Skip to main content

Y DRYSORFA. Rhif. CXIII.] MAI, 1856. [Lltfr X. ẅ*t|ínta ii ŵjiáiaẅii. YR HANES AM IESU GRIST. Cyfieithiad o Anerchiad Rhagarweiniol a draddodwyd i Ddosbarth Athrawon Ysgol Sabbothol Capel y Weigh-house, Llundain, GAN Y PARCH. THOMAS BINNEY. Un diwrnod yr oedd holl ddodrefn a da gwraig weddw yn myned i gael eu gwerthu mewn arwerthfa gyhoeddus, pryd nad oedd un gobaith o'i blaen ond cartref yn y worhhouse, a bedd un ar y plwyf. Pan yr oedd hi yn gwneuth- ur pethau yn barod i'r arwerthydd, hi a darawodd ar hen gyfrol oedd wedi ei gorchuddio gan lwch, ac a ddaethai iddi oddiwrth un o'i pherthynasau; ac wedi agor y dalenau, canfu ddernyn o bapyr sidanaidd gyda phictiwr argrafíèdig arno. Erbyn edrych, beth oedd hwnw ond nodyn ariandŷ am gan' punt—yr nyn oedd fwy na. digon i'w gwaredu rhag yr orfodaeth o ymadael â'i hen gartref. Am ugain o flynyddau meith- ion, buasai y trysor gwerthfawr hwn yn gorwedd yn y llyfr, yn ddiwerth, anhysbys, a chuddiedig. Y wraig wylofus, fel y mae yn dda genyf allu dywedyd, a fedodd yr holl fantais a allasai ddyfod iddi oddiwrth y fath ddarganfyddiad prydlawn. Chwi a ddeallwch yn hawdd pa ddefnydd y dymunwn eì wneuthur oddiwrth y cnwedl ddiaddurn hon. Y mae y Testament Newydd, meddaf, yn cynnwys trysor annhraethol werth- fawrocach, ond trysor sydd yn hollol ddiles i'r rhan fwyaf o bobl, a hyny am yr unig reswm o'u bod yn gad- ael 1 lwch orphwys ar ei ddalenau, heb iddynt sylwi arno na'i agor. Yn awr, yn ol eich cais, yr wyf wedi cyd- synio, fel eich gweiniäog, 1 eistedd yn y gader hon, ac i roddi i chwi o bryd i bryd bob cymhorth ag a allaf, i gael allan y gwerth a'r cyfoeth a ddichon fod yn guddiedig oddiwiẅ y U'iaws yn adroddiad y Testament Newydd am ein Harglwydd a'n Hiachawdwr Iesu Grist. Y gorchwyl hyfryd a gymerasom i ni ein hunain yw, chwilio i mewn i hanes a nodweddiad yr Hwn y mae ei fywyd wedi dylanwadu ar gymdeithas am oes- oedd, a chenadaeth yr hwn sydd, ymhob ystyr i'r geiriau, yn iachawdwriaeth i ddynolryw. Mae arnaf eisieu parotöi eich medd- yliau, os gallaf, at egni mawr mewn ffordd o ddarganfod yr oll a ddadguddir i ni am Iesu Grist gan Matthew y publican, gan mai yr hanes ysbrydol- edig ganddo ef sydd yn dal y lle cyntaf yn y Testament Newydd. Dymunwn wneuthur hyn tuag at ein dwyn i eti- feddu ysbryd yr Iesu, ac i dderbyn pob mantais sydd yn dyfod o'i farwolaeth. Pa un, gan hyny, yw y dull goreu i barotöi y ffordd ? Y ffordd oreu, dy- bygwn i, fyddai cymeryd^ adolygiad brysiog ar y dygwyddiadau a'r amgylch- iadau sydd gyda eu gilydd yn argraffu yn fywiog ar y meddwl y grediniaeth nad yw yr hanes sydd ger ein bron ddim llai na dadguddiaa o Athraw Dwyfol, yr hwn nas gall un dyn edrych arno heb ryfeddu, ua'i ystyried heb addoli. Gallaf ddechreu trwy ddywedyd fod y Bod rhyfedd yr ydym yn ei alw Y