Skip to main content

Y DRYSORFA. Rhif. cxlii.] HYDREF, 1842. [Llyfr XII. AMMODAU Y CYFAMMOD GítAS 0 DU CRIST Gwirionedd yw fod cyfammod, nen sefydliad, yn bod rhwng y Personau dwyfol, yn mherthynas i gadwedigaeth pechaduriaid o ddynolryw. Y Duwdod yn un hanfod ddwyfol yn mherson y Tad, yn sefyll dros anrhydedd a go- goniant y gyfraith sanctaidd, a dros- eddid gan ddyn. A'r Mab, fel Pen- cyfammodwr, yn sefyll dros, ac yn ym- rwymo i gyflawni holl ammodau y cyfammod ar ran y rhai oll a gredai ynddo. Yr ammodau o du Crist, y pen-cyf- ammodwr, oeddynt rhoddi ar ran yr had cyfammodol yr hyn oll oedd ddyled- us arnynt i'r ddeddf. Mewn gair, am- mod, ynghyd a bygytbiad, y cyfammod gweithredoedd, oeddynt ammodau y cyfammod gras. Ammod y cyfammod gweithredoedd oedd ufudd-dod perffaith i'r gyfraith sanctaidd, oedd ynghalon djm yn ei greadigaeth, "Gwna hyn abyw fyddi." " Os ewyllysi fyned i mewn i'r bywyd, cadw y gorchymynion." Y bygythiad cysylltiedig â thorìad yr ammod oedd marwolaeth; "Gan farw y byddi farw." Ac y mae holl Waith Crist, o Bethlehem Juda i fedd newyddJoseph o Arimathea, yn ateb yn gyflawn iddynt; a chan hyny, mae yn rhaid mai ammod,ynghydabygyth- iad, y cyfammod gweitbredoedd, oedd- ynt ammodau y cyfammod gras. Bywyd Crist yn ateb i'r ammod, sef, " gwna hyn;" a'i farwolaeth yn ateb i'r bygythiad, sef, "gan farw y byddi farw." Ufudd-dod Crist, y cyfiawnder tragywyddol a ddygodd i mewn, yn ateb i'r ammod : a'i ddyoddefiadau, yr Iawn anfeidrol a roes i Dduw, yn ateb i'r bygythiad. Fe'i gwnaethpwyd ef dan y ddeddf, Gal. 4. 4.; dan y ddeddf fel yr oedd yn ammod y cyfammod gweithredoedd, ac yn un o ammodau y cyfammod gras. Fe'i gwnaethpwyd ef dan fygythiad y eyfammod gweithred- oedd, trwy i'r bygythiad gael ei ddwyn i mewn, yn un o ammodau y cyfam- mod tragywyddol, " Cospedigaeth ein heddwch ni oedd arno ef." " A'r Ar- glwydd a roddes arno ef einhanwiredd ni i gyd." " Rhoddwyd pla arno ef am gamwedd fy mhobl." " Esa. 53. 5, 6, 8. Ni buasai gan y Tad ddim awdurdod i anfon y Mab, a rhoddi pechodau ei bobl arno, oni buasai ei fod wedi ym- rwymo mewn cyfammod i ddyfod, a dwyn " ein pechodau yn ei gorpb ar y pren." Nid dyfod i'r byd, a chymeryd ei wneud yn bechod dros ei bobl, er mwyn ufuddhau i'w Dad, am.ei fod yn Dad iddo, a wnaeth y Mab, fel ag y mae meibion dynion yn gwneud. Ac nid anfon, a rhoddi pechodau ei bobl ar ei Fab a wnaeth y Tad, oherwydd bod ganddo awdurdod arno fel ei Fab ei hun, fel ag sydd gan dadau naturiol ar eu meibion; na,ynyrystyr ynanid oes gan y Tad ddim mwy o awdurdod ar y Mab, nag sydd gan y Mab arno yntau, oblegid un ydynt. " Myö a'r Tad un ydym." Un mewn awdurdod, mewn gallu, ac mewn anrhydedd. Mae pob priodoledd ag sydd yn y Tad yn y Mab, oddieithr ei briodoledd bersonol. Ac y mae priodoledd ber- sonol yn pertbyn i'r Mab, nad yw yn perthyn i'r Tad, sef cael ei genhedlu. " Fy Mab ydwyt ti, myfi heddyw a'th genhedlais." Salm 1. 7. Ond am holl briodoliaethau yr hanfod y maent yn briodol i'r ddau fel eu gilydd. Beth bynag sydd yn ddyledus i'r Tad, mae yn ddyledus i'r Mab. Os yw addoliad yn ddyledus i'r Tad, mae hefyd.i'r Mab. " Ac addoled holl angelion Duw ef." Heb. 1. 6. Os yw y Tad yn wrthrych gweddi, mae y Mab hefyd. " Arglwydd lesu, derbyn fy ysbryd." Actau T. 59. Yn yr ystyr yma, un ydynt; a chan hyny nid oedd, ac nid oes, gan y Tad