Skip to main content

Y DRYSORFA. Rhif. XXX.] MEHEFIN, 1833. [Llÿfr iii. BYWGRAFFIÂD. Y PARCH. EVAN RICHARDSON, Caernawon. Meddyliais cyn byn, na cheisiwn anfon hanes un dyn i'r Drysorfa, oddieithr bod genyf hanes un wedi ei ysgrifenu ganddo ef ei hun ; ond yn gymmaint a bod rhai o ddarllenwyr y Drysorfa yn deisyfu cym- maint am hanes Mr. fiichardson o Gaer- narvon; ac amryw wedi bod yn gofyn i mi yn daer iawn i ysgrifenu hyny a allwn i o'i hanes, mi a roddaf ger eich bron yr hyn a allwyf gofio o'r pethau mwyaf hy- nod, a mwyaf buddiol i'w hadrodd ar a wn i am danynt; a'r rhan fwyaf o'r hyn a fynegaf, a fyddant y pethau a glywais ganddoef eihun. Ganwyd Mr. Evan Richardson mewn lle a elwir y Bryngwyn bach, yn mhlwyf Llanfihangel Genau'r Glyn, Sîr Aberteifi, o fewn o boutu pum milltir i Aberystwyth. Enw ei dad oedd Richard Morice Hugh, JSaer Maen. Yr oedd hefyd yn dal y Tyddyn hwnw, sef Bryngwyn bach. Fe gafodd Mr. E. Bichardson ei ysgol- däysg, gan mwyaf, os nad yn gwbl, yn Ystrad Meirig, gyda Mr. Williams, Meistr yr Athrofa yno. Fe'i rhoddwyd ef yno gan ei rieni ìnewn bwriad iddo fod yn Offeiriad yn Eglwys Loegr. Ond yr oedd Mr. Bichardson yn ofni nad oedd ei gyf- lwr yn dda rhyngddo a Duw, ac am hyny nad oedd yn gymmwys i fod yn weinidog yr efengyl, ac felly efe a naccaodd a myned yn Offeiriad. Oherwydd hyn fe dynodd i'w erbyn ŵg ei dad a'i berthyn- asau yn fawr iawn. Yr oedd rhyw drafferth fawr arno am fater ei enaid er yn fachen, cyn iddo glywed nemawr bregeth erioed. Ond yn nghanol ei holl drallod yr oedd yn hynod o dywyll ac anwybodus am y ffordd i achub pechadur. Wrth weddio yn y dirgei, byddai yn cymmeryd gofal am roi ei liniau yn noethion ar lawr. Gweddi- odd lawer felly hyd onid aeth penau ei liniau yn gyffelyb i gorn. Byddai yn darllen y deg gorchymyn, yn y rhai y cynnwysir cyfraith Duw i ddyn, yn fyn- nych. Ac i'r dyben o geisio boddloni hon, golchai ei wyneb a'i ddwylaw yn lâu, a thorrai ei ewinedd hyd at y cnawd i gael yr holl ddu ymaith i geisio bod mor lân a hithau. Ond gwnaed a fyno an- niddig iawn oedd y gydwybod: rhyw beth yn eisiau o byd. Bywbryd, fe ddarllenodd y gair yma, " Heb ollwng gwaed nid oes maddeuant." Meddyliodd, (meddai efe) y byddai raid i'rgyfraith gaeJ gwaed ei galon. Onid oedd efe yn dywyll iawn y pryd hyn? Ond na ddiystyred neb ddydd y pethau bychain; canys fe ddaw dydd y petbau bychaio yn ddydd y pethau mawr. Wrth ddarUen y Bibl, fe ganfu fod Duw er tragywyddoldeb wedi ethoi tyrfa fawr o bechaduriaid yn Nghrist i'w cadw i fywyd tragywyddol, Epb. i. 4. Ond yr oedd yn ofni fod y drefn hon yn rhwystr iddo ef i fod yn gadwedig. Canys yr oedd yn ofni y byddai ei ymdrechiadau oll yn ofer, os nad oedd o'u nifer. Ond pan ddygwyd ef i weled ei anallu i'w gadw ei hun drwy ei hoJJ ymdrechiadau deddfol, fe'i dygwyd i gymmeradwyo yr athrawiaeth o etholedigaeth gras; ac i lawenychu o galon wrth feddwl fod Duw yn achub yn ol ei arfaeth ei hun a'i ras a bod etholedigaeth yn ganghen o'r ar- faeth hono. Wjrth glywed fod Mr. D. Rowlands David Morris, »c ereill yn pregethu, tu- eddwyd ei feddwl i fyned i'w gwrando. Ac efe a gafodd flas neiliduol ar bregethu Crist wedi ei groeshoeiio dros bechadur.