Skip to main content

Y DRYSORFA. Rmr. CXVIII.] HYDREF, 1856. [Llyfr X. aípgwfflŵ. MR. DAYID JONES, MYNYDD Y FFLINT. TuaG at ysgrifenu ychydig o hanes yr hen frawd a thâd, David Jones, mae yn anghenrheidiol i ni ddechre yn nghanol y ganrif ddiweddaf, pryd yr oedd ty- ■wyllwch dudew yn gordöi ein gwlad mewn ystyr foesol—ein cenedl yn cysgu yn drwm mewn anwybodaeth dygn— ac ambell un yma ac acw yn gwasan- aethu yr Arglwydd yn nghanol prinder dirfawr o foddion. " Gair yr Arglwydd oedd werthfawr yn y dyddiau hyny; nid oedd gweledigaeth eglur." Ond yr ychydig a welwyd felly, troisant allan yn gewri mewn gwirionedd; trwy Dduw gwnaethant bethau mawrion, ag sydd yn rhyfedd yn ein golwg ni. Ymddir- iedwyd rhyw blanigyn tyner o barad- wys iddynt, yr hwn oedd i dyfu yn bren mawr, a'i ddalen i iachâu y genedl. Cafodd ddýfnder daear yn Llangeitho; daeth myrdd gyda chymysg ddagrau edifeirwch a gorfoledd i'w ddyfrhâu; rhoddodd Duw y cynnydd; blagurodd a lledodd ei gangenau i bob cyfeiriad, ac yn ebrwydd yr oeddynt yn cysgodi yr holl wlad. Nid manylder mewn ffurfiau, a dilyn- iad trefniadau rheolaidd, oedd nerth llwyddiant yr hen Fethodistiaid cynt- af; ond ymroddiad cydwybodol a phen- derfynol i'r amcan yn ol yr amgylchiad- au. Daeth gwrthddrych ein hysgrif yn aelod o'r Gymdeithas FisoL nid trwy <ldewisiad rheolaidd un eglwys, ond trwy ymgymeriad â hyny, o anghen- rheidrwydd, cyn gwneuthur rheol na ihrem benodol yn y Cyfondeb i ddewis swyddogion. MeddyÜem fod cysylltiad D. Jones â dechreuad achos y Method- istiaid mewn gwahanol fanau, ynghyd- a'i lafur a'i lwyddiant tuag at hyrwyddo hyny, yn ei godi o'r dinodedd hwnw ag y byddai erthygl fechan arno yn ddi- bwrpas ac annheilwng yn y Drysorfa. Er rhoddi rhyw fyr-hanes am dano, dechreuwn ychydig gyda'i dâd; ei enw yntau osdd David Jones. Yr oedd efe yn mora ei fywyd yn ddyn ieuanc gwyllt ac anystyriol, yn dilyn y lliaws yn mhechodau yr oes. Cyn priodi yr oedd yn gweithio mewn amaethdŷ a elwir Plas yn llan, Llangynhafal, Dy- ffryn Clwyd. Yn y cyfamser, pender- fynodd ef, ynghyda llîaws o ieuenctyd y plwyf, ymgyfarfod ryw brydnawn Sabbath yn yr Eglwys, er mwyn iddynt gael cydgychwyn i wylmabsant Tafarn y rhos, Llanychan. Ac felly y bu; ond o hyn daeth i D. Jones ddaioni. Yn nghwrs y gwasanaeth, adroddai yr off- eiriad yr adnod hon,—" Gwir yw y gair, ac yn haeddu pob derbyniaä, ddyfod Crist Iesu i'r byd i gadw pechaduriaid, o ba rai y penaf ydwyf fi." Gwnaeth y geiriau yna eu cartref yn ei galon; taen- asant ryw brudd-der dros ei ysbryd, gan grëu teimladau difrifddwys a dychryn- edig oddifewn iddo. Ond er y cyfan, i ganlyn ei gyfeillion i'r wylmabsant yr aeth; ond yr oedd y digrifwch a'r pleser a arferai fwynhâu yno wedi ymadael yn llwyr. Yr oedd pob peth a welai yn pregethu iddo ei ddamnedigaeth. Nia arhôdd yno yn hir, ond aeth tua char- tref yn drist a chythryblus iawn. Yn union wedi hyn, daeth un o bregethwyr y Methodistiaid i bregethu i amaethdý cyfagos, a elwir Bryn bedw. Pender- fynodd fyned yno i'w wrando; ac yno cymhwyswyd y balm o Gilëad at ei £ e