Skip to main content

Y DRYSORFA. Rhif. cxxiii.] MAWRTH, 1841. [Llyfr XI. PREGETH A BREGETHWYD GAN Y PARCH. J. JONES, Y BORTH, SIR ABERTEIFI, YN NGHYFARFOD MISOL WREXHAM, TACH. 18, 1840. " Gwyliwcb. ac ymogelwch rhag cybydd-dod, canys nid yw bywyd neb yn sefyll ar amlder y pethaû sydd ganddo."—Luc xii. 15. Y dyn bydol hwn a ddaeth at Grist, gan feddwl mai efe ydoedd y Messiab, ac y gwnai derfynu rby w amrafael oedd rhyngddo ef a'i frawd. Mae yn debyg mai ei frawd oedd yr henaf; a chan fod y ddeddf (Deut. 21.17.) yn rhoddi deu- parth yr etifeddiaeth i'r henaf, mynai i Grist newid y ddeddf hon, a pheri i'w frawd ranu âg ef, er iddo ef gael cym- maint ag yntau ; yn canfod y meddwl bydol hwn, mae Crist yn gwrthod ei gais, ac yn dyweyd, 'Y dyn, pwy a'm gosododd i yn farnwr, neu yn rhanwr arnoch chwi V i'n dysgu nad yw achos- ion gwladol yn perthyn i weinidogion y gair; mae 'Gwr Duw i ochel y peth- au hyn,' ag i ' barhau mewn gweddi a gweinidogaeth y gair.' Mae Crist yn cymmeryd achlysur i rybuddio pawb äg oedd yn clywed, rhag cybydd-dod; Ue gallwn gasglu mai cybydd-dod oedd gwreiddyn yr ymofyniad. * Edrychwch,' sylwch arnoch eich hunain, cedwch lygad eiddigus ar eich calonau,' Ymogelwch,' gwyliwch, rhag bod egwyddorion cybyddlyd yn llyw- odraeihu y galon: mae dyblu y go- cheliad yn dangos difrifwch, a bod cy- bydd-dod yn nwyd rymus iawn : bydd- ai yn dda i ddynion pur grefyddol sydd yn cyfreithloni eu hunain mewn cariad at y byd, sylwi mwy ar y gocheliad bwn: mae amryw ganghenau i'r gwreiddyn chwerw hwn, ac amryw raddau o hono : ychydig a geir nad yd- ynt, i ryw raddau, yn euog o hono, mewn rhyw ffordd neu gilydd. Pe de- allem natur atgas y pechod hwn, a'r anhawsder mawr i'w wella, gwelem ddigon o reswm am y gocheliad. I. Am natur, nodau, ac arwyddion cybydd-dod. 1. Mae hanfod y pechod hwn yn y gair < Ariangarwch:' ewyllysio ym- gyfoethogi y w; awydd anghymraedrol am fwy o gyfoetb, oddiar ormod gwerth ynddo, a' chariad ato. Trosedd yw o'r degfed gorchymyn, < Na chwen- ych.' Jos. 7. 21. ' Pan welais yn mysg yr yspail fantell Babilonig deg, a dau can sicl o arian, yna y chwenychais hwynt;' yn 1 Ioan 2. 16. «Chwant y llygaid' y gelwir ef; nid oes terfyn iddo, na diwallu arno, pa faint bynag gaffo, eisiau caei mwy ; Preg. 5. 10. ' Y neb a. garo arian, ni ddigonir âg arian;' Hab. 2. 5. «Efe a helaetha ei feddwl fel uffern, ac y mae fel angeu, ac nis digonir.' Dymuniadau naturiol ydynt yn llaesu, ond cael yr hyn sydd angen- rheidiol, ond^ chwant nid oes diwallu arno. Rhyw'frys awyddus am gyfoetb, fel un mewn clefyd poeth am ddiod, fel eryr yn ehedeg at ei ysglyfaeth, gaf- aelu ynddo gyda'r fath awydd, fel pe na wyddai y pryd i gaeldigon; ariangar- wch, yr hon a 'rhai yn chwannog iddi.1 Dynion ydynt yn gyffredin ar y cyntaf yn chwenych arian er mwyn cyrhaedd rhyw beth'au dymunol ereill; ondllawer a ddecbreuasant fel hyn a ddaethant o'r diwedd i garu arian er eu mwyn eu hun; a'r pryd hyn, mae yn dechreubod yn gybydd, neu yn ddelw-addólwr. Caru arian, o dra serch at arian, yn- ddynt eu hunain,syddagwedd ar ysbryd dyn hollol groes i ddeddf yr Argíwydd, yr hon a orcbymyn i ni garu Duw â'n holl galon; yma mae euogrwydd y pech- od hwn, cymmeryd y creadur yn Uc Duw, yr hwn mae ganddo yr hawl gynt- af, Diar. 23. 26. «Fy mab, moes i mi dy galon,' nid i'r byd: y sercb, yr ym- ddiried a roddir gan y gwir addolwr i'r gwir Dduw, a roir gan y cybydd i'r byd. A yw y gwir addolwr yn caru Duw ? felly mae yr eilun-addolwr hwn yn caru y byd; dewis y clai, o ran serch ac ymddiried o flaen Duw, gwreiddyn pob tegwch; pydewau toredig o flaen