Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y 0RYSORFA. Rhif. xxviii.] EBRILL, 1833. [Llyfr iii. BYWGRAFFIAD. Y PARCHEDIG JOHN FLAVEL. (Parhad tu dal 67.) Y cyprtw oedd amgylchiadau yr amser- oedd terfysglyd hyny, fel na chafodd Mr. Flavellonyddwch yn hir i lafurio yn y rhan hono o winllan ei Arglwydd, (Dart- mouth) heb gyfarfod â phrofedigaeth lem a thrallod blin. Ar Awst 24, lfi62, pass- iwyd y Gyfraith o Unffurfiad yn Mrydain. Nid yw yn angenrheidiol yn yr hanesyn hwn grybwyll am greulondeb y gy" Ith hon, nac ychwaith yr amcan a'r bwriad cynnyrfiol o'i ffurfio hi. Digon ymafydd dywedyd fod Mr. Flavel, a'i gyd lafurwr Mr.Geere,ymhlith yr arderchog lu, y dwy fil o weinidogion enwog a duwiol, a drö- wyd allan o'r eglwys sefydledig am na chydymffurfient âg ammodau y gyfraith newydd hon. Ni allodd y gyfraith hon, fodd bynag, dorri yr undeb a'r cariad ag oedd rhwng Mr. Flavel a'i anwyl bobl yn Dartmouth, er iddi ei dorri ef allan o gael dim cynnal- iaeth oddiwrth yr eglwys sefydledig. Efe a alwyd gan Dduw i gymmeryd gofal y praidd hyn, drwy eu porthi hwynt a gwy- bodaeth ac a deall, am hyny, efe a bar- haodd i ddefnyddio pob cyflensdra a allai gael i bregethu y gair ac i weinyddu y sa- cramentau iddynt mewn cyfarfodydd dir- gel. Efe hefyd a ymunodd â phregeth- wyr ereill i gynnal dyddiau o ympryd a gweddi yn achos y genedl, ac yn achos mawr lygriad yr eglwys sefydledig. Yngylch pedwar mis ar ol bwrw Mr. Flavel allan o'r Eglwys Sefydledig, efe a gollodd ei anwyl gyfaill, a'i gyd-lafurwr ffyddlawn Mr. Geere, trwy farwolaeth, ac felly disgynodd holl ofal y praidd ar Mr. Flavel ei hunan. Yr oedd efe yn caru ei braidd, ac yn hynod o awyddus am eu gweled hwynt yn cynnyddu mewn gras. Oddeutu y pryd hyn y pregethodd efe y pregethau a gyhoeddwyd yn y flwyddyn 1671, dan yr enwad " Ffynhon y Bywyd," {'J'he Fountain of Life.) Mae y pregeth- au hyn yn parhau i fod yn drysor gw erth- fawr i eglwys Dduw hyd heddyw. Mae y datguddiad o Grist yn nghogoniant ei swyddau cyfryngol,—y ffyddloudeb, yr ys- pryd rhagorol, a'r taeiineb, drwy ba rai y mae efe yn gwasgu gwirioneddau dwy- fol at y galou a'r gydwybod—yughyd a'r perarogl o wir dduwioldeb, ag sydd yn yioddangos drwy yr holl waith, yu gwneud y pregeíhau hyn yn nodedig o werthfawr a buddiol. Bydd un dyfyniad byr, allan o'r bregeth gyntaf, yn ddigonol o brawf i ddangos pa mor werthfawr yn ei olwg ef oedd yr athrawiaeth am Grist a chy- flawnder y gras a'r iachawdwriaeth sydd ynddo; ac ar yr un pryd i egluro yr am- can daionus a sancíaidd oedd ganddo yn ei olwg wrth gyhoeddi yr Iachawdwr mawr i bechaduriaid. " Gwybodaeth am Grist yw cnewullyn a mer yr Ysgrythyrau, nôd a chanolbwynt y datguddiad Dwyfol: mae y ddau,Des- tament yn cyd-gyfarfud yn Nghrist. Mae y ddeddf seremoniol yn llaẃu o Grist, ac mae yr holl efengyl yn llawn o Grist: mae llinellau bendigedig y ddau Desta- mcnt yn cyfarfod ynddo ef. Prif fatter yr ardderchog Epistol at yr Hebreaid yw dangos y modd y mae y ddau Destament yn hyfryd gyd gyfarfod yn NghrisL Gellir galw yr Epistol hwnyn Gyssondeb y ddau Destament, sef yr Hen a'r Newydd. Mae hyn yn brawf o ardderchogrwydd annhrae- thol yr athrawiaeth hon, gwybodaeth o ba un sy raid fod yn allwedd i agoryd y rhan fwyaf o'r Ysgrythur Lân. Mae gwir wybodaeth o Grist lesuyn arwain dyn yn y goleu trwy holl ranau dyrys yr Ysgryth-