Skip to main content

Y DEYSORFA. Ehif. CIX.] IONAWR, 1856. [Lltfr X. ẅwtjiiŵatt u ŵjnẅrfjjaif. TRAETHAWD AR DDARLLEN YR YSGRYTHYRAIT. GAN Y DIWEDDAR BARCH. JOHN ELÍAS. [Dywetlir wrthym mai y traethawd canlynol oedd y cyfansoddiad cyntaf a ddarparwyd gan ei awdwr hyglod i'r argraffwasg. Cy- hooddwyd ef yn y flwyddyn 1800, pryd nad oedd Mr. Elias ond 2*6 mlwydd oed, ac nid ydym yn deall y bu yn cael ei argrafíu ar ol îiyny hyd yn awr. Gan ei fod mor rhag- cyflyfr hwn o'r Dbysorfa.] Braint neillduol i ni ydyw cael Gair Duw, a'i gael yn ysgrifenedig yn ein hiaith ein hunain. Yr oedd Israel Duw gynt yn cydnabod hyn yn fraint arben- ig: " Y mae eí'e yn niynegu ei eiriau i Jacob, ei ddeddfau a'i farnedigaethau i ísrael. Ni wnaeth efe felly âg un geii- edl." Y mae yn anmhosibl, yn ol trefn gyflredinol Duw, i ddynion ei adnabod ef yn Dduw iachawdwriaeth, ond trwy y Gair. Er fod " y nefoedd yn dadgan gogoniant Duw, a'r ffurfafen yn mynegu gwaith ei ddwylaw ef," eto ei gyfraith sydd "yn troi yr enaid, yn goleuo y llygaid, ac yn gwueuthur y gwirion yn ddoeth." Er fod " ei dragy wyddol allu ef a'i Dduwdod, yn amlwg" yn y grëad- igaeth, hyd onid yw y cenedloedd oll "yn ddiesgus," eto nid oes hanes am Gyfryngwr, nac iachawdwriaeth i bech- adur, mewn un man ond yn y Gair. Y mae'r "dirgelwch oedd guddiedig er oesoedd a chenedlaethau—y ddoethin- eb guddiedig a ragordeiniodd Duw cyn yr oesoedd, i'n gogoniant ni," yn dyfod ar amlwg yn y Gair. Y mae holl gynghor Duw, a'i galon megys, yn cael ei dadguddioyma, a thrysorau yu dyfod i'r golwg na welwyd mohonynt yn y grëadigaeth erioed. Mae yn debygol na wyddai angelion, na dyn, am un ffordd i godi pechadur, hyd oni ddad- guddiodd Duw ei fwriacl a'i lwybr grasol yn yr addewid am Had y wraig. Gall- wn feddwl i'r Diafol dybied, ond cael y dyn unwaith i lawr i bechod, y byddai mewn cadwynau tywyllwch mor sicr âg ef ei hunan, ac nad oedd un ffordd na gobaith o ymwared. Ni wyddai Adda, mae yn ddiammheu, am un ffordd i ddysgwyl cael gwaredigaeth drwyddi, ac nid oedd ganddo ond dechreu ym- grwydro yn ddychrynedig, i ffoi rhag y Duw y troseddasai i'w erbyn. Yr ang- elion glân hwythau, mae yn debygol, ni fedrent lai na dysgwyl dinystr y dyn gyda yr angelion a gwympasent. Ond yn yr addewid, dadguddiodd Duw ei gynghor, a'r drefn oedd ganddo ynddo ei hun erioed, er achubiaeth i'r pech- adur, gorfoledd i'r angelion, a siomed- igaeth a dychryn i'r llu uffernol. Y mae yr addewid yma, gyda ei chyflawn- iad, genym yn y Gair ; mae y ffordd a ddadguddiwyd wedi ei gorphen, a'i chysegru trwy y llèn ; ac y mae hyn oll yn cael ei egluro mor amlwg, hyd onid all plant a phobl uuiaith ddarllen yn y Bibl y cynghor dirgel a gogoneddus oedd gan y Drindod yn nhragywyddol- deb mewn perthynas i ddyn syi'thiedig. Gallant! a darllen hefyd am gyflawniad sicr o'r cynghor yma, yn anfoniad a chnawdoliaeth y Mab, a'i ufudd-dod gweithredol a dyoddefol; ac hefyd am anfoniad yr Ysbryd Glân, a'i waith yn