Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DEYSORFA. Ehif. CXII.] EBEILL, 1856. [Llyfr X. €rnri|iQÌraîi n ênỳẁẁfyw. LLYTHYE AE ATHEAWIAETH PENAEGLWYDDIAETH AC ETHOLEDIGAETH. Gan y diweddar Barch. JOHN ROBERTS, Llanbrynmatr. [Y llytliyr canlynol a gafwyd yn Saesoneg yn y Free Church Magazine, ac a gyfìeith- ẃyd i'r Gymraeg gan fab nai i'r awdwr hybarch. Nis gwyddom a gyhoeddwj'd ef gan Mr. Roberts ei hun yn y Gymraeg ; ond clywsom iddo gyhoeddi Anerchiad Seisonig ar Arminiaeth a Chalfiniaeth er ys dros ddeugain mlynedd yn ol; ac mae yn debyg mai hwnw a ad-gyhoeddwyd yn nghylchgrawn Eglwys Rydd Scotland. Canfyddir fod ysbi-yd yr ysgrifenydd yn rhagoroL ei osodiadau yn gryfion, a'i res- ymau yn ysgrythyrol; a bod y traethawd ymhob modd yn werth ei gyhoeddi a'i ddarllen.] Irodyr Cristionogol :—Y mae llawer o liouoch wedi sylwi y dywedir yn fyn- ych gau y rhai hyuy a elwir yn gyffredin yn Arruiniaid, " eu bod hwy yn preg- ethu rhad ras i bawb, ond nad yw y Calfiniaid yn pregethu rhad ras oud i ychydig." Y mae yn eglur eu bod yn ewyllysio i'w gwrandawyr gredu fod athrawiaeth yr Arminiaid yn dal allan obaith mwy am iachawdwriaeth i bech- duriaid yn gyffrediu, nag athrawiaeth y Calfiniaid. Dymuuwn i chwi ystyr- ied yn ddiduedd ai nid y w hyn yn gam- ddarluniad. Cymeraf fy rhyddid i apelio at y cyfryw a gawsant gyfle fyn- ychaf i wrando pregethiad Calfiniaid, a ydyw eu hathrawiaeth yn gyffredin yn tueddu yn y radd leiaf i wangaloni pechaduriaid edifeiriol, wedi eu hargy- hoeddi o'u sefyllfa golledig ac adfeil- iedig, i ddyfod at Iesu Grist am fywyd ac iachawdwriaeth ? Onid ydynt yn y modd taeraf a serchocaf yn gwahodä pechaduriaid o bob math i ddyfod ì Onid ydynt yn eu hannog, yn rhesymu ac yn ymddadleu â hwynt, ac felly yn ymdrechu eu cymhell i ddyfod ? Oni ddangosant yn ol y Gair nad yw Duw yn gwrthod neb sydd yn foddlawn i dderbyn yr iachawdwriaeth sydd yn Nghrist Iesu ì Pregethant yr efengyl i ddynion yn gyffredinol, nid fel ethol- edigion, ond fel pechaduriaid euog ac andwyol; ac erfyniant dros Grist ar eu cymmodi â Duw. Gan hyny, y mae athrawiaeth y Calfiniaid yn dal allan y gobaith mwyaf boddhäol am iachawd- wriaeth i bawb a ymfoddlonant i'w derbyn yn nhrefn Duw. Pa fodd, ynte, y cynnygia athrawiaeth yr Arminiaid obaith mwy ? A ydyw yn dal allan obaith i'r cyfryw a barhânt yn anedi- feiriol ac anewyllysgar i dderbyn yr iachawdwriaeth ogoneddus sydd yn Iesu Grist ì Nac ydyw yn ddiau. Yna, gofynaf eto, Pa fodd y mae y gyfun- draeth Arminaidd yn cynnyg gobaith mwy am iachawdwriaeth i bechadur- iaid yn gyffredinol na'r eiddo y Calfin- iaid ? Ond dymunaf arnoch ystyried ai nid yw athrawiaeth y Calfiniaid yn dal allan obaith mwy am iachawdwriaeth i bech- aduriaid yn gyffredinol na'r athrawiaeth wrthwynebol ? Ymddibyna yr holl obaith a rydd yr athrawiaeth hòno ar allu tybiedig y pechadur i ddyfod at Grist; o herwydd nid addefant fod Duw yn cyfranu gras gwahaniaethol i neb mwy na'u gilydd. Ped addefent hyn,