Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DEYSORFA. ehif. cxvn.] MEDI, 1856. [Llyfr X. %Hm$tŵû. Y PARCH, GRIFFITH DAYIES, NEBO, SIR FON. Adstabyddid gwrthddrych hyn o gof- iant yn fwyaf cyffredinol wrth yr enw Gryffydd Dafydd. Yr oedd efe o ran ei berson yn ŵr corffol, o daldra can- olig, ond yn fwy gwrol na'r cyffredin, a phan yn ieuanc yn ddyn o ymddangos- iad prydferth ac o ysgogiad cyflym, eithr nid felly yn gymaint ar ol iddo heneiddio. Ganwyd ef ryw bryd yn y flwyddyn Ì777, mewn annedd fechan ar dir Gwr- edog-isaf, gerllaw Llanerchymedd, lle y bu ei rieni yn hir yn trigfanu, y rhai, er mewn amgylchiadau isel, a ennillasant iddynt eu hunain gymeriad gonest. Bu ei dad yn hir yn ngwasanaeth un Mr. T. Parry, a'i olynwr Mr. R. Lewis, tenantiaid yn y tyddyn uchod. Ac er y gwyddai y teulu hyny yn dda am ädechreuad isel ac anfanteision boreu- ol Grifíith Davies, eto pan y cyr- haeddodd alwad i weinidogaeth yr efengyl, ni chymerasant arnynt wybod hyny, ond parchasant ef fel gŵr Duw, a threuliodâ ei oes yn un o'u cyfeillion penaf. Nid felly yr ymddygodd llawer o deuluoedd eraill, y rhai na wyddent pa fodd i anrhydeddu eu hunain ond trwy ddarostwng eraill. Yn y Gwredog hyny y cafodd Griffith Davies ei damaid bara yn moreu ei oes, mewn sefyllfa cyôèlyb ag y bu- asai Moses a Dafyda ynddynt gynt, hyd pan yn bymtheg oed, pryd y pren- tisiwyd ef yn wehydd gydag Edward Hughes, yr hwn oedd ŵr crefyddol a chywir, ac ar y pryd hwnw yn byw yn Jjlanerchymedd, ond a ddiweddodd ei «es yn Rhosybol. Dysgasai G. Davies ddarllen trwy lafur ei frawd oedd hŷn nag ef, er nad oedd yn library ei dad na Bibl na Thestament, namyn llyfryn bychan a elwid Primer. Gall Duw godi pregeth- wr o'r lle y myno. Gwedi hyny cafodd lawer o hyfforddiant er ei hyrwyddo yn yr iaith Gymraeg, gan un Morris Griffith, Saddler, yn Llanerchymedd; a dyna yr addysg golegol a gafocld ein brawd yn moreu ei oes. Ryw bryd yn y tymmor a dreuliodd ef yn nheulu Edward Hughes, torodd* i'w feddwl oleuni cryf ar bwysfawrog- rwydd ei fater fel pechadur yn erbyn Duw, ac ja hyn cyfododd gwawr ar fro cysgod angeu, ac mewn enaid oedd o'r blaen mor dywyll â'r fagddu. Nis gwyddom pa gymaint o gymwynasau a wnaeth rhagluniaeth Duw i'w ras a'i drugaredd, o leiaf i'w gwrthddrychau, na pha mor fendithiol i Griffith Davies a fu cael ei gyflè'u yn nheulu Edward Hughes, y r hwn oedd yn ŵr sanctaidd, ac yn ofni Duw yn fwy na llawer. Bu G. Davies ar yr adeg hon tan ddychrynf äau mawrion am fisoedd lawer, ac ar y pryd hyny yr oedd adfy wiad crefyddol grym- us iawn yn yr Ynys, yn enwedig ymhlith yr ieuenctid, ac ymunodd yntau â'r eglwys, a thorai allan gydag eraill mewn llefau brawychus weithiau, a gorfoleddus iawn ar brydiau eraill. Ond yn raddol oerodd hyny, ac o'r diwedd llwyr giliodd y gweithrediadau hyny oddiar ei feddwl, ac ymollyngodd yntau i fwy o annuwioldeb na chynt, nes braidd wedi diddarbodi, yr ymrodd- odd i bob oferedd nad yw o un defhydd ei ddesgrifiò, 'ie cyfrifid ef yn orchestwr yn ngwasanaeth Satan. B b