Skip to main content

Y DRYSORFA, RflÌF. XXXII.] AWST, 1833. [Llyfr tn. COFPADWRIAETH AM MR. ËDẂARD WILLIAMS, BÜCELEY, Yr ham afufarw Mawrth 16, 1833. Edward Wüliams oedd fab i Mr. R. Williams, gynt o Blas yn Mhowys, Trydd- yn, swydd Flint. Ganwyd ef yn y flwydd- yn 1799. Cafodd ei ddodi yn yr ygol pan yn fachgen, yn hwy na Uawer o'i gyfoed- ion. Nid oedd dim amlwg arno yn ei ieuenctid, am ei gyflwr ysprydol rhyng- ddo a Duw; ond yr oedd rhyw awydd ynddo am wybodaeth ysgrythyrol. Nid yri unìg yr Oedd yn llafnrus mewn dar- llen, ond yr oedd hefyd yn chwilio am feddwl yr Arglwydd yn ei air. Ond pan oedd o ddeutu ugain oed de- chreuodd feddwl yn ddwys am fatter ei enaid. Yn fuan wedi hyny, ymunodd a chymdeithas eglwysig y Methodistiaid CaMnaidd yn Nghaergwrle, a chafodd dderbyniad croesawgar iawn. Efe a fu yno yn aelod eglwysig diwarth i achos Duw, a diddolur i'w bobl, heb un cwyn yn ei erbyn gan neb, nac achos cerydd am ddim, ar hyd amser ei arosiad. Ymhen amser, gwnaed Capel yn ardal Coed llai, heb fod yn neppell oddiwrth ei gartref ef; ac yno y bu yn llafurus iawn gyda'r Ysgol Sabbothol, a rhanau ereill o waith Duw, am amryw flynyddau. Yno y bu o ddefnydd mawr, tra yr arosodd gartref. Yr oedd Edward Williams yn wr ieu- anc o gynneddfau cryfion, golygiadau treiddgar, ac o ddeall cyflym. Yr oedd yn nodedig o dduwiol yn ei fywyd. Yr oedd tri pheth sydd mewn gwir grefydd ganddo; sef, Yn gyntaf, gwybodaeth iachusol. Yn ail, profiad ysprydol. Yn drydydd, buchedd grefyddol. Yn gyflelyb i Noah, yr oedd yn w'r per- ffaith yn ei oes; gyda Duw y rhodiodd efe. Efe a symmudodd o ardal Coed llai i Buckley i ddilyn galwedigaeth, sef ys- grifenydd a golygydd mewn gwaith glo. Yr oedd cymhelliadau cryfion ar ei feddwl ef yn y dyddiau hyn, am anturio i waith y weinidogaeth, i rybuddio ei gyd bechad- uriaid i ffoi rhag y llid a fydd. Ac ar ol sefydlu yn Buckley, fe hysbysodd y peth i'w gyfeillion. Yn mis Hydref, 1827, derbyniwyd ef, yn oJ trefn y corph o grefyddwyr y per- thynai iddo, fel pregethwr, gan y cyfar- fod misol: a llafurus iawn y bu yn ei dym- hor byr, sef yn agos i bum mlynedd a han- ner, pryd y daeth ei yrfa i ben. Cynuysg- aeddwyd ef â doniau lled helaeth. Nid oedd ei lais yn gryf; ond ei ddull cyffredin o lefaru oedd dull syml, a rheolaidd iawn. Byddai bob ainser, pa destyn bynaga gym- merai, yn ymgais am egluro meddwl yr Arglwydd mewn modd rhagorol yn y rhan hyny o'i air sanctaidd. Byddai pob dyn deallus, a phob un a chwenychai ddeall, yn hoff iawn o'i wrando. Ond ni fyddai gwrandawyr tymherog mor awyddus am ei wrando; a'r cyfryw yw cannoedd o wrandawyr yr efengyl yn Nghymru y dy ddiau hyn, yn fwy am gael toddi y dym- her, nag am agoryd y deall, a dychwelyd yr enaid. Yn ei ardal ei hun, yr oedd yn un o'r rhai mwyaf poblogaidd ; a Uawer yno a ddywedent mai efe oedd y goreu ganddynt gíywed o bawb. Byddai hefyd yn fwy poblogaidd yn ei ardal ei hun nag a fydd- ai mewu ardaloedd amgylchiadol; a hyny, am y byddent yn ei gly wed yn amlach, ac yn ei adnabod yn well. Ond fe fach- ludodd y seren hon, cyn i nemawr yn Nghymru, oddigeith yn ei Sîr ei hun, erioed weled dim o'i lewyrch, na chly- wed dim o'i leferydd. Yr oedd, fel pe 2F