Skip to main content

Y DRYSOEFA. Ehif. CXI.] MAWRTH, 1856. [Lltfr X. €rnrfjmku n ŵjiáitójjitîL GWERTH YR ENAID. "Ncu pa beth a rydd dyn yn gyfnewid am ei enaid1?" Marsiandwr mawr yw dyn. Y mae efe yn gyson ar yr exchange. Fel crë- adur daearol, moesol, a chymdeithasol, y mae ganddo ef bob amser ryw nwydd- au wrth fwrdd y cyfnewid. Mae y gwas yn cyfnewid â'i feistr ei wasanaeth am ei gyflog ; a'r dysgybl â'i athraw, yn rhoddi ei arian am ei ddysg. Mae cyf- eillion yn newid eu syniadau a'u serch- iadau â'u gilydd. Mae marchnadwyr yn brysur yn prynu neu werthu defn- yddiau y gwahanol wledydd, a thrwy hyny yn casglu cyfoeth lawer i'w tai. Mae gelynion yn rhyfela â'u holl nerth, ac yn cyfnewid pelenau tân a marwol- aeth, &c. Eto pawb wrth gyfnewid ydynt yn amcanu gwella eu sefyllfa, a chyrhaedd rhyw ddedwyddwch. Am hyny y mae yr holl gyfnewidwyr hyn yn gosod pris ar eu hamrywiol nwydd- au cyn cyfnewid, fel y deallont yr en- nill neu y golled trwy y fasnach. Y nwyddau mwyaf eu gwerth sydd yn cael y sylw blaenaf, a'r gofal mwyaf am danynt, rhag i ddim eu hanafu neu eu Uadrata. Y mae dyn hefyd yn y cy- fíredin yn deall gwerth pethau daearol yn lled dda wrth fasnachu, a thrwy hyny yn mynu gwerth am werth. Ond yn ei fasuach foesol ac ysbrydol, y mae yn gwbl i'r gwrthwyneb. Y mae yn rhoddi y goreu am y gwaethaf—yr aur am sothach—yn gwario ei arian am yr hyn nid yw fara, a'i lafur am yr hyn md yw yn digoni—yn gwerthu ei enaid i'w fwrddrwyr am lai na dim. Y peth mwyaf ei werth yn ein byd ni yw enaid dyn. Er ei fod wedi colli ei ogoniant a'i fawredd crëadigol, y mae yn para o werth mawr i'w berchenog. Nis galì un dyn werthu neu golli ei enaid o ran ei hanfod fel crëadur ; y mae felly yn feddiant personol di-drosglwyddiad gan bob dyn, i barhâu byth yn ei feddiant ei hun. Ond y mae wedi ei werthu, ac yn golledig, o ran ei ddedwyddwch a'i fwynhâd. Hyn sydd eisieu ar ddyn—ei adbrynu yn ol idäo ei hun; ond y mae yn oímod o werth; y mae y pris yn rhy uchel i'w law ef byth ei gyrhaedd. " Beth a rydd dyn yn gyfnewid am ei enaid ?" Yr ateb yw, "Gwerthfawr yw pryniad yr enaid, a hyny a baid byth." Nis ceir byth y gwerth mewn pethau goreu crëadigaeth; y mae ennill yr holl fyd yn rhy fach i'w brynu yn ol. Megys y dywed Duw am ddoethineb, felly hefyd y gellir dywedyd am enaid, "Ni ŵyr dyn beth a dâl hi; ac ni cheir hi yn nhir y rhai byw. Y mae y dyfnder yn dywedyd, Nid ydyw hi ynof fi-r-ni cheir hi er aur pur, ac nid ellir pwyso ei gwerth hi o arian." Y gwrthddrych gwerth- fawr hwn—yr enaid sydd gan bob dyn, ymhob gwlad a chongl o'r ddaear Ue y Ereswylia dynion,—yw y peth iselaf ei ris, a lleiaf ei barch gan bawb, oddi- eithr ychydig eithriadau. Nid ydyw yn dyfod o fewn syniad un ddarpariaeth tuag at ei ddiogelu, neu ei ddedwyddu, yn holl ddarpariaeth dynion. Y mae pawb yn darpar tuag at gysur a ded- wyddwch eu cyrff yn feunyddiol. Rhaid cael ymborth a dillad, a thai i breswylio, a darparu yr haf erbyn y gauaf. Y maent hefyd yn darparu er lles a chyn-