Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DRYSORFA. Rhif. XXIX.] MAI, 1833. [Llyfr iii. BYWGRAFFIAD. Y PARCHEDIG JOHN FLAYEL. (Parhad tu dal. 99.) Er fod gweithrediadau y llywodraeth >n hynod o lym yn erbyn cyfarfodydd cre- fyddol, etto yr oedd modd i'w gochelyd hwynt. Fe barliaodd Mr. Flavel i bre- gethu ddwywaith ar y Sabboth, i'r rhai ag oedd yn ddigon calonog i feiddio dy- fod i wrando arno. Daeth llawer o'i hen gyfeillion o Dartmouth i'w wrando. Ar achlysuron efe a anturiodd fyned i Dartmouth, a thrwy ei weinidogaeth neill- duol, a'i ymddyddanion cyfeillachol, efe a fu yn ofl'erynol i fod yn g>sur ac adeilad- aeth mîiwr iddo ei hun ac i'w gyfeillion; ac fel hyn y bu yn foddion i gadw ei braidd rhag y cyfryw ddrygau ag sy'n arferol o ddygwydd i'r ejfr>w wedi eu hymddifadu o'u bugail. Yn yr amserau blinion hyn, pau oedd yr angen am weinidogion flÿddla*n mor deimladwy yn y wlad, y cyfryw a newyn- ent ac a sychedent am gyfiawnder, a'r rhai yr oedd cariad at Grist ac at eneid- iau dynion wedi ei dywallt i'w caionau, a deithient ac a lafurient, ac a auturient gyda gwaith eu Duw i wyneb llawer iawn o beryglon, blinderau, a phrofedigaethau. Arferid pob moddion a allai cywreindeb dihoced eu dyfeisio, i'r dyben o ochelyd cospedigaethau y cyfreithiau newyddion crybwylledig, a llid eu gelynion erlidgar. Fel yr oedd Mr. Flavel yn Exeter, fe'i gwahoddwyd ef gan rai o drigolion y ddinas hono i bregethu iddynt mewn llwyn coed ofewn tair uiilldir i'r ddinas. Dewiswjd y Ue hwn am ei fod mor ddir- gel. Ni chafodd y pregetliwr ond braidd dechreu Uefaru nad dyma yr heìd-geid- waid (constables) ac ereill jn rhuthro i mewn i'w plith i'w cymmerjd hwynt i fynu i'w cospi. Trwy diriondeb a gofal ei gyfeillio'n diangodd Mr. Flayel, fodd bynag, rhag cael ei gospi y tro hwn. Ond fe gymmerwyd amryw o'r gwrandawyr i fynu, ac a'u djgwyd ger bron Ynad hedd- wch, Mr. Tuckfield, ac a'u dirwywyd yn ol y g> fraith. Er hyn ni ddigalonasant, ond hwy a gyfarfyddasant mewu llwyn coed arall, a chafodd Mr. Flavel lonydd y tro hwn, canys bu y cyfarfod yn hollol ddiarwybod i'r gelynion. Wedi yr odfa, darfu i wr bonheddig o'r gymmjdogaeth wahodd Mr. Flavel i gael ei swpper, a gwely noswaith, er ei fod yn hollwl ddi- eithr iddo o'r blaen, ac yno cafodd groes- aw mawr iawn. Dyoddel'odd amryw eu herlid a'u dir- wyo yn drwm, gan oddef eu hyspeilio o'r hyn oedd ganddynt yn llawen, ain eu bod jn gwybod fod iddynt etifeddiaeth weil yn y nefoedd. Un gwr, Barcer wrth ei gelfyddyd, yn byw yn Exeter, jr hwn oedd ganddo deulu lliosog, a ddirwywyd i ddeugain punt am fyned i wrando ar Mr. Flavel i'r coed, y trocyntaf. Gofyn- odd cyfaill iddo, pa fodd yr oedd yn ym. deimlo ar ol y golled hon; i'r hyn yr attebodd jn siriol iawn ei fod ef wedi dy- oddef hyny yn llawen er mwyn yr Ar- glwydd Iesu, a'i fod ef yn barod i roi oll a feddai, 'ie, a'i fywyd i lawr os bydd raid, er mwyn ei enw ef. Er fod Mr. Flavel yn awr wedi ei gaethiwo yn fawr oddiwrth ei lafur gwein- idogaethol, etto nid oedd efe segur, canys yr oedd yn parottoi i'r wasg y llyfr rha- gorol hwnw a elwir " Sant mewn Gwir- ionedd," (Saint lndeed,) yr hwn a gy- hoeddodd efe yn y flwyddyn 1667. Mae cyflwyniad y llyfr hwn wedi ei ddyddio yn Ley, yn Slapton, Hydref 1667. Mae y llyfr hwn yn deilwng iawn o gael ei ddarllen a'i astudio gan bawb na fyna»t