Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DRYSORFA. Rhif. cxxiv.] EBRILL, 1841. [Llyfr xr. TRAETHAWD AR YMDDYDDAN CREFYDDOL. GUn fod ymddyddan creîyddol yn fodd- ion gras, neu, yn ngeiriau yr ysgrythyr, ' yn adeilada yn fuddiol, ac yn peri gras i'r gwrandawyr,' a bod y rhai sydd «yn ofniyr Arglwydd,' yn mhob oes, 'ya llefaru bot> un wrth ei gym- Jjnydog,' dylem ddwys-ystyried y cldyl- edswydd hon, a'i hyroarferyd 'bob dydd tra y gelwir hi heddyw, fel na j chaleder neb o honom trwy dwyll pechod.' It dyben hyn, sylwn ar ei chynnwys- i^d, ac ar rai o'r petbau annogaethol i'w ebyflawni. I. Nid yw pob math o ymddiddan iim bethau sanctaidd yn teilyngu y nodweddiad o 'Ymddyddan Crefyddol.' Weithiau, y mae pethau mawrion y gyfraith yn cael ymdrin â hwy yn ' eisteddfa gwatwarwyr,' fel dieitbr bethau, yr hyn sydd bechod erchyll: nid lle llestri y deml yw ' cyfeddach y gwin;' ac nid man priodol yr Arch yw tŷ Dagon. ' Na roddwch y peth sydd sanctaidd i'r cŵn, ac na theflwch eich gemau o flaen y moch.' Ymdrin « phethau yr ysgrythyr lân mewn ysgafnder yw cymmeryd Samson i chwareu, a myned at sanctaidd bethau í>ỳ yr Arglwydd â thân dìeitbr, yr hyn sydd yn gyru yr Arglwydd i eiddigedd üwchlaw pob peth. Mynych y canfyddir ' dyuion Hygr- edig eu meddwl, heb fod y gwirion- fidd ganddynt,' yn rhoddi ynfyd a ffol gwestiynau, y rhai sydd yn magu ymrysonau ; ac yn cyndyn ddadleu ar ddyfnion bethau diddadl yr athraw- iaeth sydd yn ol duwioldeb ; ond nid y cyfryw bethau yw yr 'Ymdcìyddan Crefyddol' a orchymynir ac yr annogir ato yo y Bibl- Gorchymynir i ni ochel- >'d ofer-saino'r fathhyn,canys cynnyddu a wnant i fwy o annuwioldeb. Ond cynnwys ' Ymddyddan Crefydd- ol ' siarad mewn iawn ysbryd am Dduw íi'i w?eithredoedd, er canfod a rbyfeddu ei allu, a'i ddoethineb, a'i ddaioni,—sylwi ar wahanol bynciau crefydd, a rhanau yr ysgrythyr,—annog ein gilydd i gariad a gweithredoedd da,—dywedyd profìadau ysbrydol, sef 'yr hyn a wnaeth Duw i'n heneidiau.' Dyma ymddyddan a gymmeradwyir yn ysgrythyr y gwirionedd, ac wrth hyn y rnae Cristionogion yn addoli Duw, ac yn adeiladu eu güydd. II. Cawn amryw resymau annog- aethol at gyflawniad y ddyledswydd hon. 1. Y mae Awdwr ein bod wedi ein cynnysgaeddu â'r ddawn o ymadroddi. Wele all.u na chafodd yr un creadur adnabyddus ei gynnysgaeddu ág ef heblaw dyn; addurn na welir ond ar ddynoliaeth,--rhagorfraint na feddir ond gan hil Adda. Y peiriant ymadrodd- awl ni roddwyd i weithio ond yn y creadur dyn. Ofnadwy a rhyfedd y'n gwnaed ! Pwy a wnaeth ragor rhyng- om ag auifeiliaid y ddaear, ac a'n breintiodd uwchlaw ehediaid yr awyr? Ymadrodd y tafod mewn dyn, oddiwrth yr Arglwydd y mae. Am hyn\r y mae yn weddus a rhesymol iddo gael ei ar- feryd at wasanaeth ei luniwr. Nid pob swydd sydd ddigon uchel i'r aelod ardderchog hwn. Ni ddylai ond geir- iau cymmeradwy ddyfod trwy ddrws ein gwefusau. Defnyddio y fath beiriant euraidd a'r tafod dynoí i drosglwyddo oferedd i glustiau halogedig, i fwrw allan dom a llaid, i ddrwg-sawru'r byd, i frygawthan ffolineb, i gynnyddu ynfydrwydd, ac i adrodd chwedlau gwrachi'aidd er portbi cnawd pechad- urus, sydd anghydweddol â dyben ei gyfansoddiad, yn ddirmyg o'r mwyaf ar ei ddoethaf Awdwr, ac yn warth o'r dyfnaf ar nodweddiad dynoliaeth : am