Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DRYSORFA. Rhip. CXV.] GORPHENAF, 1856. [Lltfr X. ŵarfljaktt ii ẅjîràiarfjîait. EIN BARA BEÜNYDDIOL. Prcgeth. ar Matthew vi. 11: " Dyro 1 ni heddyw ein bara beunyddiol." GAN Y PARCH. JOHN" FOULKES, LIYERPOOL. (Parhâd o U dalen 189 J II. Sylwn eto ar gynnwís yr arch hon : " Dyro i ni heddyw ein bara beu- nyddiol." Dichon y cawn fod ynddi gynnwys ëangach nag y meddyliasom. 1. Mae yn cynnwys galwedigaeth i gael bara, a hòno yn un y gellir dys- gwyl boddlonrwydd Dwyfol arni. Y dyn sydd yn byw ar ffrwyth gorchwyl anghyfiawn, twyll yw ei lwybr; a'r dyn sydd heb orchwyl yn ei law, y mae yntau yn byw trwy ryw fath o anonest- rwydd. Mor ëang yw ffrwyth celfydd- yd a llafur. Ein tai, ein dodrefn, ein ílillad, ein bwyd, ein llyfrau, llongau y môr, peiriannau gwerthfawr, yr aradr, yr ôg, y chwynog, y ciyman, y ffust, y felin, y ffwrn, a'r ellyn, &c, ydynt oll yn ffrwyth celfyddyd. Y mae doeth- ineb Duw yn amlwg yn hyn oll. Ni thalasai y byd yn unffurf. Nid un alwedigaeth a fuasai ddigonol. Dar- parodd lîaws er difyrwch yn gystal ag er gwasanaethgarwch. Efe sydd i du- eddu meddwl dyn at orchwyl, i'w ddonio ynddo, ac i'w lwyddo; megys y doniodd Noah i wneyd llong,—Moses at holl amrywiaeth y babell, ei dodrefn, a'i gwasanaeth,—eraill at y deml. Aco oes i oes y mae yn donio rhy wrai at ryw bethau newyddion; fel, erbyn hyn, ped ymwelai yr hynafiaid â'r byd, y medd- ylient eu bod mewn byd newydd. Gallem feddwl braidd fod ambell un mewn galwedigaeth heb ei helfenau. j?a fodd bynag, dylai hyn fod ar ein meddyliau, yn enwedig wrth ddwyn ein plant i fyny. Y mae y doniau hyn o Dduw er trefnu y byd, a'i brysuro i fod yn eiddo ei Fab. Onid rhywbeth felly sydd yn y geiriau hyny ?—" Yn lle pres y dygaf arian, yn lle arian aur, yn lle ceryg haiarn, &c.; harddaf hefyd le fy nhraed. Y ffinydwydd, ffawydd, a'r pren bocs ynghyd." Esaiah lx. 13—17. Mae defnyddioldeb dyn yn ei dymmor yn dibynu i fesur mawr ar hyn. A chawn ambell un wedi gwasanaethu y byd i oesoedd dyfodol trwy hyn. O leiaf y mae hyn yn ddigon teilwng o le rnewn gweddi. 2. Dyro drigfan i gael bara: man i drigo, cartref, líe cymhwys i'r alwedig- aeth a'r amgylchiadau. " Nid oes bosibl y dylwn ofyn hyny gan Dduw ?" Dylit. Efe a benododä yr amseroedd a ther- fynau eu preswylfod. Act. xvii. 26, 27. Eiddo ef y ddaear. Ganddo ef y mae yr hawl i'w dosbarthu rhwng ei grëad- uriaid, ac i ddarpar dynion i'w manau. Mae darpar man i ddyn, a dyn i'w fan, yn beth oddiwrtho ef. Y mae dangos man, tueddu meddwl, agor y drws,dwyn yno, a llwyddo ynddo, yn beth y dylai dynion ymgydnabyddu â Duw yn ei gylch. Cawnfodgwledyddëangffrwyth- lawn, cyfoethog, yn anghyfannedd am oesoedd, a gwledydd eraill yn orboblog- aidd, ac ymfudiad yn codi fel Uanw môr. Dylem yn y cyfan gydnabod Duw. Y mae yn bosibl er hyný i ddyn gam-