Skip to main content

MARWOLAETH Y PARCHEDIG JOHN PARRY, CAERLLEON. Er dirfawr alar i gylch helaeth o frodyr a chyfeillion crefyddol, bu farw y Parch. J. Parry, Caerlleon, am haner awr wedi 11 o'r gloch, nos Fawrth, yr 28ain o Ebrill, a*r ol tua phedair wythnos o gystudd ysgafn, yn 71 mlwydd oed. Mae enw a nodweddiad Mr. Parry mor hysbys drwy Gymru oll, fel Gweinidog parchus, pregethwr llafurus, ac awdwr hyfedr, fel nad rhaid dweyd dim am dano, o'r bron. Bu yn Gyhoeddwr ac yn Olygydd i "Oleuad Cymru " am flynyddoedd lawer; a dygai.hwn y'mlaen yn fedrus er coethi chwaeth ei genedl, pan oedd yn llawer tlotach o raii misolion nag yw yn awr: ac o ufudd-dod i gais ei ftodyr rhoddes y Goleuad i fynu, fel y dygai hen gyhoeddiad y Corff,—"Y Drysorfa," (yr hon a attaliesid am ftyn- yddoedd cyn hyny) yn mlaen yn fisol; a mawr fu ei ofal, hyd ei farwolaeth, am wasanaethu ei frodyr yn hyn, fel mewn pethau ereill, heb goll na gwall, hyd y gallai. Bu Mr. Parry yn arail y praidd yn eglwys y Trefnyddion Calfinaidd yn Nghaer am ddengain mlynedd lawn, gyda gofal a ffyddlondeb mawr. Er ys rhai misoedd cyn ei farwolaeth yr oedd ei bregethau, a'i gynghorion yn yr eglwys, yn fwy efengylaidd, blasus, a nefolaidd nag arferol. Yn ei bregethau yr oedd dysymlrwydd ei ddull, a'i egn'iad dibaid i geisio peri i'r gwanaf ei ddeall allu dirnad yr hyn oedd ganddo yn ei drin, yn peri ei fbd yn hoff gan lawer eistedd o dan ei weinidogaeth. Bywyd a marwolaeth Crist oeddynt brif destynau ei fyfyrdodau : at hyny y llithrai fel yn ddiarwybod iddo ei hun, yn y cyfar- fodydd neillduol, ac mewn pob ymddyddanión crefyddol. Yr oedd yn sylwyddgar iawn ar arwyddion \ r amserau: a myfyriai lawer ar lyft y Datguddiad. Hanesion am lwyddiant y Genadaeth yn Cassia ac yn Llydaw, a wnai i'w enaid «irioli ynddo; ac yr osdd yn dwyn y fath eiddigedd cryf dros led-daeniad achos Crist yn mhellderau y byd, nes y meddylid weithiau ei fod yn barod i ymgyflwyno i'r gwasanaeth ei hunan, hyd oniorfyddai iddo ddweyd, "Ond, wel, wel, yr wyf fi yn rhy hen." Pan glywodd gyutaf amy "Cynghrair Efengylaidd," bu yn destyn gorfolcdd i'w ysbryd, a dywedai yn fynych mai dechreuad dyddiau hafaidd y mil blynyddoedd oeddynt, a phnodas y sectau gwahanol er dinystrio y Butain Rufeinig. Edrychai ar led-daeniad Puseyaeth, ac egrííad Pabyddiaeth 'at ad-feddiannu y wlad, gyda galar a thristwch; a mawr oedd ei Awyddfryd, o gwelsai yr Arglwydd yn dda estyn ei ddyddiau, i ysgrifenu Catecism, a llyfrau bychain ereill, i geisio gwrthweithio y lefain oedd yn dechreu suro y wîad. • Teimlir colled yn hir ar ei ol,—a pherchid ef yn fawr gan ei gyd-ddinasyddion yn g\ flredinol. Claddwyd ef yn mynwent Eglwys St. John, Caerlleon, ar ddydd Gwener, y laf o Fai. Ar y Sabbothau canlynol pregethwyd pregethau anghladdol iddo mewn pump o wahanol fanau yn y ddinas. Yn nghapel cyfundeb Lady Huntingdon—yn nau gapel yr Annibynwyr Saesonig—yn Eglwys St. Pedr, gan y 'Parch. C. B. Tayler, (yr hwn hefyd a ofynai gael y "fraint" o ddarllen gwasanaeth v claddedigaeth)—ac yn nghapel y Trefhyddion Calfinaidd Cymreig, gan y Parch. Henry Rees, Liverpool. Gan fod ein cyfaill Mr. Rees wedi addaw parotoi y syiwadau a wnaeth y'nghylch Mr. Parry, yn ei bregeth, mewn pryd i'w cyhoeddi yn y Rhifyn nesaf, nid ymhelaethwn yn bresenol; ond terfynwn gvda chyfleu o flaen ein darllenwyr y llinellau canlynol, y rhai a gyfansoddwyd gan êin cyfaill Asiedydd, ar yr achlysur galarus tan sylw. Eik Paury o Gaerlleon, ... A 'nolwyd gan anwylion, nefol addas, Hen arfaeth lân y Drindod Esgorodd ar ei diwrnod, i'w ddwyn i'w deyrnai. Yn awr,—rhyw dduo wnaeth y wawr, Ni chly wn ond hyny, ef yn araethu, O blaid yr Iesu, er taenu yr achos mawr, Fe ddarfu'r genadwri fu'n gloywi llwydni'r llawr, Yn ddir—pair alar trwy ein tir, O golli awdwr, oedd yn bregethwr, A gwiw esboniwr fu'n noddwr ini'n hir, r ■ Tra pharchus er ei farw, fydd enw PARRY'n wir, Y brawd euraidd o'n brodorion,—a gwr A geríd gan ddoethion; Un oedd law i'n hathrawon, * " A llyw'r iaith - gwellâwr hon.