Skip to main content

Y DRYSORFA. Ehif. CXX.J BHAGFYE, 1856. [Lltfr X. ŵarttrnìtau ii #njf£liiiirfiîati. DYCHWELIAD Yít IUDDEWON. C'RYNODEB O SyLWADATT A DRADDODWYD YN NGHAPEL ROSE PLACE, LlVERPOOL, nos Fawrth, Mehefin 11, 1850, GAN Y DIWEDDAR BARCH. MORGAN HOWELLS. Herreaid viii. 11: " Ac ni ddysgant bob un ei gjmyàog, a phob un ei frawd, gan ddywedyd, Adnebydd yr Arglwydd ; oblegid hwynt-hwy oll a'm hadnabyddant i, o'r lleiaf o honynt hyd y mwyaf o honynt." [Y nodiadau canlynol a ysgrifenwyd wrth wrandaw y pregethwr hynod yn eu tra- ddodi. Diehon na bydd holl ddarllenwyr y Drysorfa yn gwbl o'r un olygiadau â Mr. Howells am y pethau a drinir yma gan- ddo; ond hawdd yr adnabyddir ynddynt ei ysbryd gwresog, ei leferydd gonest, a'i ddull arbenig ef. Y mae gan yr ysgrifen- ydd gofnodau lled helaeth o amryw breg- ethau eraill a draddodwyd gan Mr. How- ells, y rhai y bwriada eu hanfon i'r DRY- sorfa.—E. E., Lẁerpool.] '*. Yr wyf yn credu y dychwelir yr Iudd- ewon i Ganaan. Nid yw dystawrwydd y Testament Newydd ar y pwnc yn ddigon i brofi na wneir, o herwydd nid rhoddi hysbysrwydd am bynciau fel yna oedd ei amcan; ond y pwnc mwy- af ynddo ynghylch yr Iuddewon yw eu dychweliad at Grist. Mae rhywbeth yn y testun yn dangos y bydd dychwel- iad yr hen genedl yn beth anghyffredin. Cenedl y gwyrthiau oeddynt; ond y wyrth fwyaf o gwbl fydd eu dychwel- 5ad at Grist. Fe fydd y wyrth fwyaf oll yn dwyn perthynas â chenedl y gwyrthiau mawr. Llwybr anghyffredm a arferir er dychweliad yr hen genedl —maent i gael eu geni mewn un dydd. Fe ddaw cynauaf mawr yr Iuddewon i mewn cyn y gelwir y Cenedloedd at Grist. "Efe a orphen, ac a gwtoga ei waith mewn cyfiawnder, oblegid byr waith a wna efe ar y ddaear." Dywed rhai mai at farnau Duw y cyfeirir yn y geiriau yna; gadewch i hyny fod, fe fydd yn fyr waith—ond fe gyflawnir hefyd waith mawr, bendithiol, mewn amser byr iawn. Mae geiriau mawr, cryfion, yr Apostol Paul yn yr lleg o'r Rhufeiniaid, yn dangos yr un peth. Os oedd peth mor annhebyg a'u tori ymaith yn olud i'r byd, pa beth fydd eu hadferiad ? Yr oedd eu tori ymaith yn olud i'r byd, er ei fod yn beth pur annhebyg i fod felly. Rhaid gan hyny y bydd eu hadferiad yn olud i'r Cenedloedd. Yr oedd Paul megys pe buasai yn methu cael geiriau i osod allan y peth, ac fe ddefnyddiodd y geiriau cryfaf mewn iaith. "Bywyd o feirw"—îe "adgyf- odiad" ei hunan fydd eu dychweliad. Fe allai nad y gallu mawr aamlygir yn adgyfodiad y meirw yn unig yw yr idea; ond mae yr Apostol hefyd am ddangos y bydd yn beth disymwth— yn beth sudden. Bydd fel di-huniad o gwsg. Nid nyni y Cenedloedd fydd yn dihuno yr Iuddewon; ond yr Iuddew- on yn ein di-huno ni. Bhyw dro byr fydd—anghyffredinol—heb nemawr o ddysgwyl am dano. Gadewch i ni wneyd ein goreu gyda'r Missionary So- cieties yma, ac fe ddaw'r Nefoedd yn y man i achub y gweddill trwy rywbeth anghyffredin, fel pe bae yn myned i