedd yn ddyn dillynaidd drwyddo draw. Mae rhyw un, fe allai, yn barod i ddy- wedyd mai hyny oedd ei falchder ef. Nid wyf yn meddwl dweyd ei fod yn ddyn perffaith; er hyny nid wyf o'r farn fod hyn yn tarddu oddiar falchder: yr wyf yn meddwl ei fod yn beth cyfansoddol, naturiol ynddo. Yr wyf yn tybied fod glanweithdra, a thlysni (neatness) gartref ac oddicmrtref yn dygymmod â phob cristion, ac â phob gweinidog cristionogol hefyd. Yr oedd efe hefyd yn ddyn o dymmer ryfeddol o'r cyson: nid yn un hawdd iawn ei gythruddo. Mae gau y cyfryw ddynion fantais fawr ar y rhai hyuy sydd yn fyrbwyll a chynhyrfus eu natur. II.—Ond bwriwn olwg arno fel cristion. Yr oedd yn yr ystyr fanylaf yn ddyn cyf- iawn iawn; yr oedd yn uniawn tuag at Dduw—yr oedd yn gyfiawu tuag at ei deulu —yn gyfìaẃn tuag at yregfwys—jn gyfiawn tuag at y byd—yr oedd yn wr eyfiawn yn Nghymru—yr oedd í'elly yn Llundain—yr oedd yn wr uniawn a chjf- iawn; ystyriwch ef frodyr, a dilynwch ei siampl ef. Fel cristion yr oedd y cyfryw fath o ddyn ag a gadwai ei fri a'i urddas ymysg ei gyfeillion, ac a ennülai eu serchiadau : os wyf yn methu, argyhoeddwch fi. Y cyfryw ydoedd ei fì'ordd fawredig a meis- trolaidd fel ag y gorchymynai ufudd-dod, ac etto ar yr un piyd, sicrháai serchiadau ei bobl. Yr oedd efe yn ddyn ag oedd yn ofaius iawn yn ei holl ymddygiadau. Ni swp- perodd oddicartref oud ýchydig iawn o weithiau yn ystod y ddwy flynedd ar bymtheg y bu yma yn byw ; ac ni adaw - odd y leulu y byddai yn ymweled â hwy erioed, heb fyned i weddi cyn ymadael. Y cyfryw ydoedd ei rag-ofal, ac angen- rheidiol iawn oedd hyn, fel yr ymdrechai i fod gartref mewn amser addas yn yr hwyr. Yr oedd yn wr o nodweddiad gofalus, uniawn, a chydwybodol. Yr wyf yn credu oddiwrth yr byn a wn I am dano, ac oddiwrth yr hyn a glywais am dano, ei fod mewn gwirionedd yn ddyn wedi ym- gyflwyno i'r Arglwydd. Yr oedd yn ddyn ag oedd yn byw llawer iawn o'r neilldu (yn y dirgel). Mae llawer o bobl yn bod y rhai a feiant arnom ni bregethwyr am nad ydym yn myned allan ddigon. Rhai pobl a garant i ni fod yn wastad yn cleb- ran gydâ hwy; ond os dysgwyliant glyw- ed eu pregethwr gydag un gradd o hyf- rydwch, mae yn rhaid ei adael ef yn ei lyfr-gell ar ei ben ei hun yn fynych. Nid wyf fi yn beiddio haeru na ddylem 2 0