Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DRYSORFA. Ehip. CX.] CHWEFROR» 1856. [Lltfr X. ŵnrfljate n ŵjtftórójjínL Y GALON WEDI EI CHRYFHAU A GRAS. NoDIADAU AR HEBREAID xiii. 9. "Da yw bod y galon weái ei chryfhâu â gras." Mae yn ainlwg fod yn yr Hebreaid ryw ymlyuiad cryf wrth yr hen grefydd luddewig, a'r defodau seremou'iol hyuy a oedd yu sefyll ar fwydydd a diodydd, ac amryw olchiadau, a defodau cnawdol, y rhai nid allent o ran cydwybod ber- fíeithio yr addolydd." Nid allent hyny, hyd yn nod yn eu cyfnod priodol eu hunain; hyny yw. nid alleut ynddynt eu hunain, oblegid na feddent y rhin- wedd oedd yn anghenrheidiol. Pa rin- wedd a all fod mewn gwaed anifeiliaid iburo cydwybod euog pechadur ì "Au- mhosibl y w i waed teirw a geifr dynu ymaith bechodau." Ond yr oedd yr aberthau hyny yn ateb dyben fel ar- wyddlun neu gysgod o aberth gwell, yr hwn oedd â rhinwedd ynddo i ateb y dyben ; ac fel moddion, yr oeddynt yn ateb i arwain meddwl yr addolwyr trwyddynt at Grist, er derbyn rhinwedd allan o hono. Heb hyn nid oeddynt yn ateb un dyben iddynt hwy, mwy nag y mae holl foddion gras yn ateb dyben i ninnau heb eu bod yn arwain ein meddwl mewn fìỳdd at Dduw mewn Cyfryngwr. Yr oedd canlyn y cysgod- au hyd ddyfodiad Crist, yn arwain at Grist; ond yr oedd ceisio canlyn y cyf- ryw ddefodau wedi ei ddyfodiad ef, yn arwain oddiwrtho i fyned ar gyfeiliorn i "athrawiaethau amryw a dyeithr;" y rhai oeddynt ddyeithr i athrawiaeth yr efengyl. Gyda golwg ar hyn y mae yr Apostol yn rhoi y cynghor, "Na'ch .arweinier oddiamgylch âg athrawiaeth- au amryw a dyeithr." Gan fod cymaint o athrawiaethau cyfeiliornus yn bod eto yn y byd, mae y cynghor yn briodol iawn i ninnau yn bresennol. Rheswm yr Apostol dros yr annog- aeth hon yw, "Canys da yw bod y galon wedi ei chryf hâu â gras," yr hyn nas gall yr athrawiaethau dyeithr hyn byth ei wneyd. Nid oes un athrawiaeth yn cyfateb i gyflwr ac anghen calon pech- adur ond athrawiaeth "efengyl gras Duw." " Da yw," gwell yw, neu anghenrheid- iol yw, " fod y galon wedi ei chryf hâu â gras." Mae y galon yma yn gosod allan yr enaid, a hyny yn ei holl gyn- neddfau ; y deall, yr ewyllys, y serch, y cof, a'r gydwybod. Da yw bod yr enaid wedi ei gryfhâu â gras. Wrth ras yma mae i ni ddeall "dawn Duw," neu rodd i*ad yr Anfeidrol, yn cael ei weinyddu at, ac yn, y pechadur er ei unioni ai feddyginiaethu. Mae yn cynnwys poi> gras fel rhy w uu anian blanedig yn y galon ; grym duwioldeb yn y dyn oddi- mewn. Mae yn amlwg yn yr holl wirionedd fod rhyw sylw mawr gan Dduw ar galon dyn, a rhyw ofal mawr am y galon. Ar y galon mae Efe yn sylwi. " Nid edrych Duw fel yr edrych dyn; canys dyn a edrych ar y golygiad, ond yr Arglwydd a edrych ar y galon." Wrth y galon mae Ëfe yn flefaru. Mae yn dyweyd wrth ddyn pa fath un yw ei galon—yn cyfeirio holl saethau y gwirionedd at y