Skip to main content

Y DEYSOEPA. Rhif. 588.] HYDREF, 1879. [Llyfe XLIX. ADFYWIAD CREFYDDOL Y FLWYDDYN 1859. GAN Y PARCH. ROBERT ELLIS, YSGOLDY, ARFON. (Parhâd o tu dal. 285.) Ymdaenodd y newydd am y deffroad rhyfeddol yn Sir Abeiteifi trwy yr holl wlad. Ac yr oedd y son am y di- wygiad yno yn ennyn awydd angerddol ýmhob man am gael peth cyíîelyb. Yr oedd y genedl, yn fyd ac eglwys, yn addfed iddo, wedi blino bellach ar hir dawelwch a gwersyllu yn yr unfan. Teimlai llawer yn yr eglwys, ac allan o honi, awydd cryf am ryw ddeffroad i'w cychwyn a'u symud oddiwrth fod fel yr oeddynt. A diau genym fod yr eglwys, a'r byd hefyd i ryw fesur, yn teimlo yn gyff'elyb yn yr adeg bresennol hon arnom. Gwyddom fod lliaws mawr wedi llwyr flino ar y tawelwch trym- aidd sydd er ys hir amser bellach wedi ymdaenu drosom fel cenedl. Ac mae y blìno hwn, drachefn, yn arwydd er daioni. Ffaith hynod am j diwygiad dan sylw, fel yn wir am eraill o'i flaen, oedd ei wedd ymdaenol; neu, pa air a ddy- wedwn î Dechreuodd fel y gwelsom yn Yspyttŷ Ystwyth, ac ymda'enodd yn gýnym o ardal i ardal gan gymeryd y wlad megys o'i chwr. Tybygem fod hyn, fel llawer o bethau eraill yn ngorchwyl- iaeth gras Duw, y tu hwnt i ni allu rhoddi cýfrif am dano. Gan fod y wlad mör addfed iddo, wele efe yn prysurò dros y Dyri—drwy yr Abermaw —y Traethau, a bylchau yr Eryri, tua'r Gogledd. Nid oes nac afon na myn- yda yn arafu dim arno. Ac am a wyddom na bu yn gyffelyb trwy holl Siroedd y Dehe.uair, Hwaw ya ddiau oedd y diwygiad mwyaf cyffredinol a fü erioed yn Nghymru. Yr oedd pawb— pob enwad íel eu gilydd, a'r eglwysi gwladol fel eraill, ag oedd yn ei geisio, yn ei gael. " Nid yw Duw dderbyn- iwr wyneb," er mor gasbeth yw hyny i'r teimlad enwadol. Dyweder a fyner am y diwygiad hwn, ni a gredwn mai y flwyddyn 1859 a fu yr un fwyaf hynod yn hanes grefyddol Cymru o'r un flwyddyn yn y ganrif hon o leiaf. Clywem gyda hyfrydwch fod y cyffro diwygiadol wedi ymdaenu dros Feir- ionydd, a chyn hir ei fod wedi tori allan yn nghyrau deheuol Sir Gaer- narfon; ac yn ebrwydd dechreuodd gy- nhyrfu yn ardaloedd poblogaidd ein chwarelau yn Arfon. A mawr oedd ein llawenydd. Cofiwn yn dda y nos Sabboth y torodd allan yn hen gapel yr Ysgoldŷ, yn niwedd cymundeb wrth ganu y pennül, "Pale Y gwnaf fy noddfa dan y nef, Ond yn ei glwyfau anwyl ef!" Yr oedd cysgu y nos Sabboth hwnw i lawer allan o gwestiwn. A chredwn fod llawer eto yn barod iawn i golli noswaith a dwy o'u cysgu, pe caent eu hattal gan gyffro cyffelyb i'r cyffro ben- digedig hwnw. Nodwedd neillduol y diwygiad hwn o'i ddechreuad ydoedd, cyffrous. Dyn- ion wedi eu deflÉrjo gan gyffyrddiad y " peth byw" a îa. yn foddion effeithiol i ddeffroi erailL Mae yn deilwng q H *