Skip to main content

Y DEYSORFA. Eh:f. CXIV.] MEHEFIN, 1856. [LliYER X. ŵnrf|nta íí ẅjjáiartjîflir. EIN BARA BEUNYDDIOL. Pregoth ar Slatthew vi. 11: " Dyro i ni heddyw eiu bará beuuyddiol. j GAN Y PARCH. JOHN FOULKES, LIYERPOOL. GelwíR y pennodau hyn yn bregeth Crist ar y rnynydd. Galleni edrych ar y bregeth hon fel rhagyniadrodd Mab Duw i'r oruchwyliaeth newydd fawr yr <oedd ef ar sefydlu yn y byd. Mae yn gosod crefydd allan yn ei hegwyddor- ion, ei hysbryd, a'i hymarferiadau, yn wahanol i'r dyb oedd yn y wlad am gref- ydd drwy addysg y Phariseaid. Amcan yr Iesu ydoedd gosod goruchwyliaeth ei deyrnas yn amlwg o flaen y byd ; ac y mae y bregeth yn gwasanaethu i'r pwrpas hwnw byth, ac a fydd felly hyd ddiwedd y byd. Mae yn ei gosod allan mewn gwedd a dueddai yn uniongyrch- ol i ddadymchwel Pharisëaeth yr oes, fel y gwelir yn eglur yn y gwynfydau a gyhoeddodd yn ei dechreu, ac yn yr esboniad teilwng iddo ei hun a roddodd ar y gyfraith, yr hyn na ddysgasid i ddynion o'r blaen. Yn y bennod hon, cawn ef yn cyfeirio ei sylwadau yn erbyn rhagrith a chy- bydd-dod; ac oddiar hyuy, yn rhoddi cyforwyddiadau anft'aeledig rhag rhag- ofalon anghymedi'ol ac anghrediniol, y rhai yr ydym mor dueddol iddynt. Yn ei gyfarwyddiadau i ochelyd rhagrith, cawn ef yn ei ddwyn dan sylw yn ei gysylltiad â thair dyledswydd ymarfer- ol mewn crefydd, y rhai y dangosai ac yr ymarferai y Phariseaid ragrith dir- fawr a thrwyadl ynddynt, sef elusen, gweddi, ac ympryd. Eu hamcan hwy oedd ymddangos i ddynion, a chael eu canmawl ganddynt. Peth y mae dyn foalch, hunanol, a rhagrithiol, yn wastad a'i ymestyniad am dauo yw Iryny, yn arw3Tdd ei fod heb y purdeb a'r symledd priodol rhwng ei enaid â Duw, ac heb y gofal sanctaidd am ei ogoniant. Yn y cyfarwyddyd ynghylch gweddi, cawn ddau ocheliad. Yn 1. I ochel rhagrith y Phariseaid. " Canys hwy a garant wreddi'o yn sefyll y n y synagogau, ac yn nghonglau yr heol- 3Tdd, fel yr ymddangosont i ddynion." Nid yn y lle na'r ystum yr oedd y bai, ond yn y dyben. Nid oedd dim rhyng- ddynt a Duw, ond y cyfan rhyngddynt â dynion. Och ! o'r gwedd'io hwn! y cyfan rhwng y dyn â dynion, a dim rhyng- ddo â Duw! "Ond tydi pan wedd'iech, dos i'th ystafell." Nid oes dim manyl- ion am dani ar lawr—dim ond ystafeü: " Ac wedi cau dy ddrws ;" ei gau yn dỳn, clòs, a tharo clicied arno ; ei gau i gael llonyddwch. " Gweddia ar dy Dad yr hwn sydd yn y dirgel; a'th Dad yr hwn a wêl yn y dirgel, a dâl i ti yn yr amlwg." Y mae dy Dad yn y dirgel; gwcl yno, a thâl yn yr amlwg. Un o'r profion goreu o ddidwylledd mewn ci-efydd, ac o ansawdd grefyddol ysbryd dyn ydyw, ei hoffder o weddi ddirgel. Dywedai hen gristion Bryn- yr-odyn gynt wrth Dduw, " Pan na do neb ond ti a minnau y bydd yn brâf." 2. Gochel ofer siai'ad y cenedloedd. Yn Hosea xiv. 2, annogir ni i gymeryd geiriau, ac yma rhybuddir ni i ochel bod yn siaradus. Arwydda " cymeryd