Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DRYSORFA. Rhif. XXXI.] GORPHENAF, 1833. [Llyfr iii. BYWGRAFFIAD. Y PARCH. EVAN RICHARDSON, CAERNARYON. (Parhad tu dal. 164.) Bellach amcanaf roddi ychydig o hanes Mr. E. Richardson yn ci deithiau. Nis gadawodd efe yr Ysgol i fyned i deithio; ond teithiai ar y Sabbothau i'r manau y gallai gyrhaeddyd adref erbyn y nos, neu ynte yn foreu iawn ddydd llun. Dy- wedoddwrthyf,ryw bryd,ei fod ynmeddwl fod ganddo ef genadwri, ond fod cylch (Cirele) iddi. Er hyny teithiai yn ach- lysurol ar hyd amryw wledydd a threfi Cymru a Lloegr. Pan dorrai efe yr Ys- gol yn ngwyliau'r Nadolig, efe a âi i'r Deheudir y pryd hyny: felly y gwnaeth efe am amryw íiyDyddau; a chymmerad- wy iawn oedd ei weinidogaeth yno, megis yn y Gogledd. Ar ol i'r bobl yn y Deheudir glywed ei fod yn dyfod yno, byddent yn dysgwyl am dano fel am y gwlaw ar sychder. Clywais amryw o honynt yn tystio felly. Teithiodd i'r Deheudir y ddau dro cyntaf ar ei draed ; ond fel y caíí'ai ei gynnorth- wyo gan ei gyfeillion yno ! Y tro cyntaf yr aeth i Sîr Gaerfyrddin, pan ddaeth i Gaio, ar nos Nadolig, nid oedd ganddynt ond ei enw yn unig. Yr oedd Mr. William Llwyd, o Henllan, gerllaw Caio, i bregethu gydag ef y noson hono. Nid oedd Mr. Llwyd yn ei adnabod cyn hyny. Pregethodd Mr. Richardson o'i flaen ef; ac yr oedd y bobl fel ar dân mewn ychydig funudau. Ymattaliodd yn fuan, i gael rhoi lle i Mr. Llwyd. Yn y plygain, boreu dranoeth, yr oeddynt i lefaru gyda'u gil- ydd drachefn, a Mr. Richardson a bre- gethodd yn gyntaf y tro hwn. E rbyn deg boreu dranoeth aethant gyda'u gilydd i Lanisawel; a mynodd Mr. Llwyd lefaru yn gyntaf y tro hwn, a hwy a gawsant wledd Nadolig iawn yno, sef gwledd ys. prydol i'w heneidiau. Cefais yr hanesyn hwn gan rai o bobl Caio. Bu Mr. E. Richardson, yn llaw yr Ar- glwydd, yn offeryn i ddarotwng yr erlid- wyr yn Nghorwen yn Swydd Feirionydd. Cyn hyny ni cheid llonyddwcb i bregethu yno, hyd yn nod y parchedicaf, a'r mwy- af urddasol yn y corph. Y peth hwn a fu fel y canlyn. Yr oedd Cyfarfod mawr gan yr Ynadon (Meeting of Maaistrates) yno, ar y diwrnod yr oedd Mr. R. i bregethu yno. Efe a safodd i bregethu allan ar yr heol; ac efe a bre- gethodd gryn lawer yn yr iaith Saesoneg, ac fe ymddygodd y boneddigion yn fon- eddigaidd iawn; canys gwrandawent yn barchus. A phan welodd yr erlidwyr y boneddigion yn rhoi clust ymwrandawiad iddo, ni feiddiodd uu o honynt godi arf dinystr yn ei erbyn ef. Ac, byth ar ol hyny, fe gaed llonyddwch i bregethu yn Nghorwen, Clywais Mr. Grifnth Owen o Gaergybi yn adrodd hanesyn go ryfedd. Yr oedd Mr. E. Richardson ac yntau yn myned gyda'u gilydd i Liyerpool. Ar eu taith yno daethant i Dreffynnon; ac aethant i gadw odfa yno, gyda'r hwyr, i ryw le bychan megis dan y ddaear: ar hyd gris- iau y disgynent i lawr i'r lle; Gweddiodd Mr. G. Owen, a phregethodd Mr. Rich- ardson yn wlithog, fel y byddai efe yn aml. Yr oedd llawer o wylo yn yr odfa fechan hono, ac amryw yn canmol Iesu Grist. Ond ar ol y bregeth, cyn myned o honynt allan, hwy glywent ryw un yn galw ar yr yspryd drwg, ac yn tyngu iddo y mynai efe ladd y ddau bregethwr. Ni wyddai yr adyn hwn ddim gwahaniaeth rhwng gweddi a phregeth : nid oedd Mr. Owen yn bregethwr. Ond, meddai un arall, " Ni chei di ddim eu lladd hwynt." Chwanegai y cyntaf dyngu y mynai ef* 2 B